Canllawiau

Gofyn i'r DWP adolygu eu penderfyniad bod yn rhaid i chi ad-dalu taliad caledi

Sut i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) adolygu cais blaenorol i atal (hepgor) ad-daliadau Taliad Caledi Adenilladwy a wnaed rhwng 1 Ionawr 2014 ac 11 Ionawr 2021.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

²Ñ²¹±ð바카라 사이트™r cynllun hwn ar gyfer pobl sydd wedi derbyn Taliad Caledi Adenilladwy gan Gredyd Cynhwysol. Dim ond pe bai eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau oherwydd sancsiwn neu dwyll y byddech wedi derbyn taliad caledi.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad os yw바카라 사이트™r DWP wedi gwrthod cais gennych i ystyried naill ai:

  • stopio (바카라 사이트˜hepgor바카라 사이트™) eich ad-daliadau, neu
  • adolygu바카라 사이트™r gyfradd ad-dalu

Cymhwysedd

Gallwch ofyn i바카라 사이트™r DWP adolygu eu penderfyniad i beidio ag atal ad-dalu eich taliad caledi os yw바카라 사이트™r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rhwng 1 Ionawr 2014 ac 11 Ionawr 2021 gofynnoch i Gredyd Cynhwysol neu Reoli Dyled y DWP i hepgor ad-dalu taliad caledi, neu ailystyried cyfradd yr adferiad, a

  • gwrthododd DWP eich cais neu gwrthododd ystyried y cais

Bydd angen i chi hefyd ddangos nail ai:

  • ni allech fforddio ad-dalu바카라 사이트™r taliad caledi bryd hynny, neu

  • cafodd effaith sylweddol ar y pryd ar eich iechyd neu les chi neu eich teulu - mae hyn yn golygu ei fod wedi achosi cyflwr iechyd neu wneud cyflwr iechyd yn waeth

Sut i wneud cais

Llenwch y (ODT, 15.2 KB).

Rhaid  i chi wneud cais erbyn 4 Mai 2025.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o바카라 사이트™r amser y gwnaethoch y cais cychwynnol. Bydd angen dangos:

  • ni allech fforddio ad-dalu eich taliad caledi, neu

  • effeithiodd y taliad caledi ar eich iechyd neu les chi neu eich teulu

Gallai hyn gynnwys:

  • gwybodaeth ariannol o바카라 사이트™r amser, megis datganiadau banc, gwybodaeth am fenthyciadau, neu lythyrau gan gredydwyr

  • gwybodaeth gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall yn dweud bod ad-dalu바카라 사이트™r arian wedi achosi cyflwr iechyd neu ei wneud yn waeth

Bydd angen i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am eich incwm a바카라 사이트™ch costau byw ar y pryd. Os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon, gallwch barhau i wneud cais. Fodd bynnag, bydd yn helpu eich cais os gallwch roi cymaint o wybodaeth â phosibl.

Gallwch hefyd ysgrifennu llythyr sy바카라 사이트™n ateb y cwestiynau ar y ffurflen. 

Anfonwch y ffurflen a dogfennau eraill at:

Freepost DWP UNIVERSAL CREDIT FULL SERVICE.

Cysylltu â ni

Os ydych chi바카라 사이트™n cael trafferth neu os hoffech gael cymorth i gwblhau바카라 사이트™r cais, ffoniwch linell gymorth y cynllun: 

Llinell gymorth cynllun Taliad Caledi Adenilladwy Credyd Cynhwysol (RHP)

Ffôn: 0800 158 5557

 (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 328 5644

Iaith Arwyddion Prydain (BSL)  if you바카라 사이트™re on a computer - find out how to .

Llinell Gymraeg: 0800 158 5557 

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 10ami  3pm 

Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth sy바카라 사이트™n digwydd nesaf

Bydd DWP yn cysylltu â chi o fewn 6 wythnos i dderbyn eich cais i roi gwybod i chi ei fod wedi바카라 사이트™i dderbyn.

Byddant yn penderfynu a ddylech dderbyn ad-daliad o바카라 사이트™ch ad-daliadau. Efallai y byddant yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth.

Byddant yn anfon penderfyniad atoch am eich cais o fewn 13 wythnos i바카라 사이트™w dderbyn.

Pam mae hyn yn digwydd

²Ñ²¹±ð바카라 사이트™r DWP wedi adolygu ei pholisi ynghylch pryd y mae바카라 사이트™n gofyn i daliad caledi Credyd Cynhwysol gael ei ad-dalu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Tachwedd 2024 show all updates
  1. Added link to new Recoverable Hardship Payments page.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon