Stori newyddion

Sgamiau SMS-rwydo Myfyrwyr ar Gynnydd

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar ddechrau 24/25 blwyddyn academaidd

Ar ddechrau바카라 사이트™r flwyddyn academaidd 24/25, mae바카라 사이트™r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn atgoffa myfyrwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau SMS-rwydo.

Mae sgamwyr yn targedu myfyrwyr yr adeg hon o바카라 사이트™r flwyddyn wrth iddynt dderbyn eu taliad benthyciad cynhaliaeth cyntaf. Mae SLC yn disgwyl talu ÂŁ2bn i fyfyrwyr dros dymor yr hydref a바카라 사이트™r llynedd fe ataliwyd ÂŁ2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cael eu cymryd gan sgamiau SMS-rwydo a gwe-rwydo, lle derbyniodd myfyrwyr gyfathrebiadau ffug a gweithredu arnynt.

SMS-rwydo, sef twyll sy바카라 사이트™n ymwneud â negeseuon testun, yw바카라 사이트™r math mwyaf poblogaidd dwyll ar hyn o bryd, gyda myfyrwyr fel arfer yn cael eu gwahodd i glicio dolen i gwblhau tasg 바카라 사이트“ er enghraifft gwirio manylion banc neu gadarnhau eu gwybodaeth bersonol, gan roi cyfle i daliad gael ei ddargyfeirio i gyfrif banc twyllwr.

Ni fydd SLC byth yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu neu ddilysu eu gwybodaeth bersonol neu ariannol trwy e-bost neu neges destun, ac mae Alan Balanowski, Cyfarwyddwr Risg SLC, yn annog myfyrwyr i dalu sylw i unrhyw gyfathrebu a gânt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) neu SLC yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd: 바카라 사이트œMae dechrau neu ddychwelyd i바카라 사이트™r brifysgol yn gyfnod cyffrous, ond mae hefyd yn brysur, gyda myfyrwyr yn rhoi trefn ar bethau ac yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd, sy바카라 사이트™n cynnwys ymdrin â gwybodaeth gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys ni ein hunain. Ein nod yw sicrhau bod ein proses dalu yn syml i fyfyrwyr, ond rydym yn profi cynnydd mewn sgamiau SMS-rwydo ar yr adeg hon o바카라 사이트™r flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod angen i fyfyrwyr fod yn effro i unrhyw ymgais bosibl i atal rhandaliad eu benthyciad cynhaliaeth.

바카라 사이트œMae gennym ni amrywiaeth o ddulliau ataliol rydyn ni바카라 사이트™n eu defnyddio i dargedu sgamiau, ond yr offeryn sy바카라 사이트™n cael yr effaith fwyaf sydd gennym ni yw gweithio gyda myfyrwyr i atal twyllwyr. Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai ei dileu a rhoi gwybod amdani ar unwaith, ond os bydd twyllwr yn llwyddo i gael manylion personol, yna mae바카라 사이트™n rhaid i ni gydweithio바카라 사이트™n gyflym i ganfod a rhwystro바카라 사이트™r weithred바카라 사이트.

바카라 사이트œY llynedd, fe lwyddon ni i atal ÂŁ2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cyrraedd twyllwyr, ac rydym yn canolbwyntio ar weithio mor effeithiol ag y gallwn i amddiffyn myfyrwyr a바카라 사이트™u cyllid.

바카라 사이트œMae ein neges i fyfyrwyr yn eithaf syml, meddyliwch cyn clicio.바카라 사이트

Awgrymau da바카라 사이트™r SLC

  • Nid yw SLC na CMC yn darparu unrhyw wasanaethau trwy WhatsApp ac ni fyddant byth yn cychwyn cyswllt â myfyriwr trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, X, Instagram a Tik Tok, i drafod eu cais neu eu hawl i gyllid myfyriwr. Os yw cwsmer yn derbyn cyfathrebiad gan CMC nad yw바카라 사이트™n siĹľr ohono, dylai fewngofnodi i바카라 사이트™w gyfrif ar-lein i wirio a yw바카라 사이트™n ddilys.
  • Gwiriwch ansawdd y cyfathrebu - yn aml bydd camsillafu, diffyg atalnodi a gramadeg gwallus yn arwyddion o we-rwydo.
  • Cadwch lygad am unrhyw e-byst, galwadau ffĂ´n neu negeseuon testun amheus, yn enwedig o gwmpas amser taliad disgwyliedig.
  • Mae e-byst twyll a negeseuon testun yn aml yn cael eu hanfon mewn swmp at lawer o bobl ar yr un pryd ac yn annhebygol o gynnwys enw cyntaf ac enw olaf. Mae바카라 사이트™r rhain yn dechrau fel arfer gydag 바카라 사이트“ 바카라 사이트˜Annwyl Fyfyriwr바카라 사이트™.
  • Mae negeseuon sy바카라 사이트™n cyfleu ymdeimlad o frys hefyd yn annhebygol o fod yn ddilys 바카라 사이트“ er enghraifft 바카라 사이트˜bydd methu ag ymateb o fewn 24 awr yn arwain at gau y cyfrif바카라 사이트™.
  • Meddyliwch cyn clicio. Os yw e-bost neu neges destun yn cynnwys dolen, daliwch eich cyrchwr drosto i wirio ei fod yn mynd lle mae i fod. Os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch â바카라 사이트™i mentro. Ewch yn uniongyrchol at y ffynhonnell yn hytrach na chlicio ar ddolen a allai fod yn beryglus.
  • Gall twyllwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio cael myfyrwyr i dalu arian neu rannu manylion personol, gan gynnwys defnyddio galwadau ffĂ´n twyllodrus, postiadau cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau digidol. Defnyddiwch rifau ffĂ´n swyddogol, y cyfrif ar-lein a sianeli cyfathrebu swyddogol bob amser i wirio bod y cyswllt a dderbyniwyd yn ddilys.
  • Byddwch yn ymwybodol o바카라 사이트™r wybodaeth rydych chi바카라 사이트™n ei rhannu amdanoch chi바카라 사이트™ch hun ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn mannau eraill ar-lein, i helpu gwarchod rhag lladrad hunaniaeth. Mae lladrad hunaniaeth yn digwydd pan fydd twyllwyr yn cyrchu digon o wybodaeth am hunaniaeth person, megis ei enw, dyddiad geni, cyfeirnod cwsmer, gwybodaeth cwrs neu gyfeiriadau presennol neu flaenorol i ddynwared nhw ar-lein a thros y ffĂ´n.
  • Mae SLC neu Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn anfon neges destun at fyfyrwyr yng Nghymru os oes newid wedi바카라 사이트™i wneud i바카라 사이트™w manylion banc. Os nad ydych wedi newid eich manylion banc ac wedi derbyn neges, cysylltwch â ni ar unwaith.
  • Cymrwch olwg ar ein canllaw i nodi twyll ar www.gov.uk/guidance/phishing-scams-how-you-can-avoid-them

Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai adrodd amdano ar unwaith trwy e-bost i report@phishing.gov.uk ac i Slc trwy ffonio ein llinell ymroddedig ar 0300 100 0059. 

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth ychwanegol ar adnabod ac osgoi twyll gan ,  canolfan adrodd genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2024