Newidiadau i ffïoedd Cofrestrfa Tir EM
Ffïoedd cofrestru tir Cofrestrfa Tir EM i godi.

O 31 Ionawr 2022, bydd rhai o ffïoedd cofrestru tir Cofrestrfa Tir EM yn codi am y tro cyntaf er 2009.
Bydd hyn yn effeithio ar geisiadau am gofrestriad cyntaf a chofrestru trosglwyddiadau, prydlesi a morgeisi eiddo (graddfeydd 1 a 2).
Ar gyfer y mwyafrif o바카라 사이트™r ceisiadau yr effeithir arnynt 바카라 사이트“ y rhai a gyflwynir yn electronig 바카라 사이트“ bydd y ffi yn codi gan 11%. Bydd y rhai a gyflwynir trwy바카라 사이트™r post yn codi gan 21%.
Yn ogystal, bydd rhai mân newidiadau i ffïoedd ac eithriadau. Mae바카라 사이트™r prif newidiadau yn y cyd-destun hwn fel a ganlyn:
-
Cynnwys cyfeiriad penodol at y ffi ar gyfer ceisiadau am gofnod sy바카라 사이트™n ymwneud â chwmnïau Hawl i Reoli o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Y nod yw gwneud hyn yn gliriach, gan nad oes unrhyw newid yn y ffi.
-
Newid i바카라 사이트™r ffïoedd ar gyfer cael copïau hanesyddol o바카라 사이트™r gofrestr, fel eu bod yn cyfateb â바카라 사이트™r ffïoedd ar gyfer copïau swyddogol o바카라 사이트™r gofrestr.
-
Eithriad newydd ar gyfer ceisiadau i nodi ymwadiadau eiddo a wneir gan ddatodwyr, Cyfreithiwr y Trysorlys, ac ymddiriedolwyr mewn methdaliad.
Gweler am ragor o wybodaeth.
Mae바카라 사이트™r cynnydd mewn ffïoedd yn golygu y gall Cofrestrfa Tir EM symud ymlaen gyda chynlluniau i gyflawni바카라 사이트™r hyn y mae ei angen ar gwsmeriaid 바카라 사이트“ mwy o gysondeb a chyflymder wrth ddarparu gwasanaethau trwy fuddsoddi mewn gallu gweithredol a chyflymu digideiddio ac awtomeiddio gwasanaethau.
O dan adran 102 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae angen gwneud newidiadau i ffïoedd Cofrestrfa Tir EM trwy orchymyn ffi (sy바카라 사이트™n offeryn statudol). Cafodd ei roi gerbron y Senedd ar 2 Tachwedd 2021.