Gofyn am gael newid y dyddiad neu gael eich esgusodi

Os na allwch wneud gwasanaeth rheithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwÅ·s, gallwch ofyn am newid y dyddiad neu gael eich esgusodi.

Gofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor

Efallai y byddwch yn gallu newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor i ddyddiad arall o fewn y 12 mis nesaf. Bydd angen rheswm da arnoch chi, er enghraifft:

  • rydych yn cael llawdriniaeth
  • rydych chi바카라 사이트™n sefyll arholiad
  • ni fydd eich cyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd o바카라 사이트™r gwaith ichi
  • rydych wedi trefnu gwyliau
  • rydych chi바카라 사이트™n rhiant newydd

Dim ond unwaith y gallwch ofyn am newid y dyddiad.

I newid y dyddiad, dylech ymateb i바카라 사이트™ch gwÅ·s rheithgor gan esbonio바카라 사이트™ch rhesymau yn fanwl. Pan fyddwch yn ateb gallwch awgrymu 3 dyddiad posibl yn y 12 mis nesaf sy바카라 사이트™n gyfleus i chi.

Gofyn am gael eich esgusodi o wasanaeth rheithgor

Os nad yw바카라 사이트™n bosibl i chi wneud gwasanaeth rheithgor yn ystod y 12 mis nesaf, gallwch ofyn am gael eich esgusodi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i chi wneud hyn, er enghraifft:

  • mae gennych salwch neu anabledd difrifol sy바카라 사이트™n eich atal rhag gwneud gwasanaeth rheithgor
  • rydych yn ofalwr llawn amser i rywun sydd â salwch neu anabledd
  • rydych yn rhiant newydd ac ni fyddwch yn gallu gwasanaethu ar unrhyw adeg arall yn ystod y 12 mis nesaf

Gallwch hefyd ofyn am gael eich esgusodi rhag gwasanaethu ar reithgor os ydych chi wedi gwneud hynny yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Os na fyddwch chi바카라 사이트™n gwneud gwasanaeth rheithgor y tro hwn, fe allech chi gael gwÅ·s arall yn y dyfodol.

I ofyn am gael eich esgusodi, dylech ymateb i바카라 사이트™ch gwÅ·s rheithgor gan esbonio바카라 사이트™ch rhesymau yn fanwl. Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft, os ydych chi바카라 사이트™n sâl, efallai y gofynnir am lythyr gan eich meddyg.

Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch ofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor.

Os ydych yn anghytuno â바카라 사이트™r penderfyniad

Gallwch apelio os gwrthodir eich cais i newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor neu gael ei esgusodi. Ysgrifennwch at y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor, gan nodi:

  • pam rydych chi바카라 사이트™n anghytuno â바카라 사이트™r penderfyniad
  • eich rhif rheithiwr (mae hwn ar eich llythyr gwÅ·s)
  • eich enw a바카라 사이트™ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • enw a chyfeiriad y llys yr ydych wedi cael eich gwysio iddo
  • dyddiadau eich gwasanaeth rheithgor

Pennaeth y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Phoenix House
Bradford
BD3 7BH

ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Cael help

Cysylltwch â바카라 사이트™r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os oes gennych gwestiynau am wasanaeth rheithgor.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau