Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Sgipio cynnwys

Sut i ddiweddaru eich V5CW

Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi바카라 사이트™u rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil hÅ·n.

Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.

Os nad yw바카라 사이트™r newid wedi바카라 사이트™i restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran 바카라 사이트˜manylion y cerbyd바카라 사이트™ yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro바카라 사이트™r newid.

Ble i anfon eich V5CW

Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o바카라 사이트™r canlynol:

  • maint yr injan (cc)

  • math o danwydd

  • pwysau cerbyd nwyddau

  • nifer y seddi ar fws

Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.

Beth sy바카라 사이트™n digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu â chi i:

  • gadarnhau바카라 사이트™r newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno

  • dweud wrthych os yw바카라 사이트™r newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd

Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy바카라 사이트™r post.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.