Taliad Tanwydd Gaeaf
Bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2025 i 2026 yn cael ei wneud i bawb yng Nghymru a Lloegr a aned cyn 22 Medi 1959, oni bai eich bod yn dewis peidio â바카라 사이트™i gael. Gallech gael naill ai £200 neu £300 i바카라 사이트™ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer y gaeaf.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth - bydd taliadau바카라 사이트™n cael eu gwneud yn awtomatig.
Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os yw eich incwm dros £35,000, bydd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adennill yn ddiweddarach trwy CThEF.
Bydd manylion y taliad 2025 i 2026 ar gael erbyn diwedd mis Mehefin 2025.
Os ydych yn byw yn Yr Alban
Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch .
Help arall gyda biliau gwresogi
Gallech hefyd gael:
- Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol
- y Disgownt Cartref Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
- cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol