Datganiad i'r wasg

Bydd Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru yn darparu adfywiad a swyddi o safon uchel

Mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn agor cais am Borthladd Rhydd newydd yng Nghymru ar y cyd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Heddiw, mae바카라 사이트™r cyfnod ymgeisio ar agor er mwyn sefydlu Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru
  • Dylai ymgeiswyr amlinellu sut y bydd eu Porthladd Rhydd yn rhoi hwb i바카라 사이트™w economi leol, darparu adfywiad a바카라 사이트™n creu swyddi o safon uchel
  • Mae hyn yn adeiladu ar gynllun Llywodraeth y DU i greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro ar draws y DU, a chaiff ei gefnogi gan £26miliwn o nawdd gan Lywodraeth y DU

Heddiw, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi amlinellu eu huchelgais am Raglen Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru, wrth i바카라 사이트™r cyfnod ymgeisio agor ar gyfer y safle arloesol newydd.

Argymhellir ymgeiswyr i arddangos sut byddai Porthladd Rhydd yng Nghymru yn darparu mwy o swyddi lleol o safon uchel, yn denu buddsoddiad newydd i Gymru, a바카라 사이트™n cefnogi바카라 사이트™r wlad i ddod yn fwy cynaliadwy er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050.

Bydd gan gyfungyrff 12 wythnos o heddiw ymlaen i amgyffred y prosbectws a pharatoi eu ceisiadau. Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu ar y cyd gan swyddogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn proses dethol agored a thryloyw.

Disgwylir y bydd y safle llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yng Ngwanwyn 2023, cyn dod yn weithredol.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Darparu ar gyfer y dyfodol!

Mae바카라 사이트™n wych cael nodi바카라 사이트™r cam cyntaf o gynnig y cyfle rhagorol hwn i bobl Cymru fanteisio ar fuddion y cynllun Porthladd Rhydd.

Mae gan Borthladdoedd Rhydd y potensial i fywiogi cymunedau yng Nghymru gyda바카라 사이트™u gallu i ddarparu, hyrwyddo a harneisio twf gwirioneddol 바카라 사이트“ yn yr un ffordd ag y mae Cymru wedi ei wneud gyda바카라 사이트™i rôl falch a hanesyddol fel pwerdy llwyddiant ar gyfer y DU gyfan.

Dywedodd Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro:

Bydd Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru yn rhoi hwb enfawr i bobl yng Nghymru, ac rwy바카라 사이트™n falch iawn o gael agor y broses ymgeisio wrth inni barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i hybu swyddi newydd a ffyniant yn y wlad.

Mae busnesau a chymunedau ar draws Lloegr eisoes yn buddio o raglen Porthladdoedd Rhydd Llywodraeth y DU.

Rwy바카라 사이트™n edrych ymlaen at weld buddion tebyg yn cael eu cynnig i Gymru wrth inni sefydlu Porthladd Rhydd arloesol newydd, a darparu cyfleodd ar gyfer Ffyniant Bro ar draws y DU.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru:

Mae porthladdoedd yn rhan annatod o바카라 사이트™n hanes diwydiannol cyfoethog sy바카라 사이트™n gyrru ein heconomi, ac mae ganddynt botensial enfawr i gyflymu diwydiannau바카라 사이트™r dyfodol sy바카라 사이트™n cefnogi sero net, o ynni alltraeth i weithgynhyrchu uwch.

Diolch i바카라 사이트™r cytundeb rydym wedi바카라 사이트™i sicrhau gyda Llywodraeth y DU, rydym yn lansio Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru sy바카라 사이트™n cynnig cyfle i fanteisio ar botensial economaidd helaeth Cymru, gartref ac yn rhyngwladol, trwy ail-ddychmygu rôl porthladdoedd, ar yr un pryd â hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Felly, rwyf yn chwilio am gynigion sy바카라 사이트™n torri trwy nenfwd diwydiant o ran safonau sero net, yn arddangos y safonau llafur uchel sy바카라 사이트™n hyrwyddo gwaith teg, ac yn cyfleu gweledigaeth a rennir wedi바카라 사이트™i ffurfio gan gynghreiriau hirsefydlog sy바카라 사이트™n cynnwys yr holl bartneriaid cymdeithasol o ddifrif.

