Rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi cofrestru ar gyfer y GUC Mewnforio TAW yn yr UE
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) yn yr UE ac yn gwerthu nwyddau cymwys gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi바카라 사이트™ch rhif cofrestru GUC Mewnforio TAW i CThEF.
Cyn defnyddio바카라 사이트™r gwasanaeth hwn, mae바카라 사이트™n rhaid eich bod wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio TAW mewn gwlad yn yr UE.
Os ydych yn gwerthu nwyddau gwerth isel mewn llwythi nad ydynt yn werth mwy na £135 i mewn i Ogledd Iwerddon a바카라 사이트™ch bod wedi cofrestru ar gyfer y , mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi바카라 사이트™ch rhif cofrestru GUC Mewnforio i CThEF.
Mae hyn yn golygu:
- os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU, gallwch roi cyfrif am TAW cyflenwi ar eich gwerthiannau cymwys o nwyddau gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon ar eich datganiad GUC Mewnforio
- nid ydych yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio pan fydd y nwyddau바카라 사이트™n dod i mewn i Ogledd Iwerddon
Mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi바카라 사이트™ch rhif cofrestru GUC Mewnforio i CThEF os ydych yn gweithredu ar ran busnes fel cyfryngwr yn yr UE. Gallwch gynnwys yr holl fusnesau rydych yn eu cynrychioli ar un ffurflen.
Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio yn yr UE ac sy바카라 사이트™n gyfrifol am roi cyfrif am TAW ar gyfer cyflenwr sy바카라 사이트™n gwerthu nwyddau a fewnforiwyd o bell.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- enw바카라 사이트™r wlad yn yr UE lle rydych wedi cofrestru
- eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- eich rhif cofrestru TAW yn y DU, os yw바카라 사이트™n berthnasol
Sut i roi gwybod i CThEF
Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.
Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu cadarnhau바카라 사이트™ch manylion.
Yr hyn sy바카라 사이트™n digwydd nesaf
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU
O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, os ydych wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio, dylech roi cyfrif am TAW ar werthu nwyddau cymwys gwerth isel mewn llwythi nad ydynt yn werth mwy na £135 i mewn i Ogledd Iwerddon ar eich datganiad GUC Mewnforio.
Os ydych yn gwneud cyflenwadau o nwyddau nad ydynt wedi바카라 사이트™u cynnwys o dan y cynllun GUC Mewnforio, mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi cyfrif am TAW o dan y rheolau arferol.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU
Os ydych yn fusnes ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a바카라 사이트™r Alban) sydd wedi cofrestru ar gyfer y GUC Mewnforio, does dim rhaid i chi godi TAW ar werthu nwyddau gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon.
Os yw바카라 사이트™ch manylion cofrestru GUC Mewnforio TAW wedi newid
Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am newidiadau i바카라 사이트™ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW yn yr UE.
Updates to this page
-
Added Welsh translation.
-
The section 'If your VAT IOSS registration details have changed' has been added.
-
The page has been updated with more information about intermediaries, who can now enter details for multiple businesses on the same form.
-
First published.