Datganiad i'r wasg

Cynhadledd buddsoddi rhyngwladol i바카라 사이트™w chynnal yng Nghymru

Cymru i gynnal cynhadledd buddsoddi rhyngwladol fydd yn creu swyddi a hybu twf yn y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bydd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes ac Edwina Hart, Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd cynhadledd buddsoddi rhyngwladol a fydd yn creu swyddi ac yn ysgogi twf yn y DU yn cael ei chynnal yng Nghymru.

Bydd y gynhadledd yn dilyn Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi a바카라 사이트™i thestun fydd 바카라 사이트˜Mabwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol바카라 사이트™. Cynhelir y gynhadledd ar 20 a 21 Tachwedd yng ngwesty바카라 사이트™r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Bydd yn canolbwyntio ar dechnolegau newydd a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Masnach a Buddsoddi바카라 사이트™r DU. Bydd yn dangos bod Cymru a gweddill y DU yn amgylchedd penigamp ar gyfer twf busnes ac i fuddsoddi mewn busnes. Dangosodd ffigurau mewnfuddsoddi blynyddol Masnach a Buddsoddi바카라 사이트™r DU eleni bod Cymru wedi denu 79 prosiect buddsoddi o dramor yn 2013-14, y lefel uchaf ers 24 blynedd, gan greu neu ddiogelu dros 10,000 o swyddi.

Dangosodd yr adroddiad hefyd bod 66,390 o swyddi newydd wedi cael eu creu ledled y DU, y nifer mwyaf er 2001. I gyd gyda바카라 사이트™i gilydd, sefydlwyd 1,773 o brosiectau buddsoddi yn y DU gan fusnesau o dramor yn ystod 2013/14.

Gwneir y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Sony ym Mhencoed sef lle y gwneir y cyfrifiaduron Raspberry Pi arloesol.

Dywedodd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes:

Mae llawer o gwmnïau llwyddiannus eisoes wedi ymsefydlu yng Nghymru. Mae rhai ohonynt wedi dechrau yma tra bo eraill wedi symud yma er mwyn buddsoddi a thyfu. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle da i arddangos cryfderau Cymru fel lle gwych i wneud busnes a lle sy바카라 사이트™n croesawu buddsoddi o dramor. Mae strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth yn rhoi바카라 사이트™r hyder i fusnesau fuddsoddi dros y tymor hir, gan greu바카라 사이트™r swyddi medrus iawn sy바카라 사이트™n angenrheidiol i sicrhau bod y wlad hon yn ffynnu yn y dyfodol. Bydd yn helpu i greu economi gryfach a thecach yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:

Bydd uwchgynhadledd NATO yn gyfle i hyrwyddo Cymru i바카라 사이트™r byd, a bydd y gynhadledd fuddsoddi hon yn gyfle i ni arddangos yr hyn sydd gan Gymru i gynnig i fyd busnes a diwydiant yn benodol. Bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi바카라 사이트™r DU yn canolbwyntio ar amryw o dechnolegau newydd a fydd yn ein galluogi i amlygu arbenigedd Cymru yn y maes hwn ar draws ystod o ddiwydiannau allweddol.

Mae바카라 사이트™r gwaith ymchwil a datblygu arloesol y mae cwmnïau a sefydliadau academaidd arbenigol yng Nghymru yn ei wneud yn waith o ddiddordeb rhyngwladol. Gyda바카라 사이트™r gallu cyfrifiadura perfformid uchel sydd gan Gymru a바카라 사이트™i mynediad at gyfleusterau o safon fyd-eang, mae바카라 사이트™r hyn sydd gan Gymru i바카라 사이트™w gynnig i ddarpar fewnfuddsoddwyr sydd am dyfu eu busnes yn gymhellol iawn.

Er 1968 mae바카라 사이트™r cwmni Japaneaidd, Sony, wedi buddsoddi바카라 사이트™n sylweddol yn y DU ac mae바카라 사이트™n cynnal ystod eang o바카라 사이트™i weithgareddau yma, o wneud cyfarpar darlledu yng Nghymru i weithgareddau datblygu gemau, offer symudol a gweithrediadau trysorlys byd-eang yn Llundain.

Yn Tsieina yr oedd Raspberry Pi yn gwneud ei gyfrifiaduron maint cerdyn credyd i ddechrau, ond mae ffatri Sony ym Mhencoed yn golygu bod y cwmni wedi gallu symud y gwaith i Dde Cymru ym mis Awst 2012 a bellach mae바카라 사이트™n cyflogi rhwng 70 a 100 o bobl. Mae dros 3.5 miliwn o gyfrifaduron Raspberry Pi wedi cael eu gwerthu ar draws y byd a rhoddir un i bob un o바카라 사이트™r arweinwyr tramor a fydd yn bresennol yn Uwchgynhadledd NATO.

Yn ystod ei amser yng Nghymru, bydd yr Ysgrifennydd Busnes hefyd yn ymweld â Renishaw ym Mhontyclun, cwmni sy바카라 사이트™n gwneud peiriannau argraffu 3D sy바카라 사이트™n cael eu defnyddio mewn sectorau mor amrywiol â deintyddiaeth ac awyrofod. Bydd hefyd yn ymweld â Concrete Canvas ym Mhontypridd sy바카라 사이트™n cynhyrchu defnydd newydd arloesol sy바카라 사이트™n dal dŵr yn hynod o dda pan gaiff ei rolio allan, gan gefnogi prosiectau adeiladu mawr mewn amgylcheddau eithafol sy바카라 사이트™n cynnwys amddiffyn piblinellau ar waelod y môr. Mae바카라 사이트™r ddau gwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Arloesi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae rhai o바카라 사이트™r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y byd wedi바카라 사이트™u lleoli yng Nghymru a bydd y gynhadledd hon yn amlygu pam mae Cymru yn lle mor wych i fuddsoddi ynddo. Bydd y gynhadledd yn arddangos twf y sector technoleg uchel yng Nghymru a바카라 사이트™r enw da cynyddol sydd gennym am ragoriaeth yn y maes hwn.

Rydym am greu gwaddol parhaol yn sgil Uwchgynhadledd NATO a bydd y gynhadledd hon yn hyrwyddo popeth sy바카라 사이트™n arbennig am fuddsoddi yng Nghymru. Bydd hefyd yn dangos sut y gall cwmnïau yng Nghymru fanteisio i바카라 사이트™r eithaf ar gyfleoedd ym maes marchnadoedd allforio sy바카라 사이트™n tyfu, gan osod Cymru ar y blaen ac wrth galon y ras fyd-eang.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae Adroddiad Blynyddol Masnach a Buddsoddi바카라 사이트™r DU ar Fewnfuddsoddi ar gael yma

  2. Rhestr o바카라 사이트™r 10 gwlad uchaf sy바카라 사이트™n buddsoddi yn y DU:

Gwlad Prosiectau
Yr Unol Daleithiau 501
Japan 116
Ffrainc 110
Yr Almaen 2
Canada 89
Tsieina 88
India 74
Yr Eidal 70
Awstralia 69
Iwerddon 55

3.Cyfanswm y prosiectau a바카라 사이트™r swyddi (newydd ac wedi바카라 사이트™u diogelu) yn ôl grŵp diwydiannol:

Grŵp diwydiannol Prosiectau Cyfanswm y swyddi
Gweithgynhyrchu Uwch 418 37,204
Ynni a seilwaith 310 31,261
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol 385 21,661
Y Diwydiannau creadigol a TGCh 400 12,466
Gwyddorau Bywyd 156 4,473
Electroneg a thelathrebu 104 4,296
Cyfanswm 1,773 111,361

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Awst 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.