Taliadau Debyd Uniongyrchol treth cerbyd

Printable version

1. Sefydlu Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd ar-lein neu mewn Swyddfa바카라 사이트™r Post.

Nid oes angen ichi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd i sefydlu Debyd Uniongyrchol. Anfonir e-byst a llythyrau am daliadau Debyd Uniongyrchol at ddeiliad y cyfrif.

²Ñ²¹±ð바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Faint mae바카라 사이트™n costio

²Ñ²¹±ð바카라 사이트™r swm a dalwch yn dibynnu ar ba mor aml rydych am wneud taliad. Mae gordal o 5% os ydych yn talu:

  • yn fisol
  • bob 6 mis

Nid oes tâl ychwanegol os ydych yn talu바카라 사이트™n flynyddol.

Beth sydd ei angen arnoch

Mae angen:

  • eich cyfeiriad a dyddiad geni
  • eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli

Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer cyfrif sydd angen 2 lofnod.

Beth sy바카라 사이트™n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost neu bost bod eich Debyd Uniongyrchol wedi cael ei sefydlu.

  2. Ni fydd y taliad cyntaf yn cael ei gymryd nes bod y dreth cerbyd wedi dechrau. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod. Gallwch barhau i ddefnyddio바카라 사이트™r cerbyd cyn i바카라 사이트™r taliad gael ei gymryd.

  3. Bydd yr holl daliadau canlynol yn cael eu cymryd ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis y mae바카라 사이트™r Debyd Uniongyrchol yn ddyledus.

2. Adnewyddu eich treth cerbyd

Bydd eich Debyd Uniongyrchol ar gyfer treth cerbyd yn adnewyddu바카라 사이트™n awtomatig pan ddaw i ben.

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr yn dweud wrthych pryd y caiff eich taliadau eu cymryd.

Ni fydd llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) yn cael ei anfon atoch.

Peidiwch â threthu eich cerbyd eto. Os gwnewch hynny, codir tâl arnoch ddwywaith.

Rhaid i geidwad y cerbyd fod â llyfr log cerbyd (V5CW) cyn adnewyddu treth y cerbyd.

Os nad oes gan geidwad y cerbyd V5CW

Ni fydd eich Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu바카라 사이트™n awtomatig os nad oes ceidwad cerbyd yng nghofnodion y DVLA.

Gallwch ddweud wrth DVLA pwy yw ceidwad y cerbyd ar-lein.

Os na chewch e-bost neu lythyr pan fydd eich treth cerbyd yn dod i ben, dylech gysylltu â DVLA.

Os nad oes gennych MOT neu yswiriant yn ei le

Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch os bydd tystysgrif MOT eich cerbyd wedi dod i ben pan fydd treth eich cerbyd i fod i adnewyddu.

Rhaid i바카라 사이트™ch cerbyd basio MOT erbyn i바카라 사이트™r un presennol ddod i ben.

Ar ôl iddo basio MOT, bydd cofnodion DVLA yn cael eu diweddaru바카라 사이트™n awtomatig. Bydd eich treth cerbyd yn cael ei hadnewyddu ar y dyddiad yr oedd i fod i ddod i ben.

Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA na threthu eich cerbyd eto.

Os na chewch MOT mewn pryd, bydd angen ichi drethu eich cerbyd eto.

Os yw바카라 사이트™ch cerbyd wedi바카라 사이트™i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid ichi hefyd gael yswiriant pan fydd eich treth cerbyd i fod i adnewyddu. Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych a fydd eich yswiriant wedi dod i ben erbyn hynny.

3. Newid eich cyfeiriad, e-bost neu enw

Dywedwch wrth DVLA os ydych am newid y cyfeiriad, e-bost neu enw ar eich Debyd Uniongyrchol.

Gallwch ffonio DVLA os:

  • ydych chi wedi symud tÅ·
  • oes gennych gyfeiriad e-bost newydd
  • ydych wedi priodi neu wedi ysgaru ac eisiau diweddaru eich manylion
  • oes camgymeriad gyda바카라 사이트™ch enw neu gyfeiriad

Os gwnaethoch newid eich enw drwy weithred unrhan

Ysgrifennwch at DVLA os ydych chi wedi newid eich enw drwy weithred unrhan.

Mae angen ichi gynnwys:

  • eich cyfeiriad a dyddiad geni
  • eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli
  • copi o바카라 사이트™ch gweithred newid enw

Anfonwch i:

DDC
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

4. Newid pa mor aml rydych yn talu

Pan fyddwch yn sefydlu eich Debyd Uniongyrchol gallwch ddewis talu:

  • bob mis
  • bob 6 mis
  • bob blwyddyn

Bydd DVLA yn cymryd y taliadau ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis. Ni allwch ei newid i ddyddiad gwahanol.

I newid pa mor aml rydych yn talu (er enghraifft, o bob 6 mis i bob mis), mae바카라 사이트™n rhaid ichi ganslo바카라 사이트™ch Debyd Uniongyrchol ac yna trethu바카라 사이트™ch cerbyd eto.

Beth sydd angen ichi ei wneud

  1. Gofyn i바카라 사이트™ch banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo바카라 사이트™ch Debyd Uniongyrchol. Yn dibynnu ar eich cyfrif, gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy바카라 사이트™r post, neu mewn cangen.

  2. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  3. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  4. Dewis yr opsiwn Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd. Yna dewiswch pa mor aml rydych am dalu - naill ai바카라 사이트™n fisol, bob 6 mis neu bob blwyddyn.

Enghraifft Rydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bob 6 mis, ond eisiau talu바카라 사이트™n fisol yn lle hynny.

Cymerwyd y taliad olaf ar 1 Ionawr, a disgwylir yr un nesaf ar 1 Gorffennaf.

Rydych yn canslo바카라 사이트™r Debyd Uniongyrchol gyda바카라 사이트™ch banc ar 15 Mawrth. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan 30 Mehefin.

Ar 1 Gorffennaf, mae바카라 사이트™n rhaid ichi drethu바카라 사이트™r cerbyd eto gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol misol.

5. Newid cyfrif banc neu ddull talu

Pan fyddwch am newid y cyfrif y cymerir eich Debyd Uniongyrchol oddi wrtho gallwch naill ai:

  • ofyn i바카라 사이트™ch banc neu gymdeithas adeiladu newydd symud eich Debydau Uniongyrchol o바카라 사이트™ch hen gyfrif
  • newid i gyfrif arall sydd gennych eisoes

Gallwch hefyd newid i dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Newid banc neu gymdeithas adeiladu

Gall y symud Debydau Uniongyrchol o바카라 사이트™ch hen gyfrif banc i바카라 사이트™ch cyfrif newydd.

Nid oes angen ichi ddweud wrth DVLA neu wneud unrhyw beth arall.

Symud eich Debyd Uniongyrchol i gyfrif sydd gennych eisoes

Mae바카라 사이트™n bosibl y bydd eich banc yn gallu symud Debyd Uniongyrchol o un o바카라 사이트™ch cyfrifon i un arall os yw바카라 사이트™r ddau gyfrif gyda nhw. Gwiriwch gyda바카라 사이트™ch banc.

Cysylltwch â DVLA os:

  • na all eich banc symud y Debyd Uniongyrchol i바카라 사이트™ch cyfrif arall
  • yw바카라 사이트™r 2 gyfrif gyda gwahanol fanciau

Bydd angen ichi ddarparu:

  • rhif eich cyfrif newydd a chod didoli
  • enw a chyfeiriad eich banc neu gymdeithas adeiladu newydd

Os byddwch yn ysgrifennu i DVLA, rhaid i바카라 사이트™r person a sefydlodd y Debyd Uniongyrchol lofnodi a dyddio바카라 사이트™r llythyr.

Talu gyda cherdyn debyd neu gredyd

  1. Gofyn i바카라 사이트™ch banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo바카라 사이트™ch Debyd Uniongyrchol. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  2. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  3. Talu바카라 사이트™r dreth ar eich cerbyd gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

6. Os bydd Debyd Uniongyrchol yn methu

Bydd deiliad y cyfrif Debyd Uniongyrchol yn derbyn e-bost gan DVLA os bydd taliad yn methu oherwydd nad oes digon o arian yn y cyfrif.

Bydd DVLA yn ceisio cymryd y taliad eto o fewn 4 diwrnod gwaith. Os bydd hynny hefyd yn methu, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych:

  • bod y Debyd Uniongyrchol wedi methu ddwywaith ac wedi바카라 사이트™i ganslo바카라 사이트™n barhaol
  • nad yw eich cerbyd wedi ei drethu rhagor

Beth i바카라 사이트™w wneud os caiff eich Debyd Uniongyrchol ei ganslo

Bydd yn rhaid ichi drethu eich cerbyd gan ddefnyddio llyfr log eich cerbyd (V5CW). Bydd angen ichi naill ai:

  • sicrhau bod digon o arian yn eich cyfrif a sefydlu Debyd Uniongyrchol newydd
  • defnyddio dull talu newydd, er enghraifft, cerdyn debyd neu Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif arall gyda digon o arian ynddo

Mae바카라 사이트™n anghyfreithlon i yrru바카라 사이트™ch cerbyd nes eich bod wedi ei drethu.

Os na wnewch chi unrhyw beth

Byddwch yn cael dirwy o £80 os na fyddwch yn trethu eich cerbyd neu바카라 사이트™n dweud wrth DVLA ei fod oddi ar y ffordd. Bydd yn rhaid ichi hefyd dalu am yr amser na chafodd ei drethu.

Os na fyddwch yn talu eich dirwy mewn pryd, gall eich cerbyd gael ei glampio neu ei falu, neu gall eich manylion gael eu trosglwyddo i asiantaeth casglu dyledion.

7. Canslo Debyd Uniongyrchol

Bydd DVLA yn canslo eich Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn dweud wrthynt fod eich cerbyd wedi cael ei:

Bydd y Debyd Uniongyrchol hefyd yn cael ei ganslo os ni fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd rhagor oherwydd eich bod wedi dweud wrth DVLA:

  • ei fod yn cael ei ddefnyddio gan berson anabl
  • bod y cerbyd yn un hanesyddol (dros 40 mlwydd oed)

Os gwnaethoch ordalu eich treth

Byddwch yn derbyn siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sydd ar ôl ar eich treth cerbyd. ²Ñ²¹±ð바카라 사이트™r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o바카라 사이트™r dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich gwybodaeth.

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol ychydig cyn bod taliad misol yn ddyledus, efallai y bydd DVLA yn dal i gymryd y taliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad yn awtomatig o fewn 10 diwrnod gwaith os bydd hyn yn digwydd.

Canslo바카라 사이트™r Debyd Uniongyrchol am resymau eraill

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol gyda바카라 사이트™ch banc neu gymdeithas adeiladu am unrhyw reswm arall, rhaid ichi drethu eich cerbyd eto gan ddefnyddio naill ai:

  • Debyd Uniongyrchol o gyfrif gyda digon o arian ynddo
  • dull talu arall, er enghraifft, gyda cherdyn debyd neu gredyd