Canllawiau

Ymddiriedolwyr elusen: ymddiswyddo a diswyddo

Pa weithdrefnau y mae angen i chi eu dilyn i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen neu ddiswyddo ymddiriedolwr o'r bwrdd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Cyfnod gwasanaeth i ymddiriedolwyr

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen yn nodi nifer penodol o flynyddoedd y gall ymddiriedolwyr wasanaethu ar eu cyfer. Gall ymddiriedolwr sydd wedi cyrraedd diwedd ei dymor penodedig gael ei ailbenodi am dymor arall, oni bai bod eich dogfen lywodraethol yn dweud fel arall.

Os nad yw바카라 사이트™ch dogfen lywodraethol yn pennu cyfnod gwasanaeth, bydd ymddiriedolwyr yn parhau yn eu rôl nes eu bod yn marw, yn ymddiswyddo neu바카라 사이트™n cael eu diswyddo.

Ymddiswyddo fel ymddiriedolwr

Yn gyffredinol, gall ymddiriedolwyr ymddiswyddo cyn diwedd eu cyfnod penodedig. Bydd rhaid i ymddiriedolwr gyflwyno cais ysgrifenedig i ymddiswyddo.

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen hefyd yn cynnwys rhai rheolau y bydd rhaid i chi eu dilyn os yw ymddiriedolwr am ymddiswyddo.

Gwnewch yn siŵr bod digon o ymddiriedolwyr gennych chi i redeg eich elusen. Os yw바카라 사이트™ch dogfen lywodraethol yn datgan y nifer lleiaf ar gyfer eich bwrdd ymddiriedolwyr, gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd yn is na바카라 사이트™r nifer hwnnw. Ceisiwch ganfod a phenodi ymddiriedolwr newydd cyn i바카라 사이트™r ymddiriedolwyr sy바카라 사이트™n ymddeol adael.

Sut i ddiswyddo ymddiriedolwr o바카라 사이트™r bwrdd

Fel arfer bydd angen rheswm da arnoch i ddiswyddo ymddiriedolwr, er enghraifft os yw wedi gwneud rhywbeth sy바카라 사이트™n niweidio enw da eich elusen.

Edrychwch ar ddogfen lywodraethol eich elusen i weld a oes gweithdrefn ar gyfer diswyddo ymddiriedolwyr.

Os yw바카라 사이트™ch elusen yn gwmni, mae hawl gennych ddiswyddo cyfarwyddwr, ar yr amod eich bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir. Mae바카라 사이트™r hawl honno gennych o dan , beth bynnag arall sydd wedi바카라 사이트™i ysgrifennu yn eich erthyglau cymdeithasu.

Pleidlais o ddiffyg hyder

Gallwch gynnal pleidlais o ddiffyg hyder i annog rhywun i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr. Gallai hyn fod yn rhan o reolau eich elusen ar gyfer diswyddo ymddiriedolwr, neu wedi바카라 사이트™i ysgrifennu yn ei dogfen lywodraethol. Os nad yw바카라 사이트™n rhan o reolau eich elusen, nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol gan y bleidlais ac ni fydd rhaid i바카라 사이트™r ymddiriedolwr ymddiswyddo.

Ystyriwch gyfryngu. Mae gan y rwydwaith o gyfryngwyr.

Gweithdrefnau cyfreithiol i ddiswyddo neu ddisodli ymddiriedolwyr

Fel arfer mae바카라 사이트™n fater syml i ymddiriedolwr adael os yw바카라 사이트™ch elusen yn gwmni neu os oes gweithdrefnau wedi바카라 사이트™u hysgrifennu yn eich dogfen lywodraethol.

Os nad dyma바카라 사이트™r achos, gall y ganiatáu i chi ddisodli ymddiriedolwr - er enghraifft os yw바카라 사이트™r ymddiriedolwr am ymddeol neu바카라 사이트™n gwrthod gweithredu fel ymddiriedolwr.

Sut i ddiweddaru manylion eich elusen

Pan fydd ymddiriedolwr yn gadael, diweddarwch y cofnodion sydd gan y Comisiwn Elusennau am eich elusen - naill ai yn eich ffurflen flynyddol neu ar-lein.

Os oedd rhai cyfrifoldebau arbennig gan yr ymddiriedolwr sy바카라 사이트™n ymddeol, mae바카라 사이트™n syniad da i drefnu trosglwyddiad. Gallai hyn olygu bod yr ymddiriedolwr sy바카라 사이트™n gadael.

  • yn trosglwyddo cyfrinair yr elusen ar gyfer gwefan y Comisiwn
  • hyfforddi eraill ar sut i gwblhau바카라 사이트™r ffurflen flynyddol
  • yn dweud wrth y Comisiwn bod eich cyswllt a enwir wedi newid

Os yw바카라 사이트™r ymddiriedolwr sy바카라 사이트™n gadael yn cael ei enwi ar weithredoedd teitl eich elusen i dir neu eiddo, bydd rhaid i chi ddiweddaru바카라 사이트™r gweithredoedd teitl. Mae trefn gyfreithiol benodol ar gyfer hyn a gallwch geisio cyngor proffesiynol. Dylai fod gennych ddau ymddiriedolwr o leiaf bob amser os yw바카라 사이트™ch elusen yn dal tir.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2013

Argraffu'r dudalen hon