Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU yn dathlu Wythnos Prydain Fawr Werdd yng Nghanolbarth Cymru

Yr Arglwydd Bourne yn dathlu llwyddiant prosiectau twf glân yng Nghanolbarth Cymru ac yn trafod dyfodol bargen twf y rhanbarth.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Lord Bourne taking a tour of IBERS, Aberystwyth University

Lord Bourne taking a tour of IBERS, Aberystwyth University

Yn yr wythnos pan fydd Llywodraeth y DU yn lansio바카라 사이트™r Wythnos Prydain Fawr Werdd gyntaf, mae Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, yr Arglwydd Bourne, ar ei ffordd i Ganolbarth Cymru i ddathlu gwaith sefydliadau a busnesau sy바카라 사이트™n hyrwyddo바카라 사이트™r agenda twf glân. Fel rhan o바카라 사이트™i ymweliad deuddydd, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd ag ystod o fusnesau yn y rhanbarth i ganfod sut y gallai Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru fynd i바카라 사이트™r afael ag unrhyw rwystrau rhag twf, ac i바카라 사이트™w hannog i gyfrannu at ei datblygiad, gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth.

Gan ymuno â miloedd o bobl ar hyd a lled y DU sy바카라 사이트™n dathlu twf glân, bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld ag IBERS a바카라 사이트™r Campws Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddysgu mwy am eu gwaith i drosi ymchwil arloesol yn atebion ymarferol i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i dwf glân, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn gweld sut mae바카라 사이트™r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn creu atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd i ymwelwyr o bob rhan o바카라 사이트™r byd, gan gynnwys eco-lanweithdra, rheoli coetiroedd ac ynni adnewyddadwy.

Meddai바카라 사이트™r Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:

Yn y flwyddyn sy바카라 사이트™n nodi 10fed pen blwydd Deddf Newid yn yr Hinsawdd, nid oes amser gwell i adeiladu ar ein llwyddiant ac i fanteisio ar y cyfleoedd pwysig ar gyfer twf economaidd glanach yn y DU.

Rwyf yn croesawu gwaith IBERS a Chanolfan y Dechnoleg Amgen sy바카라 사이트™n gwneud gwaith diflino i wireddu gweledigaeth y DU o dwf economaidd glân. Rhaid i바카라 사이트™r gwaith o gyflawni twf glân fod yn fenter ar y cyd â Llywodraeth y DU, y cenhedloedd datganoledig, awdurdodau lleol, busnesau a phobl Prydain a dyna pam yr wyf heddiw yn annog pobl ym mhob rhan o바카라 사이트™r wlad i ymrwymo i fynd i바카라 사이트™r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ystod ei ymweliad deuddydd â Chanolbarth Cymru, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth i drafod Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru. Bydd yr Arglwydd Bourne yn cwrdd â바카라 사이트™r Athro Elizabeth Treasure ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod cynnydd y Brifysgol i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth trwy ymchwil ac arloesi, gan gynnwys datblygiadau fel y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ac Amaethyddiaeth Fanwl.

Bydd Wynnstay, gweithgynhyrchwyr cyfenwadau amaethyddol, hefyd yn croesawu바카라 사이트™r Arglwydd Bourne wrth iddynt ddathlu eu 100fed pen blwydd. Yn ystod ei gyfarfod â바카라 사이트™r Prif Weithredwr newydd Gareth Davies, bydd yr Arglwydd Bourne yn ystyried sut y gall y rhanbarth oresgyn rhwystrau rhag tyfu a sicrhau bargen twf sy바카라 사이트™n gweithio i ganolbarth Cymru.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae바카라 사이트™n hanfodol ein bod yn symud pwerau o Lundain a Chaerdydd at arweinyddion lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau sy바카라 사이트™n effeithio ar eu cymunedau. Dyna pam yr wyf wedi ymrwymo i gydweithio바카라 사이트™n AGOS â바카라 사이트™r cwmnïau a바카라 사이트™r grwpiau sydd wedi ymroi i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth.

Trwy lansio바카라 사이트™r Strategaeth Ddiwydiannol fodern, mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu바카라 사이트™r amodau gorau ar gyfer ffyniant rhanbarthol, ond rhaid i바카라 사이트™r sector preifat gymryd y camau angenrheidiol i hybu바카라 사이트™r weledigaeth hon ar gyfer twf yng Nghanolbarth Cymru.

Gyda Llywodraeth y DU eisoes yn llofnodi cytundeb Penawdau바카라 사이트™r Telerau ar gyfer Bargeinion Dinesig yng Nghaerdydd ac Abertawe a chyda negodiadau ar waith gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol ar gyfer bargen twf i Ogledd Cymru, byddai bargen twf llwyddiannus i Ganolbarth Cymru yn gweld Cymru gyfan yn elwa ar fargen ddinesig neu dwf Llywodraeth y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2018