Os na allwch dalu바카라 사이트™ch bil treth mewn pryd

Sgipio cynnwys

Faint y byddwch yn ei dalu

Bydd y swm y gofynnir i chi ei dalu bob mis yn seiliedig ar faint o arian sydd gennych dros ben ar ôl i chi dalu unrhyw rent, biliau bwyd neu gyfleustodau a chostau sefydlog sydd gennych, fel tanysgrifiadau.

Fel arfer, bydd gofyn i chi dalu tua hanner yr hyn sydd gennych dros ben bob mis tuag at y dreth sydd arnoch.

Gallwch hefyd gytuno i dalu mwy na hyn os hoffech wneud hynny. Mae talu바카라 사이트™ch dyled yn gynt yn golygu y byddwch yn talu llai yn y pen draw oherwydd y byddwch yn talu llai o log.

Os ydych yn cael pensiwn, bydd CThEF yn cyfrif hwnnw fel incwm, ond ni fyddant yn cyfrif y swm yn eich cronfa bensiwn fel cynilion.

Am faint mae바카라 사이트™ch cynllun talu yn para

Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gall cynllun talu bara. Bydd yn dibynnu ar y swm sydd arnoch a faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis.

Dylech gysylltu â CThEF os bydd unrhyw beth yn newid a allai effeithio ar eich cynllun talu. Gallwch ymestyn neu gwtogi바카라 사이트™r cynllun talu.

Os bydd CThEF yn cael gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddant yn cysylltu â chi i drafod newid eich ad-daliadau.

Os byddwch yn methu taliad

Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gael gwybod pam. Lle bo바카라 사이트™n bosibl, byddant yn ceisio aildrefnu neu ailnegodi바카라 사이트™r cynllun talu gyda chi.

Os na allwch dalu bil treth arall, cysylltwch â CThEF. Efallai y byddwch yn gallu cynnwys y bil treth newydd yn eich trefniant Amser i Dalu.