Pleidleisio yn bersonol

Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol). 

Eich cerdyn pleidleisio

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio. 

Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio.

Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch â바카라 사이트™ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn pleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â바카라 사이트™ch cerdyn gyda chi i bleidleisio.

Os nad yw eich cerdyn gennych a bod angen i chi gadarnhau pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â바카라 사이트™ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Pryd y gallwch bleidleisio 

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (바카라 사이트˜y diwrnod pleidleisio바카라 사이트™).

Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhowch eich enw a바카라 사이트™ch cyfeiriad i바카라 사이트™r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos eich ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.

Byddwch yn cael papur pleidleisio â rhestr o바카라 사이트™r bobl, y pleidiau neu바카라 사이트™r opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.

Llenwi eich papur pleidleisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn y bwth bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.

Pleidleisio os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:

  • mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl
  • bythau pleidleisio lefel isel
  • unrhyw gyfarpar penodol sydd ei angen arnoch

Mae바카라 사이트™n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o바카라 사이트™r papur pleidleisio.