Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 41: ystadau sy바카라 사이트™n datblygu (gwasanaethau cofrestru atodiad 6 바카라 사이트“ cais gwirfoddol i nodi buddion gor-redol)

Diweddarwyd 25 Mehefin 2015

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu바카라 사이트™n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae바카라 사이트™n ddyletswydd ar bawb sy바카라 사이트™n gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig i ddatgelu buddion gor-redol arbennig ar geisiadau i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig. Mae hyn yn golygu, bob tro y bydd cais yn cael ei wneud i gofrestru trosglwyddiad, prydles, arwystl neu roi hawddfraint, bod yr ymgeisydd yn gorfod dadlennu바카라 사이트™r buddion hyn. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a바카라 사이트™u dadlennu i gael rhagor o wybodaeth.

Os yw바카라 사이트™r buddion hyn yn effeithio ar fwy nag un llain ac yn cael eu nodi ar eich cofrestr cyn dechrau datblygu, ceir manteision i bawb.

2. Manteision cais gwirfoddol

I ddatblygwyr.

  • unwaith y nodwyd budd ar y gofrestr ni fydd angen i chi ei ddadlennu fel budd gor-redol a rhoi dogfennau i bob prynwr
  • bydd gennych lai o ohebiaeth oddi wrthym ni i바카라 사이트™w drin. Mae hyn oherwydd, bob tro y bwriadwn gofnodi rhybudd o fudd gor-redol a ddadlennwyd ar gais i gofrestru trosglwyddiad, prydles ac ati ar eich cofrestr, rhaid i ni anfon rhybudd atoch

I brynwyr a phrydleseion.

  • bydd y rhan fwyaf o fuddion eisoes ar y gofrestr cyn iddynt ymrwymo i brynu. Bydd llai o fuddion digofrestredig sy바카라 사이트™n gor-redeg gwarediadau cofrestradwy iddynt fodloni eu hunain yn eu cylch a dadlennu ar eu cais i gofrestru

I Gofrestrfa Tir EF.

  • dim ond unwaith y bydd yn rhaid inni ystyried buddion, yn hytrach nag ar bob cais

3. Sut i wneud cais

Gwnewch gais gan ddefnyddio ffurflen AN1, ac amgáu unrhyw ddogfennau cefnogol. Os dymunwch, gallwch atodi ffurflen DI i바카라 사이트™r AN1 i바카라 사이트™ch cynorthwyo wrth drefnu바카라 사이트™r manylion perthnasol. Dim ond un cais AN1 y mae바카라 사이트™n rhaid i chi ei gyflwyno, beth bynnag fo nifer y buddion gor-redol yr ydych yn gwneud cais i바카라 사이트™w nodi. Os oes cyfyngiad ar nodi neu rybuddiad yn erbyn delio ar eich cofrestr, dylech gysylltu â swyddfa Cofrestrfa Tir EF fydd yn delio gyda바카라 사이트™r cais cyn ei gyflwyno i gael rhagor o gyngor. Dylai eich cais fynd gyda chais i gymeradwyo cynllun yr ystad neu i gymeradwyo prydles neu drosglwyddiad drafft.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o바카라 사이트™r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

4. Yr hyn y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud

Ar yr amod ein bod yn fodlon ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, byddwn fel arfer yn cofnodi rhybudd ar y gofrestr. Yna bydd y buddion hyn yn amlwg i brynwyr a phrydleseion pan fyddant yn derbyn copïau swyddogol o gofrestr y datblygwr.

5. Pethau i바카라 사이트™w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.