Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyrraedd cytundeb gwerth £26 miliwn i sefydlu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb i gydweithio a darparu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Bydd rhagor o swyddi a buddsoddiad yn dod i Gymru yn sgil llunio cytundeb i sefydlu Porthladd rhydd newydd
  • Rhaid i바카라 사이트™r cynigwyr nodi sut bydd y Porthladd rhydd yn hybu바카라 사이트™r economi leol, cefnogi swyddi diogel o ansawdd da a thrawsnewid i economi sero net
  • Bydd Porthladd rhydd Cymru yn cael ei gefnogi gan £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, i gyflawni cynlluniau i sicrhau ffyniant bröydd ar draws y DU

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb i gydweithio a darparu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru (12 Mai 2022).

Gyda chymorth miliynau o gyllid gan lywodraeth y DU, bydd y Porthladd rhydd yn cefnogi adfywio cymunedau yng Nghymru drwy ddenu busnesau, swyddi a buddsoddiad newydd, yn ogystal â thyfu economi Cymru.

Rhaid i바카라 사이트™r cynigwyr ddangos sut byddant yn creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel sy바카라 사이트™n cynnig cyflogau ac amodau da ac yn bodloni ymrwymiadau바카라 사이트™r llywodraethau ar y cyd o ran newid yn yr hinsawdd i gyrraedd sero net erbyn 2050.

Mewn cam pwysig arall o gydweithrediad, bydd swyddogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn asesu바카라 사이트™r ceisiadau ar y cyd mewn proses ddethol deg a thryloyw er mwyn sicrhau bod y safleoedd gorau posibl yn cael eu cyflwyno a바카라 사이트™u bod yn sicrhau바카라 사이트™r manteision gorau posibl i gymunedau ar draws Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson AS:

Mae gan Gymru hanes balch o harneisio masnach a buddsoddiad rhyngwladol i dyfu ei heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd da.

Roedd dau o바카라 사이트™r porthladdoedd allforio glo mwyaf yn y byd yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf ac rwy바카라 사이트™n siŵr y gallai Porthladd rhydd modern fod yr un mor effeithiol fel pyrth at gyflogaeth fedrus sy바카라 사이트™n talu바카라 사이트™n dda a ffyniant os ydynt yn cofleidio ymdeimlad y genedl o greadigrwydd, cymhelliant ac uchelgais.

Amdani!

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove:

Rwyf wrth fy modd mai Cymru yw바카라 사이트™r ardal ddiweddaraf yn y DU a fydd yn elwa o Borthladd rhydd newydd. Bydd agenda Porthladdoedd rhydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau ffyniant bro yn ein cymunedau arfordirol a chreu cyfleoedd newydd i bobl ar hyd a lled y wlad.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, edrychaf ymlaen at weld cynigion arloesol yn cael eu cyflwyno sy바카라 사이트™n dangos manteision amlwg i bobl Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru:

Ar ôl llawer iawn o ymgysylltu rhwng ein llywodraethau, rwy바카라 사이트™n falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb â gweinidogion y DU i sefydlu Porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Mae바카라 사이트™r cytundeb hwn yn deg i Gymru, ac yn parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi datganoledig.

Fodd bynnag, rydym wedi dweud yn glir wrth lywodraeth y DU na fydd Porthladd rhydd yn cael ei weithredu oni ellir dangos drwy dystiolaeth a dadansoddiadau cadarn y bydd yn cefnogi ein hagenda gwaith teg ac yn sicrhau manteision hirdymor, cynaliadwy i Gymru, a gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.

Mawr obeithiaf y bydd parodrwydd Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru fel sefydliad cydradd ar Borthladdoedd rhydd yn gallu bod yn fodel cadarnhaol ar gyfer cydweithredu rhwng ein llywodraethau ar gynlluniau eraill yn y dyfodol.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Fel rhan o바카라 사이트™n cynllun i sicrhau ffyniant bro cymunedau ar draws y DU, mae Porthladdoedd rhydd wir yn gallu trawsnewid.

Drwy greu miloedd o swyddi lleol a sbarduno buddsoddiad ar draws yr economi ehangach, mae Porthladdoedd rhydd yn dod â manteision a chyfleoedd i바카라 사이트™r cymunedau sydd angen hynny fwyaf.바카라 사이트¯

Mae hwn yn gyhoeddiad hynod gyffrous i Gymru ac edrychaf ymlaen at weld ceisiadau gan gynifer o safleoedd â phosibl.

Mae바카라 사이트™r llywodraethau wedi cytuno ar y cyd y byddent yn fodlon ystyried yr achos dros Borthladd rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai cynnig gwirioneddol eithriadol yn cael ei gyflwyno. Byddai바카라 사이트™r trefniadau cyllido ar gyfer Porthladd rhydd ychwanegol yng Nghymru yn amodol ar drafodaethau rhwng y llywodraethau.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Bydd y cytundeb ffantastig hwn sy바카라 사이트™n werth miliynau o bunnoedd yn sicrhau bod cymunedau Cymru yn sicrhau manteision ein cynnig Porthladdoedd rhydd sydd gyda바카라 사이트™r gorau yn y byd 바카라 사이트“ gan greu swyddi, ysgogi arloesedd a hybu buddsoddiad busnes wrth i ni sicrhau cyfleoedd i bob cwr o바카라 사이트™r DU.

Bydd porthladdoedd rhydd yn ganolfannau ar gyfer masnach, arloesi a masnach ryngwladol, gan adfywio cymunedau drwy ddenu busnesau newydd, mwy o swyddi, buddsoddiad a chyfleoedd i drefi ac i ddinasoedd ar hyd a lled y DU.

Mae바카라 사이트™r cytundeb hwn yn adeiladu ar gynllun uchelgeisiol hirdymor Llywodraeth y DU i ledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal ar draws y DU i gyd, fel y nodir yn y Papur Gwyn ar Ffyniant Bro.

Fel rhan o hyn, mae Cymru wedi derbyn £121 miliwn drwy바카라 사이트™r Gronfa Ffyniant Bro, £46 miliwn drwy바카라 사이트™r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a £464,258 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mewn cynlluniau pellach i sicrhau ffyniant bro ar draws y DU, mae gwaith yn parhau ar gynlluniau a fyddai바카라 사이트™n golygu darparu Porthladd rhydd newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Rhagor o wybodaeth

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael a byddwn yn ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb cyn cyhoeddi바카라 사이트™r prosbectws.

Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau바카라 사이트™r DU lle mae rheoliadau tollau ac economaidd gwahanol yn berthnasol. Mae porthladdoedd rhydd yn safleoedd sy바카라 사이트™n canolbwyntio ar awyr, ar reilffyrdd neu ar borthladd môr neu gyfuniad o바카라 사이트™r rhain, o fewn ffin allanol. Rhagor o wybodaeth am Borthladdoedd Rhydd.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi lleoliad 8 Porthladd rhydd yn Lloegr.

Darllenwch y llythyrau oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro Michael Gove a Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru Vaughan Gething yn amlinellu eu cytundeb i sefydlu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru.

Edrychwch ar Bapur Gwyn arloesol y llywodraeth ar Ffyniant Bro.

Office address and general enquiries

2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Contact form /gui...

General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000

Media enquiries

Email newsdesk@levellingup.gov.uk

Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209

Social media - DLUHC

Twitter -
Flickr -
LinkedIn -

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mai 2022