Cymhwyster

I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:

  • gweithio fel cyflogai
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gall (Credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif)

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Bydd angen i chi hefyd:

  • bod yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych yn 16 oed neu바카라 사이트™n 17 oed - cysylltwch â바카라 사이트™r Ganolfan Byd Gwaith am gyngor)
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • peidio â bod mewn addysg llawn amser
  • bod ar gael i weithio
  • peidio â bod yn gweithio ar hyn o bryd, neu바카라 사이트™n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • bod heb salwch neu anabledd sy바카라 사이트™n eich atal rhag gweithio
  • byw yn y DU

Tra rydych yn cael JSA, bydd angen i chi gymryd camau rhesymol i chwilio am waith fel y cytunwyd gyda바카라 사이트™ch anogwr gwaith.

Ni fydd eich incwm chi nag incwm a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.

Gallwch gael JSA Dull Newydd am hyd at 182 diwrnod (tua 6 mis). Ar ôl hyn gallwch siarad â바카라 사이트™ch anogwr gwaith am eich opsiynau.

Hawlio Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle JSA Dull Newydd.

Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliadau JSA Dull Newydd yn:

  • cyfrif fel incwm wrth hawlio Credyd Cynhwysol
  • lleihau swm y Credyd Cynhwysol a gewch

Bydd eich JSA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu바카라 사이트™n fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy바카라 사이트™n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol