Stori newyddion

Pymtheg person ifanc yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwent

Mae ymdrechion 15 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys un ar ddeg cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Group of military people smiling

Lord-Lieutenant of Gwent Awards

Penododd y Brigadydd Robert Aitken CBE bum person ifanc fel cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Gwent eleni mewn seremoni wobrwyo ym Marics Rhaglan, Casnewydd, ddydd Iau 9 Chwefror.

Cafodd y Cadét Staff, Uwch-Ringyll Catrodol Eshan Iqbal o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Uwch-Ringyll y Cadetiaid Olivia Armstrong o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; Y Corporal Gadét Macsen Purser o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern; y Cadét Abl Alex Jones o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd a바카라 사이트™r Swyddog Gwarant Cadetiaid Deighton Davies o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing eu penodi i rôl cadetiaid yr Arglwydd Raglaw.

Mae Eshan, 18 oed, o Gasnewydd, sy바카라 사이트™n mynychu Ysgol St Julian, yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Y tu allan i바카라 사이트™r cadetiaid, mae바카라 사이트™n gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned gydag elusennau lleol a grwpiau eglwysi.

Mae Olivia, sy바카라 사이트™n mynychu Ysgol Ferched yr Haberdashers Trefynwy, hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Mae hi바카라 사이트™n bencampwraig lwyddiannus ar ôl cynrychioli Cymru yn lacrosse.

Mae Macsen, sy바카라 사이트™n mynychu Ysgol Uwchradd Llanwern, yn farciwr eithriadol ac fe바카라 사이트™i disgrifir fel model rôl eithriadol i gadetiaid iau yn ei lu.

Mae Alex, sy바카라 사이트™n mynychu Ysgol St Julian, yn gerddor brwd a chafodd ei ddewis i fod yn aelod o Fand Mawr Cadetiaid y Môr, a oedd yn arwain Gorymdaith Trafalgar yn Llundain. Mae hefyd wedi chwarae ochr yn ochr â cherddorion Band y Môr-filwyr Brenhinol.

Mae Deighton, o바카라 사이트™r Coed Duon, yn anelu at fod yn beilot cwmni awyrennau masnachol ac mae바카라 사이트™n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae wedi creu adnoddau dwyieithog yn sgwadron i gefnogi바카라 사이트™r niferoedd cynyddol o gadetiaid sy바카라 사이트™n siarad Cymraeg.

Mae바카라 사이트™r rôl sy바카라 사이트™n para am flwyddyn yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda바카라 사이트™r Brigadydd. Mae바카라 사이트™r Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Byddan nhw바카라 사이트™n dilyn ôl-traed y canlynol: sef y Cadét Abl Kaitlyn Summerhayes o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; Cadét Staff Uwch-Ringyll Cwmni, Jake Thomas o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Rhingyll Cadét Hamish Nicoll o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Swyddog Gwarant Cadetiaid Iestyn Jones o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing, Rhingyll Cadét Hedfan William Cocking o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing a Rhingyll Cadét Hayley Gabica o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern. Cafodd y rhain Dystysgrif a Bathodyn Arglwydd Raglaw am eu gwaith fel cynrychiolwyr 2022.

Cafodd pedwar unigolyn eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a바카라 사이트™u hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw.

Roedd y rhain yn cynnwys Rothery Harris, Hyfforddwr Sifilaidd, o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing; Jeffrey Harris, yr Hyfforddwr Uwch-Ringyll Catrodol, o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Rhingyll Gareth Evans o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 2 y Welsh Wing a Mr Colin Edwards o Gorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru.

Daeth Rothery, o Wndy, yn Hyfforddwr Sifilaidd yn Sgwadron 2012 (Caldicot), ar ôl cwblhau gyrfa nodedig o wasanaeth mewn lifrai, lle mae wedi dangos arweinyddiaeth ac ymroddiad gwych yn absenoldeb cadlywydd mewn iwnifform.

Mae Jeffrey, o Gasnewydd, cyn gadét a swyddog heddlu wedi ymddeol, yn arddangos y safonau a바카라 사이트™r gwerthoedd uchaf ac mae ganddo hunanddisgyblaeth a pharch rhagorol tuag at bawb.

Mae Gareth, cyn Arglwydd Raglaw dros Bowys, yn teithio o바카라 사이트™i gartref yng Nghasnewydd i sgwadron 579 (Llandrindod) hyd at ddwywaith yr wythnos i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfle ag a gafodd yntau fel person ifanc.

Ymunodd Colin, o Gaerffili, fel milwr wrth gefn ar ôl bod yn filwr am 22 mlynedd. Fel yr un sy바카라 사이트™n gofalu am yr uned yng Nghorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru, mae wedi bod yn un o바카라 사이트™r hoelion wyth ers blynyddoedd lawer gan sicrhau bod gan y cadetiaid swyddogion yr adnoddau cywir ar amser ar gyfer unrhyw weithgaredd.

Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy바카라 사이트™n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy바카라 사이트™n rhoi o바카라 사이트™u hamser rhydd gyda바카라 사이트™r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) 바카라 사이트“ sefydliad sydd wedi cefnogi바카라 사이트™r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Chwefror 2023