Stori newyddion

Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Gwynedd

Mae tri pherson ifanc yn eu harddegau o Wynedd wedi cael eu penodi바카라 사이트™n Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023 mewn seremoni wobrwyo yng Ngogledd Cymru.

Lord-Lieutenant of Gwynedd Awards: Copyright: RFCA for Wales.

Cyflwynwyd bathodyn y penodiad, a fydd yn para blwyddyn, i바카라 사이트™r Rhingyll Cadét Joshua Bracegirdle a바카라 사이트™r Is-gorporal Cadét Elinor McGregor, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd, ynghyd â바카라 사이트™r Rhingyll Cadét Luke Rees o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF.

Fe바카라 사이트™u penodwyd gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Seymour Bailey Ysw CStJ FRAgS mewn seremoni yng Nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin, Caernarfon, ddydd Iau 4 Mai 2023.

Daeth bron i 80 o bobl i바카라 사이트™r digwyddiad i ddathlu바카라 사이트™r penodiadau newydd ac i gydnabod aelodau바카라 사이트™r cymunedau milwyr wrth gefn a chadetiaid sydd wedi cyflawni cymaint.

Dewiswyd y tri ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a바카라 사이트™r Cadetiaid yng Nghymru.

Byddant yn dilyn ôl troed y Rhingyll Cadét Hedfan, Ysanne Duncan, o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolydd 2022.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda바카라 사이트™r Arglwydd Raglaw, sy바카라 사이트™n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Mae바카라 사이트™r Rhingyll Cadét Joshua Bracegirdle, o Gaernarfon, y mae ei dad yn hyfforddwr oedolion, yn mynychu pob penwythnos hyfforddi a llawer o ddigwyddiadau sirol. Ei hoff weithgaredd yw saethu ac ef a enillodd am yr ergyd orau o 25 metr yng ngwersyll yr haf.

Daw바카라 사이트™r Is-gorporal Cadét Elinor McGregor o deulu milwrol, gyda바카라 사이트™i hen daid yn hedfan bomwyr Lancaster yn ystod y rhyfel. Mae바카라 사이트™r ferch 17 oed, sy바카라 사이트™n mwynhau cymorth cyntaf fel ei hoff weithgaredd yn y cadetiaid, yn gobeithio dod yn feddyg yn y Llynges Frenhinol.

Enillodd y Rhingyll Cadét Luke Rees, o Ynys Môn, ei adenydd Gleidio Arian ar ôl hedfan ar ei ben ei hun ym mis Medi 2022. Yn ogystal â바카라 사이트™i frwdfrydedd dros hedfan, mae Luke yn mwynhau dysgu cyd-gadetiaid. Mae바카라 사이트™n gobeithio dilyn gyrfa ym maes awyrennau a dod yn beilot cwmni awyrennau masnachol.

Cafodd pum oedolyn sy바카라 사이트™n gwirfoddoli 바카라 사이트“ Rhingyll y Faner Rhys Owen o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol; y Rhingyll Hyfforddwr Staff Kelly Murray-Jones o Lu Cadetiaid Clwyd a Gwynedd; yr Is-gapten Barry Chant, yr Is-swyddog Eleanor Maguire a바카라 사이트™r Is-swyddog Mark Walton, i gyd o Gorfflu Cadetiaid Môr Caergybi 바카라 사이트“ eu cydnabod hefyd am eu gwasanaeth rhagorol a바카라 사이트™u hymroddiad i ddyletswydd a dyfarnwyd iddynt Dystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.

Mae Rhys, o Ynys Môn, yn cael ei ddisgrifio fel 바카라 사이트˜esiampl바카라 사이트™ o Filwr Wrth Gefn, wedi neilltuo llawer iawn o바카라 사이트™i amser rhydd dros bron i dri degawd i바카라 사이트™r Fyddin Wrth Gefn 바카라 사이트“ yn mentora ac yn hyfforddi milwyr di-ri sydd wedi pasio drwy gwmni D.

Dechreuodd Kelly, o Ynys Môn, fel gwirfoddolwr di-iwnifform cyn ymgymryd â rôl iwnifform a dod yn wirfoddolwr oedolion gwerthfawr iawn. Ar hyn o bryd mae hi바카라 사이트™n rhedeg tair adran.

Mae Barry, o Ynys Môn, wedi bod yn rhan o deulu바카라 사이트™r Cadetiaid Môr ers 20 mlynedd ac wedi cynnal ac adfywio Cadetiaid Môr Caergybi ar ôl cymryd yr awenau.

Disgrifir Eleanor, sef swyddog adrannol yr aelodau iau, fel person penderfynol, dibynadwy, gwybodus a phroffesiynol 바카라 사이트“ rhywun sy바카라 사이트™n gallu addasu i sefyllfaoedd cyfnewidiol ac sydd â synnwyr digrifwch gwych. Ymunodd â바카라 사이트™r Cadetiaid Môr pan oedd yn 10 oed ac, fel oedolyn, daeth yn wirfoddolwr er mwyn trosglwyddo ei gwybodaeth i바카라 사이트™r cadetiaid a바카라 사이트™i dilynodd.

Bu Mark, a ymunodd â Chadetiaid Môr Caergybi ar ôl symud i Ynys Môn saith mlynedd yn ôl, yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol lle bu바카라 사이트™n Brif Is-swyddog yn y Gwasanaeth Llongau Tanfor, gan weithio fel arbenigwr trydanol ar longau tanfor. Ers ymuno â바카라 사이트™r Cadetiaid Môr, mae Mark wedi dysgu peirianneg fecanyddol. Mae바카라 사이트™n addysgu eraill yn y pwnc a bob amser yn barod i helpu gyda바카라 사이트™r hyn sydd ei angen.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy바카라 사이트™n ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy바카라 사이트™n rhoi o바카라 사이트™u hamser rhydd gyda바카라 사이트™r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) 바카라 사이트“ sefydliad sydd wedi cefnogi바카라 사이트™r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2023