Edrychaf ymlaen at ystyried cynigion arloesol sy바카라 사이트™n cyflawni buddion economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.

Wedi ei gefnogi gan £26 miliwn o nawdd gan Lywodraeth y DU, prif nod y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yw creu swyddi mewn diwydiannau newydd a chyffrous, hybu바카라 사이트™r economi leol ac adfywio바카라 사이트™r ardaloedd sydd ei angen fwyaf.

Argymhellir ymgeiswyr i arddangos sut y byddai바카라 사이트™r Porthladd Rhydd newydd yn:

  • cryfhau ar les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru

  • cefnogi Cymru i adeiladu economi cryfach a gwyrddach wrth iddi ymgymryd ar frys gyda바카라 사이트™r dasg o ddatgarboneiddio, gyda phwyslais ar waith teg a chefnogi diwydiannau a gwasanaethau바카라 사이트™r dyfodol

  • ffurfio cynghreiriau a phartneriaethau cryf gydag arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau gyda chyrhaeddiad byd-eang, a busnesau sydd ag uchelgais o greu cyrhaeddiad byd eang, i gyflawni eu hamcanion

Dywedodd Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd agenda Porthladdoedd Rhydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd ar gyfer Ffyniant Bro i bobl a busnesau mewn cymunedau ar draws y wlad.

Drwy greu cannoedd o swyddi lleol a hybu buddsoddiad, bydd y Porthladd Rhydd Cymreig llwyddiannus yn creu buddion sylweddol ar gyfer ei ardal amgylchynol.

Mae hyn yn hynod o gyffrous i Gymru, ac rwy바카라 사이트™n edrych ymlaen at weld ceisiadau gan gymaint o safleoedd arfaethedig a phosib

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar y cyd y byddent yn barod i ystyried yr achos dros sefydlu Porthladd Rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai cais wirioneddol arbennig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod ymgeisio.

Mae Cymru eisoes wedi derbyn miliynau gan Lywodraeth y DU i greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro. Mae바카라 사이트™r nawdd hwn wedi cyfrannu at brosiectau megis trawsnewid Castell Hwlffordd i atyniad sy바카라 사이트™n barod ar gyfer yr holl dymhorau, gweddnewidiad i Neuadd Ddawns y Frenhines yn Nhredegar, a rhoi bywyd newydd i Landrindod drwy greu tai fforddiadwy ac effeithlon.

Mae바카라 사이트™r datblygiadau sydd wedi eu cyflawni hyd yn hyn ar Borthladd Rhydd yng Nghymru yn adeiladu ar yr agenda uchelgeisiol hwn, gan wireddu ein hymrwymiad i hyrwyddo ffyniant bro drwy wasgaru cyfleodd mewn modd mwy cydradd ar draws y DU.

Mwy o wybodaeth

Prosbectws ceisio Porthladd Rhydd Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg

Rhaid i ymgeiswyr a phartneriaethau aml-ymgeisydd gyflwyno eu cynigion i바카라 사이트™r ddwy lywodraeth drwy바카라 사이트™r porth cynnig ar-lein erbyn 6pm ar 24 Tachwedd 2022. Gall cynigwyr posibl cofrestru i gael mynediad porth drwy바카라 사이트™r .

Mae Porthladdoedd Rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau바카라 사이트™r DU lle mae rheoliadau economaidd a thollau gwahanol yn berthnasol. Mae porthladdoedd rhydd yn safleoedd sy바카라 사이트™n canolbwyntio ar un neu gyfuniad o aer, rheilffyrdd, neu borthladd môr, o fewn ffin allanol sy바카라 사이트™n cwmpasu. Darganfod mwy o wybodaeth am Borthladdoedd Rhydd.

Office address and general enquiries

2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Contact form /gui...

General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000

Media enquiries

Email newsdesk@levellingup.gov.uk

Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209

Social media - DLUHC

Twitter -
Flickr -
LinkedIn -

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Medi 2022 show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. First published.