Canllawiau

Carchar Lincoln

Mae Lincoln yn garchar a sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar gyfer dynion 18 oed a throsodd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella바카라 사이트™r dudalen hon. .

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Charchar Lincoln

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Lincoln, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr cymeradwy바카라 사이트™r carcharor
  • bwcio eich ymweliad mwy na 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw
  • Bod ag ymweliad wedi바카라 사이트™i threfnu ar gyfer y diwrnod y byddwch yn mynychu a bod wedi eich rhestru fel ymwelydd ar yr ymweliad hwnnw
  • bod â바카라 사이트™r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu바카라 사이트™n hÅ·n ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Lincoln
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau domestig a chymdeithasol

Ar gyfer ymwelwyr tro cyntaf neu bobl sydd ddim ar restr ymwelwyr cymeradwy바카라 사이트™r carcharor, ffoniwch y llinell archebu i gael rhagor o wybodaeth.

Llinell archebu dros y ffôn: 01522 663 172
Mae바카라 사이트™r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am i ganol dydd, ac eithrio Gwyliau Banc
Gwybodaeth am gostau galwadau

Mae ymwelwyr cymeradwy yn gallu archebu eu hymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Sylwch na fyddwn ni바카라 사이트™n ymateb i unrhyw ymholiadau am ymweliadau domestig/cymdeithasol sy바카라 사이트™n cael eu hanfon i gyfeiriad e-bost Archebu Ymweliadau Lincoln. Mae바카라 사이트™r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer ymholiadau cyfreithiol yn unig.

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth 2pm i 4pm
  • Dydd Iau 2pm i 4pm
  • Dydd Sadwrn 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Sul 9am i 11am a 2pm i 4pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol wyneb yn wyneb:

  • Dydd Mawrth a dydd Iau: 9am i 11:30am

Mae modd eu harchebu drwy LincolnVisitsBooking@justice.gov.uk

Cofiwch mai dim ond ar gyfer ymholiadau Cyfreithiol y mae바카라 사이트™r cyfeiriad e-bost hwn. Ni fyddwn yn ymateb i ymholiadau domestig. Gweler 바카라 사이트˜Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau바카라 사이트™ uchod am gyngor ynghylch ymholiadau domestig.

Neu drwy바카라 사이트™r Llinell Archebu Ymweliadau 01522 663172

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am i 12pm ac eithrio Gwyliau Banc

Gall ymwelwyr cymdeithasol ar gyfer carcharorion remand a charcharorion sydd wedi cael eu dyfarnu바카라 사이트™n euog archebu ar-lein ar www.gov.uk/prison-visits

Dim ond drwy e-bost y gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol, rhithwir, y cyfeiriad yw Video_Link_Lincoln@justice.gov.uk.

Rydym hefyd yn cynnig Ymweliadau Teulu unwaith y mis. Ymweliadau estynedig yw바카라 사이트™r rhain yn aml gyda ffocws penodol ac mae carcharorion yn gwneud cais am y rhain yn fewnol.

Cyrraedd Carchar Lincoln

Mae바카라 사이트™r carchar gyferbyn ag Ysbyty Sirol Lincoln. Canol Lincoln yw바카라 사이트™r orsaf drenau agosaf. Mae바카라 사이트™r carchar 20 munud ar droed o바카라 사이트™r orsaf drenau a bysiau.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

  • »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌý
  • »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌý

Mae maes parcio Talu ac Arddangos i바카라 사이트™r dde o바카라 사이트™r carchar a hefyd yn y cefn. Mae parcio Bathodyn Glas yn y blaen a dylid gofyn amdano wrth drefnu ymweliad.

Mynd i mewn i Garchar Lincoln

Rhaid i bob ymwelydd, sy바카라 사이트™n 16 oed neu바카라 사이트™n hÅ·n, brofi pwy ydyw cyn mynd i바카라 사이트™r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Ar gyfer eich ymweliad cyntaf, cyrhaeddwch ar ôl 12:20pm a chadwch lygad am y 바카라 사이트˜bobl borffor바카라 사이트™ er mwyn i chi gael sesiwn gynefino cyn cofrestru (o 1:30pm ymlaen).

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad 바카라 사이트˜patio i lawr바카라 사이트™, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Lincoln. Byddwch chi바카라 사이트™n cael allwedd locer pan fyddwch chi바카라 사이트™n cofrestru. Cofiwch mai dim ond lle cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer eiddo. Gellir gadael cadeiriau gwthio a seddi car gyda바카라 사이트™r tîm diogelwch.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw바카라 사이트™r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri바카라 사이트™r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cod Gwisg Ymwelwyr

Rhaid i ymwelwyr â Charchar Lincoln wisgo바카라 사이트™n briodol bob amser, a fydd yn adlewyrchu ein nod o greu awyrgylch teuluol fel rhan o바카라 사이트™r agenda Lleihau Aildroseddu a Gweddusrwydd. Mae바카라 사이트™r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i bawb sy바카라 사이트™n ymweld â바카라 사이트™r sefydliad beth bynnag fo바카라 사이트™u hoedran a바카라 사이트™u rhywedd.

Yng Ngharchar Lincoln, ystyrir ei bod yn amhriodol gwisgo바카라 사이트™r mathau canlynol o ddillad:

  • Topiau byr/wedi바카라 사이트™u torri sy바카라 사이트™n datgelu cnawd noeth.
  • Topiau neu grysau wedi바카라 사이트™u torri바카라 사이트™n isel sy바카라 사이트™n dangos bronbant neu frest noeth.
  • Festiau (fel un dilledyn)
  • Sgertiau bach sy바카라 사이트™n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy바카라 사이트™n dangos y cluniau.
  • Trowsus byr sy바카라 사이트™n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy바카라 사이트™n dangos y cluniau.
  • Pob math o ddillad y gellir gweld trwyddynt.
  • Penwisg (ac eithrio at ddibenion crefyddol).
  • Dillad sy바카라 사이트™n dramgwyddus o ran natur neu sy바카라 사이트™n arddangos deunydd sarhaus, gwahaniaethol neu amhriodol.
  • Dillad wedi바카라 사이트™u rhwygo
  • Clogynnau, sgarffiau neu eitemau eraill a allai atal staff rhag arsylwi ymwelwyr a charcharorion yn ddigonol.

Ni fydd unrhyw ymwelydd sydd ddim yn cydymffurfio â바카라 사이트™r cod gwisg hwn yn cael mynd i mewn i Garchar Lincoln yn ôl disgresiwn y staff ymweliadau.

Bydd yr hysbysiad hwn yn cael ei arddangos yn y ganolfan ymwelwyr a bydd ar gael fel Atodiad i바카라 사이트™r polisi ymweliadau.

Rhaid i ymwelwyr adael unrhyw eiddo yn eu cerbyd neu yn y Ganolfan Ymwelwyr ac eithrio바카라 사이트™r eitemau a restrir isod:

  • Cerdyn neu arian parod (darnau arian yn unig) ar gyfer prynu lluniaeth
  • Meddyginiaeth (i바카라 사이트™w gadw gan y staff ymweld at ddefnydd brys yn unig)
  • Dymis babanod
  • Potel babi gyda llaeth powdr sych (dŵr i gael ei gyflenwi gan y tîm lluniaeth) a jar o fwyd babi heb ei agor (nid gwydr).
  • Allwedd Locer
  • Yn achos Cynghorwyr Cyfreithiol neu ymwelwyr proffesiynol eraill, dogfennau a phapurau, sy바카라 사이트™n cynnwys y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer yr ymweliad.

Ni chaniateir mynd ag unrhyw offer recordio i바카라 사이트™r ystafell ymweld heb ganiatâd penodol gan y Pennaeth Diogelwch.

Cyfleusterau ymweld

Mae gan Garchar Lincoln siop fach lle gallwch chi brynu bwyd a diod yn ystod ymweliadau penwythnos, neu gallwch chi archebu bwyd o 바카라 사이트˜On a Roll바카라 사이트™ cyn eich ymweliad a fydd yn cael ei ddanfon i바카라 사이트™r carchar. Archebwch eich bwyd o바카라 사이트™r 

Mae cyfleuster hefyd yn y Ganolfan Ymweliadau ar gyfer pryd eistedd i lawr ym mwyty hyfforddi 바카라 사이트˜Berties바카라 사이트™ yn ystod yr wythnos yn unig. Gall carcharorion uwch wneud cais am hyn. Dim ond gyda cherdyn y mae modd talu am y gwasanaeth hwn.

Mae gwasanaeth cownter hefyd ar gael i bob ymwelydd.

Mae man chwarae바카라 사이트™r plant ar gael i바카라 사이트™w ddefnyddio.

Diwrnodau teulu

Rydym ni바카라 사이트™n cynnig ymweliadau teuluol unwaith y mis, ymweliadau estynedig yw바카라 사이트™r rhain sydd yn aml â ffocws penodol ac mae carcharorion yn gwneud cais amdanynt yn fewnol.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau teuluol, ffoniwch y llinell archebu ymweliadau neu Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln i gael rhagor o wybodaeth.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Lincoln

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Lincoln.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu바카라 사이트™r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
  • Bod yn ymwelydd cymeradwy ar restr ymwelwyr y carcharor

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae바카라 사이트™n gweithio

Sylwch fod rhestr galwadau a rhestr ymwelwyr carcharorion yn wahanol. Bydd angen i chi gael eich ychwanegu at y ddau er mwyn derbyn galwadau ac ymweld â charcharor.

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd eto, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio .

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Lincoln drwy ddefnyddio바카라 사이트™r .

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi바카라 사이트™n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Lincoln.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a바카라 사이트™i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio바카라 사이트™r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy바카라 사이트™r post.

Os na allwch ddefnyddio바카라 사이트™r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na바카라 사이트™r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy바카라 사이트™r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau y gallan nhw eu cael yn y carchar, a elwir yn 바카라 사이트˜restr cyfleusterau바카라 사이트™.

Ni all carcharorion sydd wedi바카라 사이트™u dyfarnu바카라 사이트™n euog gael unrhyw eitemau wedi바카라 사이트™u postio na바카라 사이트™u trosglwyddo a rhaid iddyn nhw gynnilo eu harian a바카라 사이트™u prynu o바카라 사이트™r catalog cymeradwy.

Gall dynion ar remánd sydd ddim wedi바카라 사이트™u dyfarnu바카라 사이트™n euog gael dillad wedi바카라 사이트™u rhoi i mewn neu eu postio, ond dim ond nifer cyfyngedig. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau바카라 사이트™n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy바카라 사이트™n gallu dod o hyd i바카라 사이트™r llyfrau a바카라 사이트™u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a바카라 사이트™i wirio gan swyddogion. Cysylltwch â Charchar Lincoln i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy바카라 사이트™n cael ei ganiatáu.

Bywyd yng Ngharchar Lincoln

Mae Carchar Lincoln wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i바카라 사이트™w helpu ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys gweithdai, addysg a chyrsiau galwedigaethol.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Lincoln hawl i deimlo바카라 사이트™n ddiogel. Mae바카라 사이트™r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a바카라 사이트™u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i바카라 사이트™w wneud pan fyddwch chi바카라 사이트™n poeni neu바카라 사이트™n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan .

Mae Cynllun Gwrandawyr, mentoriaid carchar a chynlluniau cymorth gan gymheiriaid i helpu llesiant. Mae cwnsela ar gael ar gyfer dibyniaeth.

