Canllawiau

Lleihau'r risg o glefydau o unedau storio bwyd anifeiliaid

Sut i leihau'r risg o glefydau o'ch unedau storio bwyd anifeiliaid.

Fel ceidwad gwartheg, rhaid i chi lanhau eich ardaloedd storio bwyd anifeiliaid, eich cynwysyddion a바카라 사이트™ch cyfarpar yn rheolaidd. Bydd hyn yn osgoi dihalogi diangen ac yn lleihau바카라 사이트™r risg o glefyd ar eich fferm.

Mae glanhau storfeydd bwyd anifeiliaid yn rheolaidd yn hanfodol i gynnal iechyd eich anifeiliaid. Byddwch hefyd yn lleihau바카라 사이트™r risg bosibl o Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) o hen weddillion bwyd wedi바카라 사이트™u halogi mewn unedau storio.

Achoswyd BSE mewn gwartheg drwy wartheg yn bwyta cynhyrchion anifeiliaid wedi바카라 사이트™u rendro a oedd wedi바카라 사이트™u halogi â chyfrwng BSE. Yn sgil gwaharddiad ar broteinau anifeiliaid mewn bwyd i anifeiliaid fferm yn 1996, mae achosion o BSE clasurol yn brin erbyn hyn ond mae achosion yn parhau i godi o bryd i바카라 사이트™w gilydd.

Defnyddiwch y canllawiau hyn i leihau바카라 사이트™r risg bosibl o glefydau, gan gynnwys BSE, o storfa fwyd ar eich fferm, a chadwch eich anifeiliaid yn iach ac yn gynhyrchiol.

Ble i storio bwyd anifeiliaid 

Gallwch ddewis ble i storio bwyd anifeiliaid ar eich fferm. Mae바카라 사이트™r opsiynau바카라 사이트™n cynnwys: 

  • biniau storio neu seilos ar gyfer swmpddeunyddiau a all fod wedi바카라 사이트™u selio neu heb eu selio
  • cistiau neu gilfachau ar gyfer storio swmpddeunyddiau ar y llawr, wedi바카라 사이트™u gwahanu fel arfer gan bartisiynau concrid neu bren
  • siediau neu storfeydd fferm eraill ar gyfer cynhwysion mewn bagiau
  • bwyd anifeiliaid wedi바카라 사이트™i storio mewn pentyrrau mewn adeiladau heb eu selio

Os ydych yn storio bwyd mewn seilo a ddefnyddiwyd cyn 1 Awst 1996 

Dylech ddatgomisiynu unrhyw seilos a ddefnyddiwyd gennych cyn 1 Awst 1996 i storio bwyd anifeiliaid a chael rhai newydd. Bydd hyn yn dileu바카라 사이트™r risg bosibl o BSE o olion o hen fwyd a ddaliwyd mewn uniadau a rhychau. Gall y mymryn lleiaf o fwyd wedi바카라 사이트™i halogi heintio anifail â바카라 사이트™r cyfrwng BSE.

Os na allwch gael gwared ar eich hen seilo, dylech drefnu iddo gael ei lanhau cyn gynted â phosibl. Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • cael gwared ar weddillion hen fwyd trwy ddulliau glanhau sych neu lanhau â sugnydd llwch, ac yna ddefnyddio diheintydd os oes modd.
  • glanhau arwyneb allanol a mewnol y seilo a바카라 사이트™ch llawr (os na allwch fynd at yr arwynebau mewnol, er enghraifft ar storfa gaeedig, datgymalwch y seilo i바카라 사이트™w lanhau, os oes modd)
  • glanhau deunydd a llwch o바카라 사이트™r gwaith dur uwchben am i lawr, hyd nes y byddwch yn methu â chodi rhagor o lwch
  • sychu eich seilo o unrhyw leithder cyn i chi ei ddefnyddio i storio bwyd ffres

Dylech ddefnyddio gwasanaeth glanhau proffesiynol, os yw glanhau eich seilo yn debygol o fod yn anodd neu바카라 사이트™n beryglus i iechyd a diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill.

