Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol
Rhoi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch roi gwybod os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy바카라 사이트™n effeithio ar eich 바카라 사이트˜gallu i weithio바카라 사이트™.
Gallai hyn olygu eich bod:
- angen cefnogaeth yn y gwaith
- angen dod o hyd i waith addas
- methu gweithio dros dro neu yn y tymor hir
Gallwch barhau i weithio os teimlwch y gallwch neu os dewch o hyd i waith addas. Darganfyddwch fwy am gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.
Sut i roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd
Bydd angen i chi ddarparu manylion am eich cyflwr iechyd, megis:
- triniaethau meddygol yr ydych yn eu derbyn
- os ydych yn yr ysbyty neu바카라 사이트™n disgwyl mynd i바카라 사이트™r ysbyty
- os ydych chi바카라 사이트™n feichiog
Nid oes angen i chi ddarparu바카라 사이트™r rhain os ydych yn agosà u at ddiwedd oes.
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn syth, gan gynnwys:
- newidiadau i바카라 사이트™ch cyflwr iechyd, er enghraifft mae바카라 사이트™n gwella neu바카라 사이트™n gwaethygu
- cyflwr iechyd newydd
Gallwch wneud hyn yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
Nodiadau ffitrwydd
Mae바카라 사이트™n rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd (a elwir hefyd yn 바카라 사이트˜nodyn salwch바카라 사이트™) os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 7 diwrnod.
Efallai na fydd angen i chi gael nodyn ffitrwydd os ydych chi wedi symud neu바카라 사이트™n symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol.
Bydd gofyn i chi ddarparu manylion o바카라 사이트™ch nodyn ffitrwydd yn eich cyfrif.
Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan un o바카라 사이트™r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:
- meddyg teulu neu feddyg ysbyty
- nyrs gofrestredig
- therapydd galwedigaethol
- fferyllydd
- ffisiotherapydd
Gellir ei argraffu neu roi ar ffurf digidol.
Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 28 diwrnod, efallai y bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd nes eich bod wedi cael penderfyniad am eich asesiad.
Pan ddaw eich nodyn ffitrwydd i ben
Os yw eich iechyd yn dal i effeithio ar eich gallu i weithio rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd newydd pan ddaw i ben.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa cyn i바카라 사이트™ch nodyn ffitrwydd ddod i ben. Bydd y nodyn atgoffa yn cynnwys y dyddiad y mae angen i chi roi gwybod am un newydd erbyn.
Bydd angen i chi ddiweddaru바카라 사이트™r manylion yn eich cyfrif gyda바카라 사이트™ch nodyn ffitrwydd newydd. Os na wnewch hynny, bydd angen i chi fynychu apwyntiad gyda바카라 사이트™ch anogwr gwaith i drafod eich ymrwymiad hawlydd.
Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.
Os oes angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch
Pwrpas yr Asesiad Gallu i Weithio yw helpu i benderfynu faint mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.
Efallai na fyddwch yn cael asesiad os ydych yn ennill dros £846 y mis.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr sy바카라 사이트™n dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Cyn eich asesiad, bydd angen i chi lenwi holiadur iechyd 바카라 사이트˜Gallu i Weithio바카라 사이트™ (UC50). Byddwch yn gallu anfon copïau o wybodaeth feddygol arall gyda hwn, fel cynlluniau triniaeth neu ganlyniadau profion.
Gall yr asesiad fod mewn person, drwy alwad fideo, neu dros y ffôn.
Gallwch gael rhywun gyda chi, er enghraifft ffrind neu weithiwr cymorth.
Cyn penderfyniad eich asesiad
Hyd nes y gall penderfyniad gael ei wneud ar eich Asesiad Gallu i Weithio, byddwch naill ai바카라 사이트™n:
- cael y lwfans safonol, os ydych yn gwneud cais newydd
- parhau i gael yr un swm o Gredyd Cynhwysol, os ydych yn dweud wrthym am newid mewn amgylchiadau.
Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd a darparu manylion amdanynt yn eich cyfrif hyd nes y byddwch wedi cael penderfyniad am eich asesiad. Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.