Crynodeb Gweithredol
Cyhoeddwyd 21 Chwefror 2023
Crynodeb Gweithredol
Mae바카라 사이트™r adroddiad hwn yn ymateb i gais gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Swyddfa바카라 사이트™r Farchnad Fewnol (OIM) archwilio effaith posibl y gwaharddiad arfaethedig gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn Lloegr ar werthu mawn garddwriaethol i ddefnyddwyr adwerthu erbyn 2024 ac i dyfwyr proffesiynol erbyn 2028 yn eu tro ar y farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig. Derbyniodd yr OIM y cais hwnnw ar 4 Awst 2022, a wnaed dan a.34 o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020.
Cynhaliwyd ein dadansoddiad yn unol â바카라 사이트™n swyddogaethau dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae바카라 사이트™n archwilio effeithiau바카라 사이트™r rheoliad arfaethedig ar y farchnad fewnol ac mae바카라 사이트™n bennaf yn ymwneud â바카라 사이트™i effeithiau economaidd. Fe wnaethom ganolbwyntio ein sylw ar y gwaharddiad adwerthu yn 2024.
Casglwyd gwybodaeth gennym o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys yr ymatebion i ymgynghoriad DEFRA ar y rheoliad arfaethedig, cyfweliadau gyda chyfranogwyr o fyd diwydiant a phartïon eraill â diddordeb, ceisiadau gwybodaeth, ac ymchwil cyhoeddedig. Fe wnaethom hefyd gomisiynu arolwg o agweddau ac ymddygiad defnyddwyr. Fe wnaethom siarad ag aelodau o fyd diwydiant, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr cyfryngau tyfu, tyfwyr proffesiynol, prynwyr adwerthu, a phartïon eraill â diddordeb fel y Gweinyddiaethau Datganoledig, swyddogion cynllunio awdurdodau lleol ac elusennau amgylcheddol.
Mae바카라 사이트™r gadwyn gyflenwi ar gyfer cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn a werthir i gwsmeriaid adwerthu yn cynnwys echdynnwyr mawn, gweithgynhyrchwyr (y rhan fwyaf ohonynt hefyd yn cynnal rhywfaint o weithgareddau echdynnu mawn) ac adwerthwyr. Gwerthir y rhan fwyaf (dros ddwy ran o dair) o바카라 사이트™r cyfryngau tyfu a werthir yn y Deyrnas Unedig trwy adwerthwyr. Gwerthir y gweddill i dyfwyr proffesiynol, grŵp sy바카라 사이트™n cynnwys ffermwyr a busnesau sy바카라 사이트™n tyfu planhigion addurnol.
Lleihaodd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth dros y degawd diwethaf, gyrrwyd hynny gan fwy o ddefnydd o gyfryngau tyfu di-fawn a gostyngiad yn y gyfran o fawn a ddefnyddir mewn cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn. Cyflymodd y duedd hon dros y tair blynedd ddiwethaf, gan adlewyrchu바카라 사이트™r newid yn ymwybyddiaeth amgylcheddol y defnyddwyr, dymuniad adwerthwyr i gyflawni eu hymrwymiadau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, a바카라 사이트™r ffaith bod gweithgynhyrchwyr yn rhagweld camau바카라 사이트™r llywodraeth i wahardd y defnydd o fawn. Er gwaethaf y datblygiadau hyn, rydym yn rhagweld y bydd mawn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn Lloegr am yr ychydig flynyddoedd nesaf heb y gwaharddiad arfaethedig.
Er mwyn deall effeithiau tebygol y gwaharddiad arfaethedig ar y farchnad fewnol fe wnaethom edrych yn gyntaf ar sut y gall y farchnad ar gyfer cynhyrchion cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn a바카라 사이트™r dewisiadau eraill di-fawn ddatblygu yn dilyn y gwaharddiad. Yn ganolog i바카라 사이트™r dadansoddiad hwn mae ystyriaeth o바카라 사이트™r rhan y mae바카라 사이트™r Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad yn eu chwarae. Byddai바카라 사이트™r egwyddorion yma, dan rai amgylchiadau, yn caniatáu i gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn wedi eu cynhyrchu yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon gael eu gwerthu yn Lloegr, hyd yn oed ar ôl i바카라 사이트™r gwaharddiad ddod i rym. Ni fyddai바카라 사이트™r Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad yn caniatáu i gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn a gynhyrchir yn Lloegr gael eu gwerthu yn Lloegr, gan y byddai바카라 사이트™r gwaharddiad arfaethedig ar eu gwerthu yn berthnasol.
