Canllawiau

Sut i reoli gwybodaeth sensitfif mewn cystadleuaeth

Cyhoeddwyd 25 Medi 2014

Beth mae angen i chi a바카라 사이트™ch staff ei wybod?

Mae gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol yn cwmpasu unrhyw wybodaeth strategol nad yw바카라 사이트™n gyhoeddus am bolisi masnachol busnes. Mae바카라 사이트™n cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, gynlluniau prisio ac allbwn yn y dyfodol. Mae gwybodaeth fasnachol hanesyddol yn llawer llai tebygol o fod yn sensitif, yn arbennig os na ellir adnabod gweithgareddau masnachol busnesau unigol.

Mae cydymffurfio â chyfraith cystadleuaeth yn arfer busnes da. Mae cydymffurfiad yn y tymor hir yn arbed arian trwy osgoi바카라 사이트™r potensial ar gyfer dirwyon a niwed sylweddol i enw da바카라 사이트™r cwmni.

Gallai bod yn rhan o drafodaethau ar agweddau penodol o fusnes gyda chystadleuwyr a chyflenwyr arwain at risg o dorri cyfraith cystadleuaeth. Gallai trafodaethau ddigwydd mewn cyfarfodydd, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Isod mae yna nifer o bwyntiau allweddol y dylech eu hystyried yn y sefyllfaoedd hynny, sut bynnag fyddant yn codi. A chofiwch - os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gyngor cyfreithiol.

Peidiwch â

  • thrafod dyfodol eich busnes gyda chystadleuwyr: 1. bwriadau prisio yn cynnwys ad-daliadau neu ostyngiadau 2. strategaeth fasnachol, megis beth, ac i bwy, ydych chi바카라 사이트™n bwriadu gwerthu ac/neu ar ba delerau
  • datgelu unrhyw gynlluniau prisio eich cwsmeriaid yn y dyfodol i gwsmeriaid eraill
  • aros mewn unrhyw sefyllfa, proffesiynol neu gymdeithasol, ble mae unrhyw gystadleuwr yn trafod ei gynlluniau prisio ar gyfer y dyfodol neu wybodaeth gystadleuol sensitif arall. Gadewch a gofyn am gyngor gan gyfreithiwr

Ystyriwch cyn

  • datgelu gwybodaeth cost neu bridio cyfredol neu hanesyddol eich busnes i gystadleuwr
  • trafod amodau cyffredinol yn eich diwydiant neu dueddiadau prisio a ragwelir yn y diwydiant gyda바카라 사이트™ch cystadleuwyr. Ni fydd trafodaethau o바카라 사이트™r fath yn torri바카라 사이트™r gyfraith ar bob achlysur, ond mae risg y byddant

Gallwch

  • drafod prisiau neu dueddiadau costau diwydiant hanesyddol a chronedig gyda바카라 사이트™ch cystadleuwyr (os nad yw hyn yn caniatáu i chi adnabod prisiau neu gostau elfennau unigol). Ond byddwch yn ofalus: peidiwch â bod yn rhan o drafodaethau ar gostau na phrisiau yn y dyfodol, a pheidiwch ag aros mewn cyfarfod sy바카라 사이트™n eu trafod
  • gael ffrindiau mewn busnesau cystadleuol - ond cofiwch gadw바카라 사이트™r awgrymau hyn dan ystyriaeth

Pam fod hyn yn bwysig?

Gall goblygiadau torri cyfraith cystadleuaeth fod yn ddifrifol iawn i chi a바카라 사이트™ch busnes.

Nid yw바카라 사이트™r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.