Ar gyfer beth mae PIP

Gall Taliad Annibyniaeth Personol helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych:

  • gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd hirdymor
  • anhawster yn gwneud tasgau bob dydd penodol neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr

Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych yn gweithio, gyda chynilion neu바카라 사이트™n cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.

Gallwch hefyd ddarllen am PIP yn Saesneg (English).

Sut mae PIP yn gweithio

Mae 2 ran i PIP:

  • rhan bywyd bob dydd 바카라 사이트“ os ydych angen cymorth gyda thasgau bywyd bob dydd
  • rhan symudedd 바카라 사이트“ os ydych angen cymorth gyda symud o gwmpas

Mae p바카라 사이트™un a ydych yn cael un elfen neu ddwy a beth fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd rydych yn cael tasgau bob dydd a symud o gwmpas.

Os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy바카라 사이트™n cyfyngu ar fywyd), byddwch yn cael y rhan bywyd bob dydd yn awtomatig. Bydd p바카라 사이트™un a ydych yn cael yr elfen symudedd yn dibynnu ar eich anghenion. Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais a faint fyddwch yn ei gael os ydych yn agosáu at ddiwedd oes.

Y rhan bywyd bob dydd

Gallech gael y rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych angen help gyda phethau fel:

  • paratoi bwyd
  • bwyta ac yfed
  • rheoli eich meddyginiaethau neu driniaethau
  • ymolchi a chael bath
  • defnyddio바카라 사이트™r toiled
  • gwisgo a dadwisgo
  • darllen
  • rheoli eich arian
  • cymdeithasu a bod o gwmpas pobl eraill
  • siarad, gwrando a deall

Rhan Symudedd

Efallai y gallwch gael y rhan symudedd o PIP os ydych angen cymorth gyda:

  • gweithio allan llwybr a바카라 사이트™i ddilyn
  • symud o gwmpas yn gorfforol
  • gadael eich cartref

Nid oes rhaid i chi gael anabledd corfforol i gael y rhan symudedd. Efallai y gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych ag anhawster symud o gwmpas oherwydd cyflwr iechyd gwybyddol neu feddyliol, megis pryder.

Sut mae anhawster gyda thasgau yn cael ei asesu

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn asesu pa mor anodd y mae tasgau bob dydd a symudedd i chi eu cyflawni. Ar gyfer pob tasg byddant yn edrych ar:

  • os allwch ei gwneud yn ddiogel
  • pa mor hir y mae바카라 사이트™n ei chymryd i chi
  • pa mor hir mae바카라 사이트™ch cyflwr yn effeithio ar y gweithgaredd hwn
  • p바카라 사이트™un a ydych angen cymorth i바카라 사이트™w gwneud, gan berson neu ddefnyddio offer ychwanegol

Gallai eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os ydych ag anghenion gofal sylweddol.

Help gyda PIP

Os ydych angen cymorth i ddeall neu wneud cais am PIP gallwch:

Os ydych chi바카라 사이트™n byw yn yr Alban

Mae angen i chi yn lle PIP.

Os ydych chi바카라 사이트™n cael PIP ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i ADP erbyn gwanwyn 2025.

Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan DWP a Social Security Scotland. .

Os ydych chi바카라 사이트™n symud o바카라 사이트™r Alban i Loegr neu Gymru

Os ydych chi바카라 사이트™n cael ADP ac yn symud o바카라 사이트™r Alban i Gymru neu Loegr, mae바카라 사이트™n rhaid i chi wneud cais newydd am PIP yn lle.

Bydd eich ADP yn stopio 13 wythnos ar ôl i chi symud - gwnewch gais am PIP cyn gynted â phosib ar ôl symud neu gallai taliadau gael eu heffeithio.

Os cewch Lwfans Byw i바카라 사이트™r Anabl (DLA)

Mae Lwfans Byw i바카라 사이트™r Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan PIP i바카라 사이트™r rhan fwyaf o oedolion. Byddwch yn parhau i gael DLA os:

  • ydych o dan 16 oed
  • cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948

Os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948, bydd DWP yn eich gwahodd i wneud cais am PIP. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes bydd DWP yn ysgrifennu atoch am eich DLA oni bai fod eich amgylchiadau바카라 사이트™n newid.