Rydym yn casglu bod galw defnyddwyr am gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yn benodol yn fychan ond nad yw바카라 사이트™n amherthnasol. Datgelodd ein harolwg defnyddwyr nad oes gan fwy nag un o bob deg o ddefnyddwyr gymhelliant cryf i brynu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn. Mae gan gyfran lawer mwy (o leiaf bedwar o bob deg) gymhelliant i brynu cyfryngau tyfu di-fawn. Nid yw o leiaf dri o bob deg yn poeni beth mae eu cyfryngau tyfu yn ei gynnwys ac mae pris y cyfryngau tyfu yn fwy tebygol o gael dylanwad arnynt. Mae바카라 사이트™r canfyddiadau hyn yn gyson ag ymchwil gan gyfranogwyr o fyd diwydiant, a바카라 사이트™r trafodaethau a gawsom gyda hwy.
Yn unol â바카라 사이트™r dewisiadau yma gan ddefnyddwyr, mae llawer o adwerthwyr wedi ymrwymo i atal cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yn raddol. Rydym yn amcangyfrif bod tua 60% o바카라 사이트™r holl gyfryngau tyfu a werthir trwy바카라 사이트™r sianel adwerthu yn cael eu gwerthu gan adwerthwyr sydd wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i gadw cyfryngau tyfu di-fawn yn unig erbyn diwedd 2024 neu cyn hynny. Mae바카라 사이트™r ymrwymiadau yma바카라 사이트™n lleihau awydd adwerthwyr i barhau i gynnig cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn. Yn ychwanegol, mae adwerthwyr mwy sy바카라 사이트™n gweithredu trwy바카라 사이트™r Deyrnas Unedig yn dueddol o gadw un cyfrwng tyfu ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Byddai hyn yn golygu y byddai cyfryngau tyfu di-fawn sy바카라 사이트™n cydymffurfio â바카라 사이트™r gwaharddiad arfaethedig yn Lloegr hefyd yn dod yn gynnig safonol gan yr adwerthwyr hyn yng ngweddill y Deyrnas Unedig hyd yn oed os na fyddai gwerthu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn wedi ei wahardd yno.
Bydd argaeledd cyfryngau tyfu di-fawn yn fwy cyffredinol yn effeithio ar benderfyniadau stocio adwerthwyr hefyd. Gall prinder deunydd di-fawn arwain at brinder cyfryngau tyfu di-fawn, neu achosi cynnydd mewn pris a/neu i바카라 사이트™r safon ddirywio. Gall hyn gael effaith anghymesur ar adwerthwyr llai. Dan amgylchiadau o바카라 사이트™r fath, gall adwerthwyr ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad i gael cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn, yn neilltuol os nad ydynt wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i beidio â gwerthu mawn. Bydd y cymhelliant i wneud hynny바카라 사이트™n arbennig o gryf i adwerthwyr fel canolfannau garddio, lle na fydd cwsmeriaid yn prynu cynnyrch arall efallai os nad ydynt yn gallu prynu cyfrwng tyfu.
Ar yr ochr gynhyrchu, mae llawer o weithgynhyrchwyr wedi bod yn lleihau eu defnydd o fawn yn eu cyfryngau tyfu yn gyson. Roedd yr holl weithgynhyrchwyr y buom yn siarad â hwy sydd yn cynhyrchu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn ar hyn o bryd wedi buddsoddi mewn offer newydd, storfeydd, neu brosesu i바카라 사이트™w galluogi i gynhyrchu cyfryngau tyfu di-fawn. Fe wnaethant ddweud bod y gwaharddiad arfaethedig ar adwerthu mawn yn debygol o gyflymu바카라 사이트™r duedd hon.
Sgil-gynnyrch diwydiannau eraill yw llawer o바카라 사이트™r dewisiadau di-fawn a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr ac felly mae lefelau바카라 사이트™r gweithgaredd yn y diwydiant sylfaenol yn effeithio arnynt. Yn ychwanegol, mae바카라 사이트™r diwydiant garddwriaethol yn y Deyrnas Unedig yn cystadlu â diwydiannau eraill yn fyd-eang, fel cynhyrchu ynni biomas, er mwyn cael gafael ar y mewnbynnau hyn. Ceir rhai mewnbynnau di-fawn ar gyfer cyfryngau tyfu o ffynonellau rhyngwladol, fel rhisgl coconyt, a gall ffactorau byd-eang fel cyfraddau prisiau cludo mewn llongau effeithio arno. Er gwaethaf yr heriau yma mae gweithgynhyrchwyr y Deyrnas Unedig wedi llwyddo wrth ehangu바카라 사이트™r defnydd o fewnbynnau di-fawn ar draws eu busnesau gyda바카라 사이트™r defnydd o fewnbynnau di-fawn bron â dyblu rhwng 2011 a 2021. Byddai angen ehangu ymhellach yn gyflym i ddisodli바카라 사이트™r defnydd presennol o fawn mewn cyfryngau tyfu adwerthu erbyn diwedd 2024.
Er bod gweithgynhyrchwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth gael gwared ar gyfran sylweddol o fawn o gynhyrchu cyfryngau tyfu, cododd nifer o바카라 사이트™r gweithgynhyrchwyr y buom yn siarad â nhw bryderon am brinder posibl yn y mewnbynnau sy바카라 사이트™n ofynnol i wneud cyfryngau tyfu di-fawn os bydd mawn yn cael ei dynnu o바카라 사이트™r sector yn llwyr. Petai prinder yn y cyflenwad o gyfryngau tyfu di-fawn yn gyffredinol, neu ddiffyg mewnbynnau di-fawn priodol ar gyfer cyfresi penodol o gynnyrch, gall adwerthwyr yn Lloegr gael cymhelliant i geisio dibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad i gael a gwerthu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn.
Hyd yn oed petai digon o gyfryngau tyfu di-fawn ar gael, mae바카라 사이트™r cynnydd yn y galw am y mewnbynnau sy바카라 사이트™n ofynnol yn debygol o gynyddu바카라 사이트™r gost, fydd hefyd yn rhoi cymhelliant i adwerthwyr yn Lloegr i ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad i gael a gwerthu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn. Mae바카라 사이트™r gwahaniaethau mewn costau cynhyrchu rhwng cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn a rhai di-fawn yn y gorffennol wedi arafu바카라 사이트™r symudiad oddi wrth fawn, gan fod mawn yn hanesyddol wedi bod yn rhatach na바카라 사이트™r mewnbynnau sy바카라 사이트™n ofynnol ar gyfer dewisiadau di-fawn. Yn fwy diweddar, mae pris mawn wedi codi, gan leihau바카라 사이트™r gwahaniaeth hwn mewn pris. Os bydd gweithgynhyrchwyr yn cael trafferth cael mewnbynnau ar gyfer cyfryngau tyfu di-fawn a bod eu costau cynhyrchu바카라 사이트™n codi, gall y gwahaniaeth hwn gynyddu eto, gan roi cymhelliant i ddychwelyd at gynhyrchu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn lle bydd hynny바카라 사이트™n cael ei ganiatáu.
Rydym yn ystyried bod y sector proffesiynol yn annhebygol o fod yn ffynhonnell mewnbynnau di-fawn i바카라 사이트™r sector adwerthu. Er bod tyfwyr proffesiynol yn defnyddio swm sylweddol o fewnbynnau di-fawn yn eu cyfryngau tyfu, hyd yn oed petai pris mewnbynnau di-fawn yn cynyddu byddent yn annhebygol o gyfnewid am gyfrwng tyfu gyda mwy o fawn ynddo. Mae gan dyfwyr proffesiynol resymau masnachol grymus dros wneud newidiadau i바카라 사이트™r cyfrwng tyfu y maent yn ei ddefnyddio bob yn gam ac yn ofalus a bydd angen iddynt, beth bynnag, ddechrau paratoi ar gyfer y gwaharddiad ar gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yn y sector proffesiynol yn 2028.
