Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2017

Cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,367

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.4%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.7

Mae바카라 사이트™r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017, gyda chynnydd o 0.6 pwynt canran er Awst 2017.

O ran y galw am dai, nododd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Medi 2017 fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau yn ystod Medi, gyda gweddill net o -20% yn fwy o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw. Mae hyn yn estyn y dilyniant o ddarlleniadau negyddol i바카라 사이트™r chweched mis, ac mae hefyd yn cynrychioli바카라 사이트™r ffigur gwanaf er Gorffennaf 2016.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU (PDF) fod nifer y trafodion eiddo wedi바카라 사이트™u haddasu바카라 사이트™n dymhorol ar eiddo yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 4.6% rhwng Medi 2016 a Medi 2017. Fodd bynnag, o gymharu Medi 2017 ag Awst 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo wedi바카라 사이트™u haddasu바카라 사이트™n dymhorol gan 1.8%.

Nododd Asiantau Banc Lloegr fod cyflenwad a galw i바카라 사이트™w gweld yn weddol gytbwys ar draws y farchnad gyfan. Mae galw wedi bod yn fwy gwydn yn y sector adeiladau newydd a barnwyd bod y cynllun cymorth i brynu yn hanfodol i gynnal galw gan brynwyr tai am y tro cyntaf.

Wrth edrych yn fwy manwl ar lefelau rhanbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr ar 7.3% i fyny o 5% yn Awst 2017. Roedd y twf blynyddol arafaf yn Llundain ar 2.5%. Dyma바카라 사이트™r 10fed mis yn olynol i바카라 사이트™r twf mewn prisiau tai yn Llundain barhau바카라 사이트™n is na chyfartaledd y DU.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod cyfarwyddiadau newydd i werthu yn sefydlog fwy neu lai am yr ail adroddiad yn olynol, ar ôl lleihau바카라 사이트™n barhaus dros y deunaw mis diwethaf. Nododd RICS hefyd na ddisgwylir llawer o newid o ran gweithgarwch gwerthiannau cenedlaethol dros y tri mis nesaf. Yn yr un modd, mae바카라 사이트™r rhagolygon deuddeg mis yn wastad hefyd ar lefel genedlaethol, er bod ymatebwyr ychydig bach yn fwy optimistaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017 (i fyny o 4.8% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.7% dros y flwyddyn hyd at Fedi 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 5.3% dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.1% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa바카라 사이트™r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa바카라 사이트™r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa바카라 사이트™r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £152,661 0.6% 5.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) £132,169 3.0% 6.0%
Lloegr £243,945 0.6% 5.7%
Yr Alban £144,924 -1.3% 3.1%
De Ddwyrain Lloegr £324,465 0.3% 5.5%
De Orllewin Lloegr £252,737 0.5% 6.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £184,399 0.7% 6.4%
Dwyrain Lloegr £289,301 0.3% 5.9%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £189,038 0.4% 5.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,271 0.5% 4.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £160,951 2.1% 7.3%
Llundain £483,568 -0.2% 2.5%
Swydd Gaerefrog a바카라 사이트™r Humber £158,884 1.0% 5.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa바카라 사이트™r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2017 Medi 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £341,941 £323,250 5.8%
Tŷ pâr £212,477 £201,442 5.5%
Tŷ teras £183,685 £174,173 5.5%
Fflat neu fflat deulawr £203,388 £194,350 4.7%
Holl £226,367 £214,816 5.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw바카라 사이트™r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi바카라 사이트™u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy바카라 사이트™n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy바카라 사이트™n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i바카라 사이트™w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2017 Gorffennaf 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 64,592 77,919 -17.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) 5,453 5,968 -8.6%
Yr Alban 8,725 9,249 -5.7%
Cymru 3,599 4,057 -11.3%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Gorffennaf 2017

Sales volumes for 2013 to 2017 by country: June 2017 welsh

Yng Ngorffennaf 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 15.2% o바카라 사이트™i gymharu â Gorffennaf 2016. O바카라 사이트™i gymharu â Mehefin 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 8.6%.

Mae바카라 사이트™r amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2017 wedi바카라 사이트™i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o바카라 사이트™r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o바카라 사이트™r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd: Medi 2017

Mae바카라 사이트™r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o바카라 사이트™r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o바카라 사이트™r newydd £281,082 1.8% 8.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £222,565 0.3% 5.1%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd: Medi 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 바카라 사이트“ nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,679 0.4% 5.1%
Cyn berchen-feddiannydd £262,898 0.4% 5.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais: Medi 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 바카라 사이트“ nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,799 0.5% 5.5%
Morgais £236,088 0.4% 5.4%

8. Mynediad i바카라 사이트™r data

Mae modd llwytho바카라 사이트™r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda바카라 사이트™n .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri바카라 사이트™r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau바카라 사이트™r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387