Mae gweithdai elusennau ar gael ac mae llawer o gysylltiadau cymunedol, er enghraifft, gwirfoddolwyr sy바카라 사이트™n helpu gydag ymweliadau teuluol.

Cyrraedd a바카라 사이트™r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Lincoln am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o바카라 사이트™r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda바카라 사이트™r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw바카라 사이트™n cyrraedd.

Byddan nhw바카라 사이트™n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw바카라 사이트™n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy바카라 사이트™n cyrraedd Carchar Lincoln yn cael sesiwn gynefino sy바카라 사이트™n para tua wythnos. Byddan nhw바카라 사이트™n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid (a elwir yn 바카라 사이트˜Breswylwyr바카라 사이트™) a fydd yn eu helpu gyda바카라 사이트™r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau바카라 사이트™n 바카라 사이트˜ymyriadau바카라 사이트™), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pob carcharor yn cael swyddog gweithiwr allweddol sy바카라 사이트™n cwrdd â nhw bob wythnos i fonitro cynnydd a thrafod unrhyw broblemau. Mae carcharorion hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 650 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Lincoln ar draws 4 prif adain breswyl. Mae gan adenydd A, B ac C gymysgedd o garcharorion tra bo adain E yn dal unrhyw garcharorion sy바카라 사이트™n cael eu hystyried yn agored i niwed.

Mae cawodydd, ffonau, tostwyr a gweithgareddau hamdden, fel pŵl a thenis bwrdd ar gael ym mhob adain.

Addysg a gwaith

Mae Lincoln yn cynnig ystod eang o addysg, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol mewn peintio ac addurno a gosod brics.

Mae gweithdai teilwra, golchdy a chanolfan ailgylchu lle gall carcharorion ennill cymwysterau cydnabyddedig.

Rhyddhau dros dro

Nid oes rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) yn Lincoln.

Sefydliadau y mae Carchar Lincoln yn gweithio gyda nhw

Mae Lincoln yn gweithio gyda바카라 사이트™r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Ìý²¹³¦Ìý sy바카라 사이트™n cynnig cefnogaeth ailsefydlu amrywiol. Mae cefnogaeth yn cael ei gynnig gyda chyflogaeth, llety, iechyd meddwl a chorfforol a gwasanaethau cymorth cyffuriau yn y gymuned.

Cefnogaeth yng Ngharchar Lincoln

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan  i blant a theuluoedd person sydd yn y carchar.

Ffôn: 01522 663 355

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01522 663 000 os ydych chi바카라 사이트™n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01522 663287 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw바카라 사이트™r pryderon yn peryglu bywyd, neu  ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio바카라 사이트™r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi바카라 사이트™n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio바카라 사이트™r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i바카라 사이트™r carchar, gallwch ffonio바카라 사이트™r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y  ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a바카라 사이트™ch bod am iddo roi바카라 사이트™r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio바카라 사이트™r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi바카라 사이트™r , anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi unrhyw broblem gydag unrhyw agwedd ar y carchar, ysgrifennwch at lywodraethwr y carchar.

Cysylltu â Charchar Lincoln

Llywodraethwr: Colin Hussey

Ffôn: 01522 663 000
24 awr
Ffacs: 01522 663 001
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP/YOI Lincoln
Greetwell Road
Lincoln
LN2 4BD

Helpwch ni i wella바카라 사이트™r dudalen hon. .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Ionawr 2025 show all updates
  1. Dress code and refreshment purchases updated.

  2. Added Christmas period visiting times

  3. Social and legal visits updated.

  4. Updated Governor

  5. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  6. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  7. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  8. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  9. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  10. New visiting times and booking information added.

  11. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  12. visit info

  13. Updated visit info

  14. Updated visit info

  15. Updated visit info

  16. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  17. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  18. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  19. Updated dress code

  20. Updates to entering and visits sections

  21. updated survey

  22. First published.

Argraffu'r dudalen hon