Bydd gallu gweithgynhyrchwyr i gyflenwi cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yn dibynnu ar ble y maent yn ei weithgynhyrchu 바카라 사이트“ rhaid i바카라 사이트™r cynhyrchu ddigwydd yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon iddo gael ei werthu바카라 사이트™n gyfreithlon yn Lloegr ar ôl i바카라 사이트™r gwaharddiad ddod i rym. Nid oes unrhyw le yn cynhyrchu cyfrwng tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yng Nghymru. Mae바카라 사이트™r Alban yn annhebygol o fod yn ffynhonnell arwyddocaol o gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn ar gyfer y sector adwerthu yn dilyn y gwaharddiad adwerthu yn Lloegr gan fod y rhan fwyaf o바카라 사이트™r cynhyrchu yn yr Alban ar gyfer y farchnad broffesiynol.
Mae바카라 사이트™r cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon yn digwydd gan nifer o weithgynhyrchwyr gan gynnwys rhai busnesau llai ac mae바카라 사이트™n fwy tebygol o fod yn ffynhonnell ar gyfer cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn i weddill y Deyrnas Unedig. Ond, efallai na fydd Gogledd Iwerddon yn lleoliad cost effeithiol i gyflenwi pob rhan o Loegr oherwydd y costau cludiant.
Yn y tymor hwy, gallai gweithgynhyrchwyr fuddsoddi mewn safleoedd newydd yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon a fyddai바카라 사이트™n eu galluogi i ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i바카라 사이트™r Farchnad i gyflenwi cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn i Loegr. Ond, mae cwestiynau am y cymhelliant fyddai gan weithgynhyrchwyr i fuddsoddi yn y tymor hwy mewn cynhyrchu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn o ystyried bod Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gael gwared ar ddefnyddio mawn mewn garddwriaeth ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn dod ag adwerthu mawn mewn garddwriaeth i ben. Mae strategaeth fawnogydd ddrafft Gogledd Iwerddon yn cynnwys cynnig i gynnal adolygiad a chyhoeddi papur ar y prif broblemau am echdynnu mawn a바카라 사이트™r defnydd o fawn a chynnyrch mawn erbyn 2023 a symud unrhyw argymhellion a wneir ymlaen.
Yn gyffredinol, rydym yn dod i바카라 사이트™r casgliad mai cymhelliant cyfyngedig fydd i weithgynhyrchwyr ac adwerthwyr werthu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn yn Lloegr pan ddaw바카라 사이트™r gwaharddiad i rym. Ond, mae바카라 사이트™r canfyddiad hwnnw바카라 사이트™n ddibynnol ar argaeledd y mewnbynnau angenrheidiol i wneud y cyfryngau tyfu di-fawn. Er ein bod yn meddwl y bydd prinder ar raddfa fawr yn annhebygol, gall rhywfaint o brinder godi a mwyaf difrifol a pharhaol fydd y prinder, y mwyaf tebygol fydd hi y bydd gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr yn troi at gyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn i bontio바카라 사이트™r bwlch, petai cyfryngau tyfu di-fawn yn mynd yn rhy gostus neu o safon is.
At ei gilydd, rydym felly바카라 사이트™n dod i바카라 사이트™r casgliad, er y bydd peth newid i batrymau masnachu mewn cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn ar draws y Deyrnas Unedig a all fod yn arwyddocaol i fusnesau unigol, mae바카라 사이트™r rhain yn debygol o fod yn fychan yng nghyd-destun y farchnad gyffredinol ar gyfer cyfryngau tyfu. Mae hyn yn wir oherwydd mae바카라 사이트™r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o weithgynhyrchwyr sy바카라 사이트™n cynhyrchu cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn ar hyn o bryd hefyd yn gallu cynhyrchu cyfryngau tyfu di-fawn ac rydym yn disgwyl i바카라 사이트™r fasnach mewn cyfryngau tyfu sy바카라 사이트™n cynnwys mawn gael ei chyfnewid am fasnach mewn cyfryngau tyfu di-fawn. Am yr un rheswm, nid ydym chwaith yn disgwyl y bydd effaith arwyddocaol ar gystadleuaeth ehangach yn y farchnad cyfryngau tyfu.