Rhai o nwyddau gorau Cymru yn cael eu cyflwyno i arweinwyr byd
Mae detholiad o nwyddau gorau Cymru wedi cael eu cyflwyno i arweinwyr byd yn Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.
Cafodd cacenni cri, pêl rygbi a barddoniaeth gan Dylan Thomas eu cynnwys mewn basgedi helyg wedi바카라 사이트u gwneud â llaw a fydd yn dangos cynnyrch a chymeriad y wlad i바카라 사이트r ymwelwyr, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.
Mae hosanau gwlân, mêl a matiau diod llechen o Gymru ymysg eitemau eraill a gyflwynwyd i바카라 사이트r arweinwyr byd a oedd yn mynychu Uwchgynhadledd NATO yng ngwesty바카라 사이트r Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw (5 Medi)
Mae nwyddau wedi cael eu darparu gan dros 25 o fusnesau Cymru a gwneuthurwyr o Gymru.
Dyma neges oddi wrth y Prif Weinidog a gafodd ei rhoi yn y basgedi:
Yn ystod yr uwchgynhadledd hon fe welwch sawl enghraifft o sectorau amddiffyn ac awyrofod cryf Cymru. Dyma rai enghreifftiau gwych hefyd o dreftadaeth gref y wlad o ran bwyd a chrefftwaith.
O gerddi Dylan Thomas a chrefftwaith y Bathdy Brenhinol i gynnych sy바카라 사이트n cael ei wneud heddiw yng Nghymru, mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau pob un o바카라 사이트r rhoddion hyn ac y byddant yn eich ysbrydoli i ddod i wybod am bopeth sydd gan Gymru i바카라 사이트w gynnig.
Roedd yr eitemau a roddwyd i westeion yn Uwchgynhadledd NATO yn cynnwys:
- Basgedi helyg, wedi바카라 사이트u gwneud â llaw gan ddefnyddio helyg sy바카라 사이트n cael ei dyfu yn ne Cymru gan Hatton Willow o Gaerffili, Seren Willow, gwneuthurwyr basgedi helyg o Gaerdydd ac Out to Learn Willow, yn ne Cymru.
- Matiau diod NATO personol wedi바카라 사이트u gwneud o lechen Gymreig gan Valley Mill
- Darn arbennig i gofio wedi바카라 사이트i wneud gan y Bathdy Brenhinol, ac wedi바카라 사이트i ddylunio gan yr ysgythrwr Jody Clark a바카라 사이트i gynhyrchu yn Llantrisant yn Ne Cymru.
- Cacenni cri wedi바카라 사이트u cynhyrchu바카라 사이트n lleol a바카라 사이트u cyflenwi gan westy바카라 사이트r Celtic Manor.
- Cyfflincs a breichledau wedi바카라 사이트u llunio gan ddefnyddio aur Cymru gan gwmni Clogau yng Ngogledd Cymru.
- Mêl wedi바카라 사이트i wneud gan Hilltop Honey yng Nghaersws, canolbarth Cymru.
- Wisgi wedi바카라 사이트i botelu gan Fragdy Penderyn yn Ne Cymru.
- Peli rygbi, yn cynrychioli prif gamp Cymru, wedi바카라 사이트u cyflwyno gan Undeb Rygbi Cymru.
- Y llyfr 바카라 사이트Selected Poems by Dylan Thomas바카라 사이트 wedi바카라 사이트u cyflwyno gan Orion Publishing.
- Cyfnodolion o wlân wedi바카라 사이트u gwehyddu gan Jane Beck a Nia Hobbs yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru.
- Hosanau gwlân gan y cwmni teuluol Corgi Hosiery, o Sir Gaerfyrddin.
- Printiadau o ffotograff o Bont Gludo Casnewydd wedi바카라 사이트i gymryd gan Pradip Kotecha, a enillodd y gystadleuaeth ffotograffiaeth Casnewydd Eiconig. Cyflwynwyd y rhain gan drefnwyr y gystadleuaeth, Prifysgol De Cymru.
- Printiadau wedi바카라 사이트u fframio o baentiadau ipad o 바카라 사이트400 golygfa eiconig o Gasnewydd바카라 사이트 gan yr artist Joseph Anthony Connor.
- Cyfrifiadur Sony Raspberry Pi maint cerdyn credyd, wedi바카라 사이트i adeiladu ym Mhencoed yn Ne Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales