Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud taliadau rheolaidd o gyfrif banc yn y DU.

Ni allwch dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc tramor neu os oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg). 

Dylech ganiatáu 21 diwrnod i drefnu Debyd Uniongyrchol newydd. 

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi swm y taliadau a fydd yn cael eu cymryd, a phryd y bydd hynny바카라 사이트™n digwydd. 

Bydd y taliadau바카라 사이트™n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel 바카라 사이트˜HMRC NI-DD바카라 사이트™. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os bydd eich taliadau바카라 사이트™n newid am unrhyw reswm. 

Os oes gennych gwestiwn ynghylch eich taliadau Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.