Gweithio a hawlio Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau ar unwaith, gan gynnwys dod o hyd i swydd neu ei gadael.

Gallwch ennill hyd at swm penodol heb iddo effeithio ar y swm o Gredyd Cynhwysol a gewch. Gelwir hyn yn 바카라 사이트˜lwfans gwaith바카라 사이트™.

Os ydych yn ennill dros £846 y mis, efallai na fyddwch yn cael Asesiad Gallu i Weithio pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os yw바카라 사이트™ch amgylchiadau바카라 사이트™n newid.

Siaradwch â바카라 사이트™ch anogwr gwaith neu defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod sut mae gweithio yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.