Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y degfed tro ar 19 Rhagfyr 2024.
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 19 Rhagfyr 2024.
Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus yr Aelod Seneddol Jo Stevens, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi dyblu바카라 사이트™r cyllid ar gyfer y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau a바카라 사이트™r Gronfa Pontio Cadwyn Gyflenwi i gyfanswm o £30m.Â
Cafwyd llawer o ddiddordeb eisoes yn y Gronfa Cadwyn Gyflenwi, gyda bron i 40 o fusnesau yn cyflogi 2,000 o bobl sydd yn mynd drwy바카라 사이트™r broses ymgeisio ar hyn o bryd. Disgwylir i grantiau gwerth miliynau gael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd. Mae바카라 사이트™n debyg y bydd y rhan fwyaf o바카라 사이트™r diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol yn Tata Steel UK yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, felly bydd cymorth ar gael i fusnesau ac unigolion yr effeithir arnynt yn ystod 2025/26. Daw바카라 사이트™r cyllid o £80 miliwn gan Lywodraeth y DU i gefnogi바카라 사이트™r rheini yr effeithir arnynt gan gynlluniau Tata Steel i adeiladu ffwrnais arc drydan ar eu safle ym Mhort Talbot a바카라 사이트™r lleihad yn y gweithlu yn sgil hynny.
Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd am gymeradwyaeth y Bwrdd i ehangu바카라 사이트™r meini prawf cymhwysedd i ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadwyn Gyflenwi a chynyddu maint y grantiau. Bydd y newid yn ehangu바카라 사이트™r meini prawf cymhwysedd, fel y gall busnesau sydd gyda 30% o gysylltiad â Tata wneud cais, sy바카라 사이트™n ostyngiad o 50%. Bydd maint grantiau바카라 사이트™r Gronfa Cadwyn Gyflenwi yn tyfu hefyd 바카라 사이트“ gydag uchafswm y 바카라 사이트˜Grant Cymorth Busnes바카라 사이트™ yn cynyddu o £25,000 i £50,000 a바카라 사이트™r 바카라 사이트˜Gronfa Grantiau Cyfalaf바카라 사이트™ yn cynyddu o £170,000 i £250,000. Golygai hyn y gall mwy o fusnesau wneud cais, a gwella바카라 사이트™r gefnogaeth i fusnesau, gweithwyr a바카라 사이트™r economi leol.  Â
Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol hefyd:
- Rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
- Cynlluniau바카라 사이트™r Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
- Cymhorthfa yr Undeb Cymunedol ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt;
- Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl; a
- Chynllun cyfathrebu i hyrwyddo cyllid y Bwrdd Pontio.
Roedd y canlynol yn bresennol: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Rushanara Ali MP, Aelod Seneddol, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol MHCLG; y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O바카라 사이트™Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Dr Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK ac Is-Lywydd Materion Corfforaethol Ewropeaidd, Tata Steel Ltd; Stephen Kinnock, Aelod Seneddol dros Aberafan Maesteg; David Rees, AS Aberafan; Tom Giffard, AS rhanbarthol Gorllewin De Cymru; Luke Fletcher AS rhanbarthol Gorllewin De Cymru; Anne Jessopp CBE; Katherine Bennett CBE aelodau annibynnol o바카라 사이트™r Bwrdd; ac Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, yr Undeb Cymunedol.