Trosolwg

Fel cynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr) rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am arian, eiddo a meddiannau바카라 사이트™r person a fu farw (바카라 사이트˜asedion yr ystâd바카라 사이트™).

Rydych yn gyfrifol am yr asedion o ddyddiad y farwolaeth hyd nes y dyddiad mae bob dim wedi eu trosglwyddo i바카라 사이트™r buddiolwyr. Gelwir hyn y 바카라 사이트˜cyfnod gweinyddu바카라 사이트™.

Efallai bydd yn rhaid i chi wneud cais am brofiant cyn eich bod yn gallu delio â rhai asedion.

Mae바카라 사이트™n bosibl bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol yn ystod y cyfnod gweinyddu:

  • talu unrhyw ddyledion a adawyd gan y person a fu farw
  • gwerthu asedion megis eiddo neu gyfranddaliadau
  • talu Treth Incwm ar bethau megis incwm rhent o eiddo, elw o fusnes neu log o fuddsoddiadau
  • talu Treth Enillion Cyfalaf ar elw o werthu cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu eiddo
  • rhoi gwybod am werth ystâd, incwm a rhwymedigaeth treth i Gyllid a Thollau EF

Gallwch gael cyngor a help cyfreithiol proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg), megis gan gyfreithiwr, er mwyn delio ag unrhyw ystâd. Dylech ystyried hyn os oes gan yr ystâd llawer o asedion neu mae바카라 사이트™n cynnwys pethau fel ymddiriedolaethau.

Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn delio ag ystâd gyda rhywun arall

Os nad ydych yr unig gynrychiolydd personol dylech gytuno gyda바카라 사이트™r lleill:

  • ble i gadw asedion ariannol - gallwch agor cyfrif banc a elwir yn 바카라 사이트˜cyfrif ysgutoriaeth바카라 사이트™ os oes angen
  • rheolau ar godi arian neu wneud taliadau o unrhyw cyfrif sy바카라 사이트™n gysylltiedig â바카라 사이트™r ystâd
  • pa asedion y mae angen i chi eu gwerthu a phryd