Treth ar ddifidendau

Printable version

1. Gwirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau

Efallai y cewch daliad difidend os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni. 

Gallwch ennill rhywfaint o incwm o ddifidendau bob blwyddyn heb orfod talu treth.

Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut rydym yn codi treth ar ddifidendau

Nid ydych yn talu treth ar unrhyw incwm o ddifidendau sydd o fewn eich Lwfans Personol (swm yr incwm y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb orfod talu treth arno). 

Cewch lwfans o ran difidendau bob blwyddyn hefyd. Dim ond unrhyw incwm o ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau y mae angen i chi dalu treth arno. 

Nid ydych yn talu treth ar ddifidendau o gyfranddaliadau mewn ISA.

Lwfans o ran difidendau

Blwyddyn dreth Lwfans o ran difidendau
6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 £500
6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 £1,000
6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023 £2,000
6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022 £2,000

Faint o dreth rydych yn ei thalu

Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau바카라 사이트™n dibynnu ar eich band Treth Incwm.

Band treth Cyfradd dreth ar ddifidendau sydd dros y lwfans
Cyfradd sylfaenol 8.75%
Cyfradd uwch 33.75%
Cyfradd ychwanegol 39.35%

I gyfrifo바카라 사이트™ch band treth, adiwch gyfanswm eich holl incwm o ddifidendau at eich incwm arall. Efallai y byddwch yn talu treth ar fwy nag un gyfradd.

Mae바카라 사이트™n bosibl y byddwch yn gallu cael amcangyfrif o faint o dreth y mae angen i chi ei thalu ar y difidendau y byddwch yn eu cael.

Enghraifft

Yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, rydych yn cael £3,000 o ddifidendau ac rydych yn ennill cyflog o £29,570.바카라 사이트¯Â 

Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £32,570 o incwm i chi.바카라 사이트¯Â 

Mae gennych Lwfans Personol o £12,570. Tynnwch y ffigur hwn oddi wrth gyfanswm eich incwm i adael yr incwm trethadwy, sef £20,000.바카라 사이트¯Â 

Dyma바카라 사이트™r band treth ar y gyfradd sylfaenol, felly byddech yn talu:바카라 사이트¯Â 

  • treth o 20% ar gyflog o £17,000바카라 사이트¯Â 

  • dim treth ar £500 o ddifidendau, oherwydd y lwfans o ran difidendau

  • treth o 8.75% ar £2,500 o ddifidendau

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF

Os oes gennych daliadau difidend sydd dros eich Lwfans Personol a바카라 사이트™ch lwfans o ran difidendau sydd heb ei ddefnyddio, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y rhain.

2. Sut i roi gwybod am dreth ar ddifidendau

Mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) bob blwyddyn yr ydych yn cael difidendau y mae angen i chi dalu treth arnynt. 

Mae바카라 사이트™r ffordd y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF am ddifidendau바카라 사이트™n dibynnu ar faint y byddwch yn ei gael.

Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau hyd at £10,000

Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw incwm o ddifidendau ar eich Ffurflen Dreth. Mae바카라 사이트™n rhaid i chi wneud hyn erbyn y dyddiad cau.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae바카라 사이트™n rhaid i chi roi gwybod i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chyn 5 Hydref. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF os yw바카라 사이트™ch difidendau o fewn y lwfans o ran difidendau ar gyfer y flwyddyn dreth.

Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau sydd dros £10,000

Bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.바카라 사이트¯Â 

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd angen i chi erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan oeddech wedi cael yr incwm dan sylw.