Adnewyddu eich treth cerbyd

Bydd eich Debyd Uniongyrchol ar gyfer treth cerbyd yn adnewyddu바카라 사이트™n awtomatig pan ddaw i ben.

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr yn dweud wrthych pryd y caiff eich taliadau eu cymryd.

Ni fydd llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) yn cael ei anfon atoch.

Peidiwch â threthu eich cerbyd eto. Os gwnewch hynny, codir tâl arnoch ddwywaith.

Rhaid i geidwad y cerbyd fod â llyfr log cerbyd (V5CW) cyn adnewyddu treth y cerbyd.

Os nad oes gan geidwad y cerbyd V5CW

Ni fydd eich Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu바카라 사이트™n awtomatig os nad oes ceidwad cerbyd yng nghofnodion y DVLA.

Gallwch ddweud wrth DVLA pwy yw ceidwad y cerbyd ar-lein.

Os na chewch e-bost neu lythyr pan fydd eich treth cerbyd yn dod i ben, dylech gysylltu â DVLA.

Os nad oes gennych MOT neu yswiriant yn ei le

Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch os bydd tystysgrif MOT eich cerbyd wedi dod i ben pan fydd treth eich cerbyd i fod i adnewyddu.

Rhaid i바카라 사이트™ch cerbyd basio MOT erbyn i바카라 사이트™r un presennol ddod i ben.

Ar ôl iddo basio MOT, bydd cofnodion DVLA yn cael eu diweddaru바카라 사이트™n awtomatig. Bydd eich treth cerbyd yn cael ei hadnewyddu ar y dyddiad yr oedd i fod i ddod i ben.

Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA na threthu eich cerbyd eto.

Os na chewch MOT mewn pryd, bydd angen ichi drethu eich cerbyd eto.

Os yw바카라 사이트™ch cerbyd wedi바카라 사이트™i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid ichi hefyd gael yswiriant pan fydd eich treth cerbyd i fod i adnewyddu. Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych a fydd eich yswiriant wedi dod i ben erbyn hynny.