Lwfans Gweini

Sgipio cynnwys

Gwneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy바카라 사이트™n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn 바카라 사이트˜reolau arbennig ar gyfer diwedd oes바카라 사이트™.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael budd-daliadau eraill os ydych yn nesáu at ddiwedd oes.

Cymhwysedd

Rydych yn gymwys os:

  • ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch barhau i ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael y gyfradd uwch o £110.40 yr wythnos.

Gallech hefyd gael Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor ychwanegol.

Ni fydd y llythyr am yr arian a ddyfarnwyd yn sôn am 바카라 사이트˜reolau arbennig바카라 사이트™.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais dros eich hun neu gall rhywun arall wneud cais ar eich rhan (nid oes angen eich caniatâd arnynt).

Mae angen i chi:

  • ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1 - byddant naill ai바카라 사이트™n ei llenwi ac yn rhoi바카라 사이트™r ffurflen i chi neu바카라 사이트™n ei hanfon yn uniongyrchol i바카라 사이트™r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • gwneud cais am Lwfans Gweini ar-lein neu drwy바카라 사이트™r post

Ni fydd angen i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb.

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais, byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a manylion cyswllt
  • manylion o바카라 사이트™r anabledd neu gyflwr iechyd rydych angen cymorth ychwanegol gyda hwy ar ei gyfer
  • manylion meddygfa eich Meddyg Teulu neu ganolfan feddygol
  • manylion eich cartref gofal, ysbyty neu hosbis os ydych yn aros mewn un ar hyn o bryd

Gwneud cais drwy바카라 사이트™r post

Gallwch naill ai: 

  • argraffu a chyflwyno바카라 사이트™r Ffurflen gais Lwfans Gweini
  • cysylltu â바카라 사이트™r llinell gymorth i ofyn am ffurflen gais

Llinell gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Anfonwch y ffurflen gais wedi바카라 사이트™i chwblhau at:

Freepost
DWP Attendance Allowance

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi anfon eich cais, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu바카라 사이트™n anfon llythyr o fewn 3 wythnos i egluro pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad.

Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwch yn cael llythyr yn egluro바카라 사이트™r canlyniad.

Pryd y byddwch yn cael eich talu

Os ydych yn cael dyfarniad o Lwfans Gweini, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn gwneud eich cais.

Os ydych yn argraffu ac yn anfon y ffurflen drwy바카라 사이트™r post, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad mae바카라 사이트™r DWP yn ei derbyn.

Os byddwch yn ffonio바카라 사이트™r llinell gymorth i gael ffurflen, bydd eich cais yn dechrau ar ddyddiad eich galwad ffôn (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos).

Os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini

Cysylltwch â llinell gymorth y Lwfans Gweini ar unwaith os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini a bod gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw.