Ceir mawreddog a cheir bri drud iawn ymhlith y rhai a ddaliwyd heb dreth cerbyd
Mae Rolls Royce, Ferrari, Aston Martin a Lamborghini ymhlith y ceir brand mawreddog a glampiwyd y llynedd am beidio cael treth cerbyd dilys, yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y DVLA.

Y llynedd, cafodd mwy na 118,000 o gerbydau eu clampio neu atafaelu gan dimau gorfodaeth yn gweithio ar ran y DVLA. Mae rhai o바카라 사이트™r gwneuthuriadau mawreddog a glampiwyd neu a atafaelwyd yn cynnwys:
Gwneuthuriad | Cyfanswm a glampiwyd/atafaelwyd |
---|---|
Porsche | 137 |
Bentley | 12 |
Daimler | 11 |
Aston Martin | 10 |
Maserati | 10 |
Tesla | 7 |
TVR | 6 |
Rolls Royce | 3 |
Ferrari | 2 |
Lamborghini | 2 |
Mae바카라 사이트™r cerbydau a gafodd eu clampio amlaf yn adlewyrchu rhai o바카라 사이트™r modelau sy바카라 사이트™n gwerthu fwyaf yn y DU. Y Ford Focus a바카라 사이트™r Vauxhall Astra sydd ar frig y rhestr gyda mwy na 5,000 o bob un ohonynt yn cael eu clampio neu eu hatafaelu. Ymhlith y cerbydau eraill gafodd eu clampio roedd 68 Tacsi Llundain, 2 gartref modur Gulf Stream, tractor a 3 Reliant Robin.
Cafodd mwy na 30,000 o geir arian eu clampio neu atafaelu, oedd yn golygu mai cerbydau arian gafodd eu clampio amlaf.
Y 10 lliw cerbyd a gafodd eu clampio fwyaf oedd:
Lliw | Cyfanswm a glampiwyd/atafaelwyd |
---|---|
Arian | 30,035 |
Glas | 23,411 |
Du | 21,270 |
Gwyn | 12,314 |
Coch | 10,731 |
Llwyd | 10,219 |
Gwyrdd | 5,997 |
Melyn | 732 |
Llwydfelyn | 710 |
Aur | 696 |
Dywedodd Bethan Beasley, Rheolwr Cenedlaethol Clampio Olwynion y DVLA:
Mae ein timau gorfodaeth yn crwydro바카라 사이트™r ffyrdd ar hyd a lled y DU trwy gydol y flwyddyn. Mae eu faniau yn cynnwys camerâu adnabod platiau rhif, sy바카라 사이트™n golygu fod unrhyw gerbyd heb ei drethu mewn perygl o gael ei glampio neu ei atafaelu.
Ni ddaw바카라 사이트™r rhan fwyaf o yrwyr fyth ar draws ein timau clampio gan fod mwy na 98% o바카라 사이트™r cerbydau ar y ffordd yn cael eu trethu바카라 사이트™n gywir. Fodd bynnag, bydd rhaid i unrhyw un sy바카라 사이트™n mentro defnyddio cerbyd heb dreth ar y ffordd ymdopi â chost ac anghyfleustra eu cerbyd yn cael ei glampio neu ei atafaelu.
Ni fu erioed yn haws trethu eich cerbyd 바카라 사이트“ nid yw바카라 사이트™n cymryd ond ychydig funudau i바카라 사이트™w wneud ar-lein, a chan y gellir talu treth cerbyd trwy Ddebyd Uniongyrchol erbyn hyn, gellir rhannu taliadau dros 12 mis, felly does dim esgus mewn gwirionedd.
Nodiadau i olygyddion:
-
Gweler y rhestr lawn o gerbydau a glampiwyd ac a atafaelwyd ar gyfer 2016/17:
-
Gallwch wirio statws treth ac MOT cerbyd unrhyw bryd trwy ein gwasanaeth ymholiadau cerbydau ar-lein.
-
Gallwch drethu cerbyd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407