The Rt Hon Stephen Crabb
Bywgraffiad
Penodwyd Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Ngorffennaf 2014. Roedd yn Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru rhwng Medi 2012 a Gorffennaf 2014.
Cafodd ei fagu yn Hwlffordd, Sir Benfro, lle bu바카라 사이트™n mynychu Ysgol Tasker Milward. Mae ganddo radd o Brifysgol Bryste (BSc.) ac o Ysgol Fusnes Llundain (MBA).
Cafodd Stephen ei ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf dros yr etholaeth lle y바카라 사이트™i magwyd, Preseli Sir Benfro, yn 2005, a chafodd ei ailethol ym mis Mai 2010 a (ail-etholwyd) 2015.
Cyn cael ei ethol i바카라 사이트™r Senedd, bu바카라 사이트™n gweithio fel ymgynghorydd marchnata. Mae hefyd wedi gweithio i Gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, ac i Siambr Fasnach a Diwydiant Llundain. Mae wedi bod yn weithiwr ieuenctid gwirfoddol yn Ne Llundain, a bu바카라 사이트™n Gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd fawr yng nghanol y ddinas rhwng 1998 a 2002. Mae gan Stephen gysylltiadau agos â nifer o elusennau sy바카라 사이트™n helpu pobl ifanc i oresgyn anawsterau, ac mae바카라 사이트™n un o Noddwyr Mencap Sir Benfro.
Yn y Senedd, mae Stephen wedi bod yn aelod o바카라 사이트™r Pwyllgor Materion Cymreig, y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol a Phwyllgor Dethol y Trysorlys. Ym mis Ionawr 2009, cafodd ei benodi i바카라 사이트™r fainc flaen fel Chwip yr Wrthblaid. Yn dilyn ffurfio바카라 사이트™r Llywodraeth Glymblaid ym mis Mai 2011, penodwyd Stephen yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth.
Yn Sir Benfro, mae Stephen wedi bod yn gefnogwr brwd i바카라 사이트™r sector ynni sy바카라 사이트™n datblygu, ac mae바카라 사이트™r sector hwnnw wedi gweld llawer o fuddsoddi mewn olew newydd, LNG, cynhyrchu pŵer a seilwaith ynni adnewyddadwy ym Mhorthladd Aberdaugleddau. Mae hefyd yn bencampwr dros y gymuned ffermio leol, ac roedd yn un o바카라 사이트™r Swyddogion a sylfaenodd Grŵp Hollbleidiol ar y Diwydiant Llaeth yn y Senedd.
Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Stephen yn mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys rygbi, beicio mynydd a thenis. Mae wedi rhedeg Marathon Llundain deirgwaith, gan godi miloedd o bunnau i elusennau lleol yr un pryd. Mae hefyd yn mwynhau coginio, chwarae바카라 사이트™r gitâr a dysgu.