Hunangyflogaeth a Chredyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i helpu gyda바카라 사이트™ch costau byw. Efallai y byddwch yn gallu ei gael os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu바카라 사이트™n methu gweithio. 

Darganfyddwch a ydych chi yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. 

Os ydych chi바카라 사이트™n byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i . 

Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Rhoi gwybod am eich incwm a바카라 사이트™ch treuliau 

Ar ddiwedd pob cyfnod asesu misol, bydd angen i chi roi gwybod am: 

  • faint rydych wedi ei ennill o hunangyflogaeth, hyd yn oed os nad yw바카라 사이트™n ddim byd 

  • unrhyw arian rydych wedi ei dalu i mewn i bensiwn  https://publisher.publishing.service.gov.uk/editions/6565d2d9ef6261000d358a6c#request_review_form
  • taliadau i mewn ac allan o바카라 사이트™ch busnes 

Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyfarwyddwyr cwmni, hyd yn oed y rhai sy바카라 사이트™n talu eu hunain drwy TWE.  

Gwnewch hyn drwy gwblhau바카라 사이트™r adran 바카라 사이트˜Rhoi gwybod am eich incwm a threuliau바카라 사이트™ yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. 

Taliadau i mewn ac allan o바카라 사이트™ch busnes 

Bydd angen i chi roi gwybod am daliadau i mewn ac allan o바카라 사이트™ch busnes ym mhob cyfnod asesu misol. Mae hyn yn cynnwys: 

  • cyfanswm a dderbyniwyd yn eich busnes 

  • faint y gwariodd eich busnes ar wahanol fathau o dreuliau, fel costau teithio, stoc, offer, dillad amddiffynnol a chostau swyddfa 

  • faint o dreth ac Yswiriant Gwladol y talodd eich busnes 

Mae mwy o ganllawiau ynghylch rhoi gwybod am eich incwm a바카라 사이트™ch treuliau o hunangyflogaeth, sy바카라 사이트™n cynnwys sut i gyfrifo바카라 사이트™ch incwm a바카라 사이트™r treuliau y gallwch eu cynnwys. 

Eiddo eich busnes 

Nid oes angen i chi roi gwybod am bethau y mae eich cwmni eisoes yn berchen arnynt (바카라 사이트˜asedau busnes바카라 사이트™), fel peiriannau, adeiladau neu arian parod yng nghyfrif  eich cwmni. 

Dangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith 

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig, mae angen i chi ddangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith. 

Mae hyn yn cynnwys dangos: 

  • hunangyflogaeth yw eich prif swydd neu eich prif ffynhonnell incwm 

  • rydych yn cael gwaith rheolaidd o hunangyflogaeth 

  • mae eich gwaith wedi바카라 사이트™i drefnu - mae hyn yn golygu bod gennych anfonebau a derbynebau, neu gyfrifon 

  • rydych yn disgwyl gwneud elw 

Gwnewch hyn drwy roi tystiolaeth i바카라 사이트™ch anogwr gwaith o바카라 사이트™ch: 

  • ffurflenni treth, cyfrifon ac unrhyw gynllun busnes 

  • Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR), os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad 

  • rhestrau cwsmeriaid a chyflenwyr, derbynebau ac anfonebau 

  • deunyddiau marchnata 

Os gallwch ddangos yr holl bethau hyn, byddwch yn cael eich ystyried yn 바카라 사이트˜hunangyflogedig â thâl바카라 사이트™. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi chwilio am waith arall a gallwch ganolbwyntio ar dyfu eich busnes. 

Os na allwch ddangos yr holl bethau hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am waith arall os ydych am barhau i gael Credyd Cynhwysol.  

Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau - byddwch yn cytuno ar hyn pan fyddwch yn cwrdd â바카라 사이트™ch anogwr gwaith. 

Sut mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei weithio allan 

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar yr enillion rydych yn rhoi gwybod amdanynt ar ddiwedd pob cyfnod asesu misol. 

Os ydych yn hunangyflogedig â thâl, gellir cyfrifo바카라 사이트™ch taliad Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio lefel dybiedig o enillion, a elwir yn llawr isafswm incwm. 

Mae바카라 사이트™n seiliedig ar yr hyn y byddai person cyflogedig ar isafswm cyflog yn disgwyl ei ennill mewn amgylchiadau tebyg. 

Os ydych yn ennill mwy na hyn, yna mae eich swm Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion gwirioneddol. 

Os ydych yn ennill llai, defnyddir y llawr isafswm incwm i gyfrifo faint y gallwch ei gael. Efallai y bydd angen i chi chwilio am waith ychwanegol i ychwanegu at eich incwm. 

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gyflogedig 

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich enillion cyfunol o hunangyflogaeth a chyflogaeth. 

Os byddwch yn gwneud colled o hunangyflogaeth, dim ond eich enillion o gyflogaeth fydd yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch. 

Cael cyfnod cychwyn busnes 

Efallai y byddwch yn gymwys am gyfnod cychwyn busnes o 12 mis os ydych yn hunangyflogedig. Gall eich anogwr gwaith ddweud wrthych a allwch gael cyfnod cychwyn busnes ar gyfer eich busnes.  

Yn ystod eich cyfnod cychwyn busnes defnyddir eich enillion misol i gyfrifo바카라 사이트™ch Credyd Cynhwysol ac nid yw바카라 사이트™r llawr isafswm incwm yn berthnasol. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth gan anogwr gwaith sydd wedi바카라 사이트™i hyfforddi i weithio gyda바카라 사이트™r hunangyflogedig. 

Bydd angen i chi fynychu apwyntiadau chwarterol gyda바카라 사이트™ch anogwr gwaith, gan ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn dal i fod yn hunangyflogedig â thâl ac yn mynd ati i gymryd camau i adeiladu eich busnes. 

Dim ond un cyfnod cychwyn busnes y mae gennych hawl iddo, oni bai ei fod wedi bod yn fwy na 5 mlynedd ers eich un blaenorol, a바카라 사이트™ch bod wedi dechrau math hollol wahanol o hunangyflogaeth. 

Rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau 

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau, er enghraifft os ydych:  

  • yn cau eich busnes 

  • yn cychwyn busnes gwahanol 

  • yn cymryd swydd barhaol 

  • ddim yn gallu gweithio mwyach