Treth ar incwm tramor
Trosolwg
Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Incwm yn y DU ar eich incwm tramor, fel:
-
cyflog os ydych yn gweithio dramor
-
incwm o fuddsoddi dramor, er enghraifft difidendau a llog cynilion
-
incwm rhent ar eiddo tramor
-
incwm o bensiynau a gynhelir dramor
Incwm tramor yw unrhyw beth o바카라 사이트™r tu allan i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu hystyried yn dramor.
Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Canfod a oes angen i chi dalu
Mae바카라 사이트™r cwestiwn a oes angen i chi dalu yn dibynnu ar os ystyrir eich bod yn 바카라 사이트˜breswylydd바카라 사이트™ yn y DU at ddibenion treth.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, ni fydd angen i chi dalu treth yn y DU ar eich incwm tramor.
Os ydych yn breswylydd yn y DU, byddwch fel arfer yn talu treth ar eich incwm tramor. Mae바카라 사이트™n bosibl na fydd yn rhaid i chi wneud hynny os ydych chi바카라 사이트™n gymwys i gael Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn 6 Ebrill 2025, efallai na fu바카라 사이트™n rhaid i chi dalu treth ar eich incwm tramor os oedd eich cartref parhaol (바카라 사이트˜domisil바카라 사이트™) dramor.
Rhoi gwybod am incwm tramor
Os oes angen i chi dalu treth, byddwch fel arfer yn rhoi gwybod am eich incwm tramor ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Ond mae rhywfaint o incwm tramor yn cael ei drethu바카라 사이트™n wahanol.
Os yw바카라 사이트™ch incwm yn cael ei drethu mewn mwy nag un wlad
Efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth os ydych wedi cael eich trethu mewn mwy nag un wlad.
Os nad ydych chi wedi talu treth ar yr incwm tramor eto, efallai y bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif preswylio (yn agor tudalen Saesneg) i brofi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad.