Osgoi a rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo
Rhoi gwybod am sgamiau e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau yn enw CThEF
Gallwch roi gwybod am e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau amheus i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae sut yr ydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar beth rydych wedi바카라 사이트™i gael.
Dilynwch y camau isod os cawsoch y canlynol:
- neges destun, anfonwch hon ymlaen i 60599 - caiff tâl ei godi arnoch ar gyfradd eich rhwydwaith
- e-bost, anfonwch hwn ymlaen i phishing@hmrc.gov.uk
- neges mewn rhaglen, er enghraifft WhatsApp, tynnwch sgrinlun a바카라 사이트™i anfon drwy e-bost i phishing@hmrc.gov.uk
- galwad ffôn yn gofyn am wybodaeth bersonol neu바카라 사이트™n bygwth dwyn achos cyfreithlon yn eich erbyn,
- llythyr, cysylltwch â바카라 사이트™r tîm yn CThEF y mae바카라 사이트™r llythyr yn nodi ei fod oddi wrtho (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft y tîm Hunanasesiad
Bydd eich cyfeiriad e-bost a바카라 사이트™ch rhif ffôn yn cael eu rhannu â sefydliadau eraill os yw hynny바카라 사이트™n angenrheidiol er mwyn rhoi terfyn ar y sgam.
Os ydych wedi rhoi eich manylion personol i rywun
Cysylltwch â thîm diogelwch CThEF os ydych yn credu eich bod wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth ateb e-bost neu neges destun amheus.
Rhowch fanylion cryno o바카라 사이트™r hyn rydych wedi바카라 사이트™i ddatgelu (er enghraifft enw, cyfeiriad, Dynodydd Defnyddiwr CThEF, cyfrinair) ond peidiwch â rhoi eich manylion personol yn yr e-bost.
Tîm diogelwch CThEF
security.custcon@hmrc.gov.ukÌýÌý
Adnabod sgamiau yn enw CThEF
Ni chewch byth e-bost, neges destun, neges mewn rhaglen (er enghraifft WhatsApp) na galwad ffôn gan CThEF sy바카라 사이트™n gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi am ad-daliad treth neu gosb
- gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu바카라 사이트™ch gwybodaeth am daliadau
Gwiriwch arweiniad CThEF ar adnabod sgamiau os nad ydych yn siŵr.