Cyflyrau meddygol, anableddau a gyrru
Dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol neu anabledd
Rhaid ichi ddweud wrth DVLA os oes gennych drwydded yrru ac mae바카라 사이트™r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn datblygu cyflwr meddygol neu anabledd 바카라 사이트˜hysbysadwy바카라 사이트™
- mae cyflwr neu anabledd wedi gwaethygu ers ichi gael eich trwydded
Mae cyflyrau hysbysadwy yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich gallu i yrru바카라 사이트™n ddiogel. Gallant gynnwys:
- diabetes neu gymryd inswlin
- syncope (llewygu)
- cyflyrau ar y galon (gan gynnwys ffibriliad atrïaidd a rheolyddion calon)
- apnoea cwsg
- epilepsi
- strociau
- glawcoma
Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i ddweud wrth DVLA
Gwiriwch os oes angen ichi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr i ddod o hyd i바카라 사이트™r ffurflenni neu바카라 사이트™r holiaduron sydd eu hangen arnoch. Mae바카라 사이트™r cyfeiriad sydd ei angen arnoch ar y ffurflenni.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon rhaid ichi .
Mae gwahanol daflenni ar gyfer gwahanol gyflyrau ac anableddau.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth i바카라 사이트™w wneud.
Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA am gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru바카라 사이트™n ddiogel. Gallech hefyd gael eich erlyn os byddwch yn cael damwain.
Ildio eich trwydded
Rhaid ichi ildio eich trwydded i DVLA os yw unrhyw un o바카라 사이트™r canlynol yn wir:
- mae eich meddyg yn dweud wrthych am roi바카라 사이트™r gorau i yrru am 3 mis neu fwy
- mae eich cyflwr meddygol yn effeithio ar eich gallu i yrru바카라 사이트™n ddiogel ac yn para am 3 mis neu fwy
- nad ydych yn bodloni바카라 사이트™r safonau gofynnol ar gyfer gyrru oherwydd eich cyflwr meddygol
Gallwch wneud cais i gael eich trwydded yn ôl pan fyddwch yn bodloni바카라 사이트™r safonau meddygol ar gyfer gyrru eto.
Trwydded gyntaf neu adnewyddu os ydych yn 70 oed neu바카라 사이트™n hÅ·n
Rhaid ichi hefyd ddweud wrth DVLA am gyflyrau hysbysadwy os ydych:
- yn gwneud cais am eich trwydded gyntaf
- yn adnewyddu eich trwydded (os ydych yn 70 oed neu바카라 사이트™n hÅ·n)
Gofynnir ichi am y wybodaeth hon yn eich ffurflen gais. Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA ar wahân.