Canllawiau

Gofyn am eich gwybodaeth bersonol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Gelwir hyn yn 'hawl mynediad'.

Os ydych angen prawf o gais am fudd-dal

Gellir defnyddio llythyr prawf budd-dal i ddangos eich hanes gwaith, profi eich bod yn byw yn y DU neu fod gennych hawl i bethau fel:

  • prydau ysgol am ddim
  • cyllid ar gyfer profion llygaid, hyfforddiant a theithio
  • budd-daliadau eraill

Gall hefyd helpu gydag unrhyw ymholiadau trwydded teledu.

Gallwch gysylltu â ni i gael copi o:

  • y symiau (cyfraddau) o fudd-dal a gewch a바카라 사이트™r dyddiadau rydych yn cael eich talu
  • eich nodyn ffitrwydd olaf
  • eich llythyr hawl i fudd-dal (os o fewn y 5 mlynedd diwethaf)
  • tystiolaeth a ddefnyddir mewn anghydfod neu ymchwiliad
  • eich rhagolwg pensiwn
  • gwybodaeth eich cyfrif Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Cael llythyr prawf budd-dal ar-lein

Gallwch os ydych ar hyn o bryd yn cael:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol a bod gennych gyfrif ar-lein, gallwch .

Os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes ydych angen mwy o wybodaeth

Bydd angen i chi ffonio바카라 사이트™r swyddfa sy바카라 사이트™n talu eich budd-dal os ydych:

  • angen llythyr i brofi eich bod yn cael budd-dal gwahanol
  • angen llythyr wedi바카라 사이트™i anfon atoch yn Gymraeg, neu mewn ffurf arall fel braille
  • wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar a heb ddiweddaru바카라 사이트™r cyfeiriad ar eich cofnod budd-daliadau
  • yn byw y tu allan i Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon

Gallwch ddod o hyd i바카라 사이트™w manylion cyswllt ar lythyr y maent wedi바카라 사이트™i anfon atoch, neu drwy ganllawiau am y budd-dal.

Os ydych eisiau mynediad at ddelweddau teledu cylch cyfyng

Mae바카라 사이트™r cwmni sy바카라 사이트™n gyfrifol am ddiogelwch swyddfa DWP fel arfer yn rheoli mynediad i ddelweddau teledu cylch cyfyng. Os ydych am gael mynediad at ddelweddau teledu cylch cyfyng sy바카라 사이트™n cynnwys delweddau ohonoch mewn swyddfa DWP, dylech ofyn amdano바카라 사이트™n uniongyrchol gan y cwmni diogelwch. Bydd arwyddion yn yr ardal a gwmpesir gan y camerâu yn dangos enw바카라 사이트™r cwmni a sut i gysylltu â nhw. Gan fod delweddau teledu cylch cyfyng yn aml yn cael eu storio am gyfnod byr yn unig, dylech wneud eich cais cyn gynted ag y gallwch.

Os oes angen copi o unrhyw wybodaeth arall sydd gan DWP amdanoch chi

Gallwch

Gallwch hefyd ysgrifennu at DWP. Dylech gynnwys disgrifiad o바카라 사이트™r wybodaeth rydych ei eisiau (er enghraifft cofnodion Lwfans Ceisio Gwaith), y cyfnod amser y mae angen i바카라 사이트™r wybodaeth ei gynnwys a바카라 사이트™ch:

  • enw llawn
  • cyfeiriad llawn
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn os ydych yn gofyn am recordiadau galwadau ffôn

Postiwch eich cais ysgrifenedig i:

Right of Access Requests
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EF

Cyfreithwyr neu drydydd partïon eraill: gofyn am wybodaeth ar ran rhywun arall

Ysgrifennwch at DWP gan ddefnyddio바카라 사이트™r (ODT, 19.9 KB).

Byddwn angen cael caniatâd yr unigolyn arall (y 바카라 사이트˜person바카라 사이트™) cyn y gallwn ddechrau eich cais. Mae바카라 사이트™r canllawiau ar y ffurflen yn egluro sut rydym yn gwneud hyn.

Pryd y dylech gael ateb i바카라 사이트™ch cais am wybodaeth bersonol

Byddwn yn anfon y wybodaeth bersonol rydych wedi gofyn amdani cyn gynted â phosib. Bydd hyn o fewn mis o바카라 사이트™r adeg rydym yn cael eich cais, cyhyd â bod eich cais yn rhoi digon o wybodaeth i바카라 사이트™ch adnabod chi a바카라 사이트™r wybodaeth y gofynnwch amdani. Os na fydd, byddwn yn cysylltu â chi.

Sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Mae siarter gwybodaeth bersonol DWP yn cynnwys y safonau y gallwch eu disgwyl pan ofynnwn am, neu rydym yn cadw, eich gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn esbonio바카라 사이트™r hawliau eraill sydd gennych o dan y gyfraith diogelu data.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2023 show all updates
  1. If you바카라 사이트™re claiming Universal Credit and have an online account, you can save a copy of your Universal Credit statement.

  2. Added translation

  3. Re added link to 'request your personal information online'.

  4. Removed the link to the online request for personal information service as there is currently a problem with the service.

  5. Minor Welsh change to match English change

  6. Added a message that there was a problem with the online request for personal information service from 2.45pm until 6.15pm on Wednesday 7 June 2023. We may not have received your request if you requested personal information during this time. If you have not received your personal information, please submit a new request.

  7. Added a link to the Get a proof of benefit service.

  8. Added information about how to request footage from CCTV cameras at DWP offices.

  9. Added note advising people to resend any requests made between 18 October 2018 and 1 November 2018.

  10. Updated the personal information request form for third parties (ODT file).

  11. Updated the section about how to get proof of a benefit claim, including examples of what this information can be used for and that this can be requested from a benefit office.

  12. Added simplified third party request form.

  13. Updated the third party request form to reflect the new legal terms under GDPR.

  14. First published.

Argraffu'r dudalen hon