Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Sgipio cynnwys

Pwy all wneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os:

  • ydych yn byw yn y DU
  • oes gennych yr hawl i weithio yn y DU
  • ydych yn gweithio, chwilio am waith neu fod gennych gynnig i ddechrau swydd

Gallwch ddechrau gweithio cyn derbyn eich rif Yswiriant Gwladol os gallwch brofi bod gennych yr hawl i weithio yn y DU.

Os oes gennych rif Yswiriant Gwladol, nid oes angen i chi wneud cais am un newydd, hyd yn oed os bydd eich manylion personol yn newid. Mae바카라 사이트™ch rhif Yswiriant Gwladol yn aros yr un peth am oes.

Mae바카라 사이트™r canllaw a바카라 사이트™r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid oes angen rhif Yswiriant Gwladol i ddechrau cais am fudd-daliadau neu fenthyciad myfyriwr. Os oes angen rhif Yswiriant Gwladol er mwyn talu eich budd-dal neu fenthyciad myfyriwr, bydd rhywun mewn cyswllt i ddweud wrthych sut i gael un.

Nid oes angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch er mwyn gwneud cais am Y Cynllun Preswylio바카라 사이트™n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych wedi colli eich rhif Yswiriant Gwladol

Gwiriwch sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol coll.

Os ydych yn breswylydd yn y DU sy바카라 사이트™n 19 oed neu바카라 사이트™n iau

Fel arfer byddwch yn derbyn rhif Yswiriant Gwladol yn y 3 mis cyn eich penblwydd yn 16 oed os ydy바카라 사이트™r canlynol yn wir:

  • rydych yn byw yn y DU
  • mae rhiant neu warcheidwad wedi llenwi ffurflen gais Budd-dal Plant ar eich cyfer

Os na chawsoch rif Yswiriant Gwladol

Os ydych rhwng 16 i 19 oed ac na chawsoch rif Yswiriant Gwladol:

Os oes gennych Drwydded Breswyl Biometrig (BRP) neu eVisa

Os oes gennych BRP neu eVisa, efallai y bydd gennych rif Yswiriant Gwladol yn barod.

Gallwch ddod o hyd iddo:

  • ar gefn eich BRP
  • trwy fewngofnodi i바카라 사이트™ch cyfrif UK Visas and Immigration (UKVI) i weld eich eVisa

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, mae바카라 사이트™n rhaid gwneud cais am un os ydych yn bwriadu gweithio. Gallwch ond gwneud cais pan fyddwch yn y DU.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i gael eich rhif Yswiriant Gwladol.

Gallwch ffonio바카라 사이트™r llinell gymorth ceisiadau os:

  • wnaethoch gais mwy nag 4 wythnos yn ôl
  • ydych wedi symud tÅ· ers gwneud cais
  • yw eich manylion personol wedi newid ers gwneud cais

Os oes gennych gyfeirnod am eich cais, sicrhewch ei fod ar law pan fyddwch yn ffonio. Gallwch ddod o hyd iddo ar ben yr e-bost cadarnhad a anfonwyd atoch ar ôl i chi wneud cais.