Anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch herio penderfyniadau neu gosbau treth penodol gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch herio rhai penderfyniadau ynghylch:

  • cosb (er enghraifft, os gwnaethoch dalu바카라 사이트™ch treth yn hwyr neu gyflwyno바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth yn hwyr)
  • eich bil treth (er enghraifft, Treth Incwm, Treth Gorfforaeth, TAW)
  • hawliad am ryddhad treth
  • cais am wybodaeth neu gais i wirio바카라 사이트™ch cofnodion busnes

Os ydych yn dymuno, gallwch benodi rhywun arall i ddelio â CThEF ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).Ìý

Mae바카라 사이트™n bosibl y gallwch oedi cyn talu바카라 사이트™r bil neu바카라 사이트™r gosb hyd nes bod y mater wedi바카라 사이트™i setlo.

2. Anghytuno â phenderfyniad treth

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi yn ei lythyr o benderfyniad beth i바카라 사이트™w wneud os ydych yn anghytuno.

Fel arfer bydd gennych 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad i naill ai apelio neu dderbyn adolygiad.

Os byddwch yn methu바카라 사이트™r dyddiad cau, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol.

Mae sut rydych yn herio penderfyniad yn dibynnu a yw바카라 사이트™n dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Treth uniongyrcholÌý

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm (gan gynnwys TWE)
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Treth anuniongyrchol

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecséis
  • Toll Dramor
  • Trethi Amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, Treth Dirlenwi neu바카라 사이트™r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Anghytuno â phenderfyniad treth uniongyrchol

Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud apêl ac erbyn pryd y mae바카라 사이트™n rhaid i chi apelio. Mae바카라 사이트™r dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.

Gallwch wneud y naill neu바카라 사이트™r llall o바카라 사이트™r canlynol:

  • defnyddio바카라 사이트™r ffurflen apelio a gawsoch gyda바카라 사이트™ch llythyr o benderfyniad
  • ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio바카라 사이트™r cyfeiriad ar y llythyr

Os nad oes gennych lythyr na ffurflen apêl, gallwch ysgrifennu at y swyddfa CThEF sy바카라 사이트™n ymwneud â바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth.Ìý

Bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF beth rydych yn anghytuno ag ef a pham.

Gallwch hefyd gynnwys:

  • eich enw neu enw바카라 사이트™ch busnes
  • eich cyfeirnod 바카라 사이트“ er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • unrhyw wybodaeth ychwanegol neu unrhyw beth yr ydych yn meddwl bod CThEF wedi바카라 사이트™i fethu
  • y ffigurau cywir yn eich barn chi, a sut yr ydych wedi바카라 사이트™u cyfrifo

Ar ôl i chi anfon eich apêl

Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich apêl.Ìý

Bydd eich gweithiwr achos yn ceisio dod i gytundeb â chi. Datrysir y rhan fwyaf o anghytundebau drwy바카라 사이트™r dull hwn. Bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth sydd wedi ei benderfynu.

Os na fydd yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.Ìý

Fel arfer, mae adolygiadau바카라 사이트™n gynt nag apeliadau i바카라 사이트™r tribiwnlys treth.

Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud apêl 바카라 사이트“ does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr apêl.

I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr apêl ati.

Anghytuno â phenderfyniad treth anuniongyrchol

Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn y llythyr o benderfyniad.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Fel arfer, mae adolygiadau바카라 사이트™n gynt nag apeliadau i바카라 사이트™r tribiwnlys treth.

Os hoffech gael adolygiad ond bod angen mwy o amser arnoch (er enghraifft, i gasglu gwybodaeth i바카라 사이트™w rhoi i바카라 사이트™r swyddog adolygu), gallwch ofyn i CThEF ymestyn y dyddiad cau. Mae바카라 사이트™n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig.

Ni allwch gael estyniad i바카라 사이트™r dyddiad cau ar gyfer apelio ar y tribiwnlys treth.

Os yw바카라 사이트™ch eitemau wedi바카라 사이트™u hatafaelu, gallwch ofyn am eu cael yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).

3. Anghytuno â chosb

Mae바카라 사이트™n bosibl y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi cosb arnoch os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • cyflwyno Ffurflen Dreth yn hwyr
  • talu바카라 사이트™ch treth yn hwyr
  • cyflwyno Ffurflen Dreth wallus
  • methu â chadw cofnodion digonol

Os ydych yn anghytuno â바카라 사이트™r gosb, bydd angen i chi egluro바카라 사이트™r rhesymau wrth CThEF. Er enghraifft, os oes gennych esgus rhesymol neu os ydych o바카라 사이트™r farn bod y gosb yn anghywir.

Fel arfer, cewch gysylltu â CThEF neu apelio cyn pen 30 diwrnod i바카라 사이트™r dyddiad yr anfonwyd eich cosb. Os byddwch yn methu바카라 사이트™r dyddiad cau, bydd angen i chi roi rheswm.

Mae gwahanol ffyrdd o herio바카라 사이트™r gosb, yn dibynnu a yw바카라 사이트™n dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Cosbau treth uniongyrchol (gan gynnwys Hunanasesiad)

Gwiriwch pryd a sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad.

Mae yna ffurflenni penodol mae바카라 사이트™n rhaid i chi eu defnyddio i wneud y canlynol:

Ar gyfer unrhyw fath arall o gosb treth uniongyrchol (er enghraifft Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf), dilynwch y cyfarwyddiadau ar y llythyr o gosb neu defnyddiwch y ffurflen apêl a ddaeth gydag ef.

Os nad oes gennych ffurflen apelio

Anfonwch lythyr wedi바카라 사이트™i lofnodi i바카라 사이트™r swyddfa CThEF sy바카라 사이트™n ymwneud â바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth.

Esboniwch pam mae바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth neu바카라 사이트™ch taliad yn hwyr, gan gynnwys dyddiadau.

Dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:

  • eich enw
  • eich cyfeirnod 바카라 사이트“ er enghraifft, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Os nad oeddech yn gallu cyflwyno neu dalu oherwydd problemau cyfrifiadurol, dylech gynnwys y canlynol:Ìý

  • y dyddiad y gwnaethoch geisio cyflwyno neu dalu ar-lein
  • manylion unrhyw neges gwall gan y system

Yr hyn sy바카라 사이트™n digwydd ar ôl i chi herio cosb

Os na fydd CThEF yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.

Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud apêl 바카라 사이트“ does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr apêl.

I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr apêl ati.

Cosbau treth anuniongyrchol (gan gynnwys TAW)

Bydd CThEF yn cynnig adolygiad i chi yn eich llythyr o benderfyniad ynghylch cosb.Ìý

Bydd gennych 30 diwrnod i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Fel arfer, mae adolygiadau바카라 사이트™n gynt nag apeliadau i바카라 사이트™r tribiwnlys treth.

Cosbau TAW hwyr ar gyfer cyfnodau TAW sy바카라 사이트™n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023

Y ffordd gyflymaf o dderbyn y cynnig o adolygiad yw drwy ddefnyddio eich cyfrif TAW ar-lein.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at CThEF yn uniongyrchol. Rhowch wybod pa gosb rydych yn ei herio a pham.

CThEF / HMRC
Swyddfa바카라 사이트™r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor바카라 사이트™s Office and Legal Services
BX9 1ZT

Cosbau TAW hwyr ar gyfer cyfnodau TAW sy바카라 사이트™n dechrau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022

Mae바카라 사이트™n bosibl eich bod wedi cael math o gosb o바카라 사이트™r enw 바카라 사이트˜gordal diffygdalu바카라 사이트™. Er mwyn herio gordal diffygdalu, llenwch ffurflen WT2.

4. Cael adolygiad

Gallwch gael penderfyniad treth neu gosb wedi바카라 사이트™i adolygu gan rywun o dîm gwahanol nad oedd yn rhan o바카라 사이트™r penderfyniad gwreiddiol (바카라 사이트˜swyddog adolygu바카라 사이트™). Yr enw ar hyn yw 바카라 사이트˜adolygiad statudol바카라 사이트™.

Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth uniongyrchol, mae바카라 사이트™n rhaid i chi apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn gyntaf cyn y gallwch gael adolygiad.

Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth anuniongyrchol, bydd CThEF yn cynnig adolygiad i chi wrth anfon ei benderfyniad neu gosb atoch.

Faint o amser y mae adolygiad yn ei gymryd

Fel arfer, mae adolygiadau바카라 사이트™n cymryd 45 diwrnod 바카라 사이트“ bydd y swyddog adolygu yn cysylltu â chi os bydd yn cymryd yn hirach.

Yr hyn i바카라 사이트™w gynnwys

Pan fyddwch yn gofyn am adolygiad neu바카라 사이트™n derbyn y cynnig, mae바카라 사이트™n helpu i roi gwybod i CThEF am y canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeirnod, er enghraifft eich rhif cofrestru TAW (VRN)
  • pam rydych chi바카라 사이트™n anghytuno

Ar ôl i바카라 사이트™r adolygiad gael ei gwblhau

Pan fydd y swyddog adolygu wedi cwblhau바카라 사이트™r adolygiad, bydd yn ysgrifennu atoch i naill ai:

  • ategu바카라 사이트™r penderfyniad (mae바카라 사이트™r penderfyniad gwreiddiol heb ei newid)
  • newid y penderfyniad (mae바카라 사이트™r penderfyniad gwreiddiol wedi바카라 사이트™i newid)
  • canslo바카라 사이트™r penderfyniad

Os bydd swyddog adolygu바카라 사이트™n ategu neu바카라 사이트™n newid y penderfyniad a바카라 사이트™ch bod yn cytuno â바카라 사이트™r canlyniad, bydd angen i chi dalu unrhyw swm sydd arnoch.

Os bydd CThEF yn canslo ei benderfyniad ar ôl yr adolygiad, does dim angen i chi wneud dim byd.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad, gallwch apelio ar y tribiwnlys treth. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i바카라 사이트™r dyddiad ar y llythyr ynghylch canlyniad yr adolygiad.

Gallwch hefyd ystyried dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR), ond mae바카라 사이트™n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys treth yn gyntaf.

5. Oedi cyn talu yn ystod apeliadau ac adolygiadau

Mae바카라 사이트™n bosibl y gallwch oedi cyn talu bil treth neu gosb os ydych yn y broses o wneud y canlynol:

  • gwneud apêl ar y tribiwnlys treth
  • gwneud apêl i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
  • cael adolygiad o gosb neu benderfyniad treth

Unwaith y bydd yr apêl neu바카라 사이트™r adolygiad wedi바카라 사이트™i setlo, bydd angen i chi dalu unrhyw swm sydd arnoch oni bai bod y penderfyniad yn cael ei ganslo.Ìý

Gellir codi llog ar y dreth sy바카라 사이트™n destun anghydfod (yn agor tudalen Saesneg) arnoch, hyd nes y bydd yn cael ei thalu. Mae바카라 사이트™n bosibl hefyd y bydd cosb am dalu바카라 사이트™n hwyr yn cael ei chodi arnoch.

Treth uniongyrchol

Gallwch ofyn am gael oedi cyn talu rhan o바카라 사이트™r dreth sy바카라 사이트™n destun anghydfod, neu바카라 사이트™r cyfan ohoni, pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • apelio ar CThEF yn erbyn penderfyniad treth
  • cael adolygiad naill ai o benderfyniad neu o gosb treth

Bydd gennych 30 diwrnod ar ôl dechrau바카라 사이트™r broses i ofyn am gael oedi cyn talu.

Ysgrifennwch at y swyddfa a anfonodd y penderfyniad atoch, gan gynnwys y canlynol:

  • pam rydych chi바카라 사이트™n anghytuno
  • beth yw바카라 사이트™r swm cywir yn eich barn chi
  • pryd y byddwch yn ei dalu

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi ar bapur a yw바카라 사이트™n cytuno y gallwch oedi cyn talu.

Apelio yn erbyn cosb

Os ydych wedi apelio yn erbyn cosb, ni fydd yn rhaid i chi dalu바카라 사이트™r gosb hyd nes bod eich apêl wedi바카라 사이트™i setlo.

Treth anuniongyrchol

Os ydych wedi gofyn i CThEF am adolygiad o benderfyniad treth anuniongyrchol 바카라 사이트“ er enghraifft, TAW neu Dreth Premiwm Yswiriant 바카라 사이트“ ni fydd CThEF yn casglu unrhyw dreth sy바카라 사이트™n destun anghydfod hyd nes bod yr adolygiad wedi dod i ben.

Os byddwch yn apelio ar y tribiwnlys treth, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu바카라 사이트™r dreth cyn y bydd y tribiwnlys yn ystyried eich apêl.Ìý

Pe bai talu바카라 사이트™r dreth yn achosi trafferthion ariannol i chi, gallwch ofyn i CThEF beidio â바카라 사이트™i chasglu hyd nes bo바카라 사이트™r tribiwnlys treth wedi gwneud penderfyniad.

Yr enw ar hyn yw 바카라 사이트˜cais o ran caledi바카라 사이트™. Gallwch wneud cais o ran caledi drwy ysgrifennu at:

CThEFÌý/ HMRC
Swyddfa바카라 사이트™r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor바카라 사이트™s Office and Legal ServicesÌý
Tîm Caledi / Hardship TeamÌý
Apeliadau ac Adolygiadau / Appeals and ReviewsÌý
S0987Ìý
NewcastleÌý
NE98 1ZZÌý

Dylech gynnwys:

  • manylion yr apêl, gan gynnwys y swm sydd arnoch
  • y rhesymau pam y byddai talu nawr yn achosi caledi
  • y swm yr hoffech ei dalu yn nes ymlaen

Cosb

Os ydych wedi gofyn am adolygiad, neu wedi apelio ar y tribiwnlys ynghylch cosb, ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu바카라 사이트™r gosb hyd nes bod eich apêl wedi바카라 사이트™i setlo.

6. Esgusodion rhesymol

Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol os ydych:

  • yn dymuno herio rhai cosbau, er enghraifft cosbau am anfon Ffurflen Dreth neu daliad yn hwyr
  • yn methu dyddiad cau, er enghraifft bod yn hwyr i dderbyn y cynnig o adolygiad neu i apelio yn erbyn penderfyniad

Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth am reswm dilys, er enghraifft:

  • bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth neu wneud taliad
  • bu바카라 사이트™n rhaid i chi aros yn yr ysbyty바카라 사이트™n annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio â바카라 사이트™ch materion treth
  • roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
  • methodd eich cyfrifiadur neu바카라 사이트™ch meddalwedd tra oeddech yn paratoi바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth ar-lein
  • roedd problemau â gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
  • gwnaeth tân, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth
  • roedd oedi gyda바카라 사이트™r post na allech fod wedi바카라 사이트™i ragweld
  • roedd oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
  • nid oeddech yn ymwybodol o바카라 사이트™ch ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi바카라 사이트™i gamddeall
  • roeddech yn dibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich Ffurflen Dreth atom, ac ni wnaeth hynny

Mae바카라 사이트™n rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth neu바카라 사이트™ch taliad cyn gynted ag y gallwch.

Yr hyn na fydd yn cael ei gyfrif fel esgus rhesymol

Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:

  • gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
  • gwnaethoch ei chael hi바카라 사이트™n rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
  • ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
  • gwnaethoch gamgymeriad yn eich Ffurflen Dreth

7. Dod o hyd i help

Gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych ymholiad am benderfyniad treth neu gosb.

Os nad ydych yn deall y penderfyniad, gallwch hefyd gael cyngor gan CThEF neu help proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich amgylchiadau personol, gallwch gael help gan CThEF.

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd mae CThEF wedi delio â바카라 사이트™ch materion treth, gallwch wneud cwyn.