Cofrestru i bleidleisio (y lluoedd arfog)

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i sicrhau eich bod ar y gofrestr etholiadol neu i ddiweddaru eich manylion os ydych wedi바카라 사이트™ch adleoli dramor a바카라 사이트™ch bod yn:

  • aelod o바카라 사이트™r lluoedd arfog
  • gŵr/gwraig neu bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog

Mae바카라 사이트™r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Nid yw바카라 사이트™n bosibl cofrestru i bleidleisio na gwneud cais am bleidlais bost na bleidlais ddirprwy ar ar gyfer yr etholiadau yn Lloegr ar 1 Mai 2025 mwyach. Gallwch gofrestru ar gyfer etholiadau a refferenda yn y dyfodol o hyd.

Cofrestrwch ar-lein

Mae cofrestru yn cymryd tua 5 munud.

Bydd angen eich rhif gwasanaeth a바카라 사이트™ch rhif Yswiriant Gwladol arnoch (os oes gennych un).

Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru 바카라 사이트“ nid oes angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob etholiad.

Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 5 mlynedd. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.  Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr a bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.

Beth mae angen i chi wybod

Gallwch bleidleisio pan fyddwch yn 18 oed neu drosodd. Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn yr Alban, gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch yn 16 oed neu drosodd 바카라 사이트“ edrychwch pa etholiadau rydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt.

Gallwch hefyd gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur.

Os oes gennych gyfeiriad cartref parhaol yn y DU ac am gael eich cofrestru yn y cyfeiriad hwnnw, gallwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr nad yw yn y lluoedd arfog yn lle hynny.

Gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch naill ai:  

Os ydych yn byw mewn gwlad arall ac yn dewis gwneud cais am bleidlais drwy바카라 사이트™r post, dylech wneud cais cyn gynted â phosibl. Gall gymryd amser hir i바카라 사이트™ch pecyn pleidleisio drwy바카라 사이트™r post eich cyrraedd ac iddo gael ei ddychwelyd i바카라 사이트™r DU.

Plant i aelod o바카라 사이트™r lluoedd arfog

Mae rheolau gwahanol yn gymwys, yn dibynnu o ble rydych yn hanu.

Os ydych yn hanu o Loegr neu Ogledd Iwerddon

Os ydych yn 16 oed neu drosodd, gallwch naill ai:  

Os ydych yn hanu o Gymru neu바카라 사이트™r Alban

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn bodloni바카라 사이트™r ddau ofyniad isod:  

  • rydych rhwng 14 a 17 oed
  • rydych wedi eich lleoli dramor ac yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy바카라 사이트™n aelod o바카라 사이트™r lluoedd arfog

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur fel plentyn i aelod o바카라 사이트™r lluoedd arfog.

Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 12 mis. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.

Os ydych yn 18 oed neu drosodd, bydd angen i chi naill ai:

Os ydych yn un o weision y goron neu gyflogeion y British Council

Mae ffordd wahanol i gofrestru i bleidleisio ar gyfer gweision y goron a chyflogeion y British Council. Er enghraifft, os ydych yn rhan o바카라 사이트™r gwasanaeth diplomyddol neu바카라 사이트™r gwasanaeth sifil tramor.