Justin Tomlinson

Bywgraffiad

Penodwyd Justin Tomlinson yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ar 12 Ebrill 2024. Cyn hynny roedd yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 4 Ebrill 2019 ac 16 Medi 2021. Cyn hynny roedd yn Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng Gorffennaf 2018 ac Ebrill 2019.Gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Pobl Anabl rhwng mis Mai 2015 a mis Gorffennaf 2016. Cyn hynny, ef oedd Ysgrifennydd Preifat Seneddol Ed Vaizey AS.

Addysg

Graddiodd Justin gyda gradd fusnes o Brifysgol Oxford Brookes.

Gyrfa wleidyddol

Yn flaenorol, Justin oedd Ysgrifennydd Preifat Seneddol Ed Vaizey AS. Cyn cael ei ethol i바카라 사이트™r Senedd, bu Justin yn gynghorydd yng Ngogledd Swindon am 10 mlynedd. Gwasanaethodd 4 blynedd yng nghabinet y cyngor fel yr aelod arweiniol dros ddiwylliant a hamdden.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Roedd Justin yn berchen ar fusnes marchnata lleol yn Swindon am 10 mlynedd a werthodd pan etholwyd ef yn AS.