Rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf CDL yn agor, gan annog cymunedau lleol yng Nghymru
Yn ddiweddar, bu바카라 사이트r Farwnes Randerson yn lansiad rhaglen grantiau bach newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw yn Nhŷ바카라 사이트r Cyffredin i ddysgu sut gall pobl o Gymru sicrhau cyllid i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae o leiaf £1 miliwn y flwyddyn ar gael gan CDL am chwe blynedd hyd at 2019. Bydd yn darparu grantiau rhwng £3,000 a £10,000 gan alluogi grwpiau o bob cwr o바카라 사이트r DU i archwilio, diogelu a rhannu eu treftadaeth o바카라 사이트r Rhyfel Byd Cyntaf ac ehangu eu dealltwriaeth o effaith y gwrthdaro.
O ganlyniad, bu Barwnes Randerson yn annog cymunedau yng Nghymru i feddwl am ffyrdd i nodi바카라 사이트r Canmlwyddiant. Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys: *ymchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a바카라 사이트i chofnodi; *creu archif neu gasgliad cymunedol; *datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati; *gwaith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a *gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Rwy바카라 사이트n falch iawn fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri바카라 사이트n sicrhau bod yr arian hwn ar gael i gymunedau lleol. Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar bobl Cymru, fel sy바카라 사이트n wir am sawl ardal yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn annog unrhyw un sy바카라 사이트n dymuno gwybod mwy am yr hyn a ddeilliodd yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf neu sy바카라 사이트n dymuno nodi바카라 사이트r Canmlwyddiant, i gysylltu â Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Sebastian Faulks CBE, darlledwr, nofelydd, awdur Birdsong ac aelod o grŵp ymgynghorol y Llywodraeth ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf:
Mae rhaglen grantiau bach Rhyfel Byd Cyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loetri yn rhoi cyfle i bob stryd, tref neu bentref wneud yn siŵr eu bod yn cofio바카라 사이트r digwyddiadau trychinebus gan mlynedd yn ôl. Mae바카라 사이트n gyfle i ddysgu a choffau ym mha bynnag ffordd a fynnant.
Wrth groesawu바카라 사이트r rhaglen yn ystod y lansiad yn Nhŷ바카라 사이트r Cyffredin, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Maria Miller:
Mae바카라 사이트n gwbl addas ein bod yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gyda rhaglen genedlaethol sy바카라 사이트n cyfleu ein hysbryd cenedlaethol ac sy바카라 사이트n dweud rhywbeth am bwy ydyn ni fel pobl. Ond hefyd mae angen i바카라 사이트r hyn a wnawn greu etifeddiaeth ddiwylliannol ac addysgiadol i gymunedau. Bydd y rhaglen grant a gyhoeddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri heddiw yn chwarae rhan fawr yn hyn, gan adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol sydd eisoes wedi바카라 사이트i roi tuag at y Canmlwyddiant.
Dywedodd y Fonesig Jenny Abramsky, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, gan gyffwrdd a llunio pob cornel o바카라 사이트r DU a thu hwnt. Bydd rhaglen newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i archwilio바카라 사이트r hyn a etifeddwyd yn sgîl y rhyfel hwn, a bydd yn helpu pobl ifanc yn arbennig i ehangu eu dealltwriaeth o sut y mae wedi llunio ein byd modern ni.
Mae CDL eisoes wedi buddsoddi £12 miliwn mewn prosiectau 바카라 사이트 rhai mawr a bach 바카라 사이트 a fydd yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Os oes gan grŵp syniad ar gyfer prosiect i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae pecyn cais ar gael yn http://welsh.hlf.org.uk/HowToApply/programmes/Pages/ddoeaheddiw.aspx. Os oes angen grant o dros £10,000 ar grŵp ar gyfer prosiect Rhyfel Byd Cyntaf, gall wneud cais i CDL drwy ei rhaglenni agored.
Nodiadau i Olygyddion
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Gan ddefnyddio arian a godir drwy바카라 사이트r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio sicrhau gwahaniaeth parhaol i dreftadaeth, i bobl ac i gymunedau ledled y DU, gan helpu i adeiladu economi dreftadaeth gref. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o바카라 사이트n treftadaeth amrywiol, gan gynnwys amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol, archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol. Mae CDL wedi cefnogi bron i 35,000 o brosiectau gyda dros £5.3 biliwn ledled y DU. http://welsh.hlf.org.uk/Pages/Home.aspx.
Dilynwch ni ar twitter @heritagelottery #understandingWW1
Cynlluniau Canmlwyddiant Llywodraeth y DU
Ym mis Hydref 2012, amlinellodd y Prif Weinidog gynlluniau바카라 사이트r Llywodraeth i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014. Mae바카라 사이트r cynlluniau hyn yn cynnwys gwario £35m ar weddnewid yr orielau Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth (IWM); prif bartneriaid y Llywodraeth yn y digwyddiadau coffáu fydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, ond bydd yn cynnwys cefnogaeth i nifer o fentrau eraill hefyd, rhai mawr a bach, wrth iddynt ddod at ei gilydd yn ystod y misoedd a바카라 사이트r blynyddoedd nesaf.
Wrth siarad yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth ym mis Hydref, dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron: 바카라 사이트Ni all digwyddiad coffáu gwirioneddol genedlaethol ymwneud â mentrau cenedlaethol a gweithredu gan y llywodraeth yn unig. Mae angen i hyn fod yn lleol hefyd바카라 사이트 Gadewch i ni fynd ati i sicrhau bod y canmlwyddiant hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol genedlaethol ym mhob cymuned yn ein gwlad.바카라 사이트