Glanhau바카라 사이트™r holl gyfleusterau storio bwyd 

Dylai fod gennych system ar waith i wneud yn siŵr eich bod yn gwagio ac yn glanhau eich holl unedau a chyfarpar storio bwyd yn rheolaidd.

Cyn i chi dderbyn cyflenwadau bwyd anifeiliaid newydd, dylech wagio a glanhau eich unedau storio i osgoi croeshalogi. Os na fydd hyn yn bosibl bob tro y byddwch yn ail-lenwi, anelwch at wneud hynny bob 12 mis o leiaf cyn ail-lenwi.

Dylai eich dull glanhau wneud y canlynol:

  • lleihau바카라 사이트™r risg o halogi i바카라 사이트™r eithaf
  • osgoi cyflwyno lleithder, ble bynnag y bo modd
  • peidio â chreu llwch, a allai arwain at ddatblygu bacteria
  • cynnwys sugnlanhau fel y dull a ffefrir ar gyfer gwaredu gweddillion hen fwyd

Dylech ond ddefnyddio dulliau glanhau gwlyb os oes angen, er enghraifft er mwyn diheintio바카라 사이트™n briodol. Ar ôl glanhau gwlyb, sychwch unrhyw gyfarpar a pheiriannau a fydd yn dod i gysylltiad â chynnyrch sych. Dim ond cemegion addas y dylid eu defnyddio i lanhau arwynebau y bydd eich cynhyrchion bwyd yn dod i gysylltiad â nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau바카라 사이트™r gwneuthurwr ar gynhyrchion glanhau.

Gallwch ddefnyddio바카라 사이트™r i바카라 사이트™ch helpu i ddod o hyd i gynnyrch addas.

Cael gwared ar weddillion cyflenwadau bwyd cynharach   

Defnyddiwch ddulliau sych neu sugnlanhau er mwyn cael gwared ar weddillion bwyd yn llwyr. Yna, defnyddiwch ddiheintydd i sicrhau hylendid da. Dyma바카라 사이트™r dull a ffefrir, ond gallwch ddefnyddio unrhyw ddull a fydd yn cael gwared ar unrhyw lwch a deunydd wedi바카라 사이트™i ddal yn llwyr.

Pan fyddwch yn glanhau seilos a biniau, rhowch sylw penodol i uniadau a rhychau lle y gall hen fwyd gael ei ddal.

Dylech hefyd lanhau cafnau a hopranau yn drwyadl i gael gwared ar weddillion bwyd cynharach ac atal croeshalogi.

Diheintio a sychu eich unedau 

Defnyddiwch ddiheintydd sydd hefyd yn gweithio fel glanedydd os ydych yn defnyddio dulliau glanhau gwlyb. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio.

Sychwch eich cyfleuster storio i gael gwared ar unrhyw leithder cyn i chi ei ail-lenwi.

Trefnu eich ardal storio

Ystyriwch y math o gynhyrchion sydd wedi바카라 사이트™u storio a바카라 사이트™u cyflwr. Dylai eich ardal storio gadw eich cynhyrchion yn lân, yn sych ac yn drefnus.

Gall lleithder achosi i facteria luosi, felly dylech gadw eich cynhyrchion yn sych (ac eithrio바카라 사이트™r cynhyrchion hynny sydd i fod yn llaith). Dylech hefyd leihau unrhyw symudiad posibl o lwch rhwng cydrannau storfa.

Trefnwch eich cyfleusterau storio i sicrhau:

  • bod digon o le i wahanu pob cynnyrch
  • bod modd adnabod pob cynnyrch yn hawdd

Cadw cofnod o바카라 사이트™ch gweithgareddau glanhau   

Cofnodwch fanylion yr holl weithgareddau glanhau ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid a바카라 사이트™i storio ar eich fferm.

Dylech gynnwys y canlynol ar gyfer pob gweithgaredd glanhau:

  • dyddiad ac amser
  • lleoliad
  • ardaloedd neu gyfarpar a lanhawyd
  • cynhyrchion glanhau a ddefnyddiwyd gennych

Dylech gadw eich cofnodion am 7 mlynedd o leiaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2024 show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon