Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn edrych tua'r flwyddyn sydd i ddod ar Ddydd Gŵyl Dewi

Ar ôl Dydd Gŵyl Dewi, mae Simon Hart yn gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod yn flwyddyn o adferiad ond gan ganolbwyntio ar yr argyfwng yn Wcráin.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Secretary of State for Wales, Simon Hart

Secretary of State for Wales, Simon Hart MP

Yn ystod yr wythnos roeddem wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi, o바카라 사이트™r diwedd gallwn weld y golau ym mhen draw바카라 사이트™r twnnel ar ôl dwy flynedd o frwydro ar y cyd yn erbyn pandemig Covid-19. Mae brechlynnau 바카라 사이트“ llawer ohonynt wedi cael eu cynhyrchu yng Nghymru 바카라 사이트“ wedi bod yn newid byd-eang, gan chwarae rhan fawr yn y gwaith o alluogi cymdeithas i agor unwaith eto. Mae바카라 사이트™r plant yn ôl yn yr ysgol, ac mae canol trefi a dinasoedd yn brysur eto ac mae rygbi바카라 사이트™r Chwe Gwlad yn cael ei gynnal o flaen torfeydd mawr o바카라 사이트™r diwedd.

Ar yr un pryd â dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru, ein gwladgarwch a바카라 사이트™n rhyddid, rydym yn cofio bod y gwerthoedd pwysig hyn yn rhai rydym ni a phobl Wcráin yn eu rhannu.

Wrth i Wcrainiaid wrthsefyll ymosodiadau Putin, mae바카라 사이트™r DU wedi ymrwymo £40 miliwn o gymorth dyngarol mewn pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth barhaus.

Fel mae바카라 사이트™r Prif Weinidog wedi바카라 사이트™i ddweud, mae바카라 사이트™r byd wedi gweld dewrder ac arwriaeth syfrdanol gan bobl Wcráin ac ni fydd y DU yn troi ei chefn tra bydd Wcráin mewn angen.

Yn nes adref, fe wnaethom nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni drwy benodi Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Bydd y Cyrnol James Phillips yn gwella바카라 사이트™r gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru, yn llais annibynnol ar faterion cyn-filwyr, ac yn hyrwyddo eu buddiannau. Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac mae ein cyn-aelodau o바카라 사이트™r lluoedd arfog a바카라 사이트™u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth ac ar ôl hynny.

Wrth i ni edrych ymlaen at 2022, blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw parhau â바카라 사이트™n hadferiad ar ôl y pandemig a chodi바카라 사이트™r gwastad ym mhob rhan o바카라 사이트™r DU. Mae pobl Cymru바카라 사이트™n rhannu ymdeimlad dwys o falchder yn eu cymunedau, ac mae hynny바카라 사이트™n briodol. Cymru Ddiwydiannol oedd wedi darparu바카라 사이트™r pŵer i바카라 사이트™r DU drwy바카라 사이트™r chwyldro diwydiannol ac mae twristiaid o bedwar ban byd yn dotio at ei threfi glan môr a바카라 사이트™i golygfeydd mynyddig 바카라 사이트“ yn enwedig tirwedd llechi gogledd orllewin Cymru a ddaeth yn safle treftadaeth byd Unesco y llynedd. Mae Cymru yn lle unigryw sydd â hanes anhygoel a hyd yn oed mwy o botensial.

Ond nid yw pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfleoedd â바카라 사이트™i gilydd na phobl mewn rhannau eraill o바카라 사이트™r Deyrnas Unedig.

Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod bod hyn yn anghywir ac mae ein cynlluniau codi바카라 사이트™r gwastad eisoes yn golygu ein bod yn gweithio gyda chynghorau, cymunedau a Llywodraeth Cymru i wrthdroi바카라 사이트™r anghydraddoldebau daearyddol sydd wedi plagio Cymru a바카라 사이트™r DU yn ehangach.

Mae hyn yn cynnwys cymryd camau breision o ran cyflwyno band eang gigabit a 5G, a symud gwariant ymchwil a datblygu o dde ddwyrain Lloegr er mwyn i ardaloedd eraill gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Erbyn hyn, mae pedair Bargen Twf sy바카라 사이트™n berthnasol i bob rhan o Gymru 바카라 사이트“ Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd 바카라 사이트“ sydd hefyd yn allweddol i바카라 사이트™n huchelgais i godi바카라 사이트™r gwastad. Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £790m, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i greu miloedd o swyddi yn y blynyddoedd i ddod.

Ac rydym yn ariannu cymunedau바카라 사이트™n uniongyrchol 바카라 사이트“ gan ddarparu buddsoddiad drwy바카라 사이트™r Gronfa Codi바카라 사이트™r Gwastad, y Gronfa Adfywio Cymunedol a바카라 사이트™r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Ddiwedd llynedd roedd dros 175 o brosiectau o bob cwr o Gymru wedi cael dros £165 miliwn o gyllid uniongyrchol ar gyfer cynlluniau. Mae바카라 사이트™r rhain yn amrywio o drawsnewid glan y môr a phromenâd Aberystwyth, adfywio Camlas Trefaldwyn ac ailagor Canolfan Gelfyddydau Muni ym Mhontypridd, i adfywio Castell Hwlffordd, ymysg dwsinau o brosiectau ar hyd a lled Cymru.

A dim ond y rownd gyntaf o gyllid oedd hon. Bydd llawer mwy o brosiectau, lleoedd a chymunedau yn elwa ymhellach erbyn diwedd 2022.

Ar hyd a lled yr economi, mae Llywodraeth y DU wedi gosod y trywydd ar gyfer adferiad, ffyniant, swyddi, twf a chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gennym waith enfawr i바카라 사이트™w wneud ac rydym yn canolbwyntio fel llywodraeth ar gael y DU yn ôl ar y trywydd iawn. Ond mae arnom eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru a바카라 사이트™i gweld yn cyflawni ei chynlluniau ar gyfer pobl Cymru a dyna pam rydym ni wedi rhoi바카라 사이트™r setliad mwyaf erioed iddi gan y Trysorlys, £18 biliwn y flwyddyn, er mwyn iddi allu darparu gwasanaethau datganoledig fel iechyd, addysg ac amddiffyn rhag llifogydd.

Rydym yn gwybod y bydd costau byw uwch yn rhoi straen ar gyllidebau nifer o aelwydydd, dyna pam ein bod wedi sefydlu ein Cynllun Swyddi, sydd wedi golygu bod diweithdra ymysg pobl ifanc wedi cyrraedd ei lefel isaf erioed, a바카라 사이트™r disgownt o £200 ar filiau바카라 사이트™r hydref hwn ar gyfer cwsmeriaid trydan domestig.

Mae Covid-19 ac anawsterau costau byw yn dal gyda ni, ond serch hynny gallwn edrych ymlaen gyda gobaith. Mae amddiffyn yn dal yn gyflogwr hanfodol yng Nghymru ac mae바카라 사이트™r Weinyddiaeth Amddiffyn yn buddsoddi £320m yn ystad y Fyddin yng Nghymru, gan gynnwys cadw Barics Aberhonddu a sefydlu catrawd newydd yng Nghaer-went erbyn 2028, a bydd contract awyrennau newydd yr Awyrlu Brenhinol ar gyfer Brychdyn hefyd.

A바카라 사이트™r mis hwn cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai바카라 사이트™n symud 500 o swyddi i leoliadau ar hyd a lled Cymru. Mae Llywodraeth y DU eisiau manteisio i바카라 사이트™r eithaf ar dalent a photensial gweithlu Cymru ac mae adleoli mwy o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn ein helpu i gyflawni hynny.

Rydym yn wynebu cyfnod ansicr wrth i ni ganolbwyntio ar hyn o bryd ar y sefyllfa ofnadwy yn Wcráin. Ond gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod yn un o optimistiaeth ac adferiad i바카라 사이트™n holl gymunedau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mawrth 2022