Datganiad i'r wasg

Treialon maes yn mynd rhagddynt ar gyfer brechlyn i wartheg a phrawf croen ar gyfer twbercwlosis buchol sy'n torri tir newydd

Lansiwyd y treialon maes clinigol cyntaf yn y byd ar gyfer brechlyn BCG a phrawf croen DIVA ar fferm wartheg yn Swydd Hertford.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
A photo of the Animal and Plant Health Agency's logo

A photo of the Animal and Plant Health Agency's logo

  • Lansiwyd y treialon maes clinigol cyntaf yn y byd ar gyfer brechlyn BCG a phrawf croen DIVA ar fferm wartheg yn Swydd Hertford.
  • Caiff y gwaith ei ehangu i gynnwys rhagor o ffermydd ledled Cymru a Lloegr
  • Bydd y treialon yn helpu i ganfod pa mor gywir a diogel yw바카라 사이트™r brechlyn i wartheg a바카라 사이트™r prawf croen

Cyhoeddodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) heddiw fod treialon maes ar gyfer brechlyn i wartheg a phrawf croen newydd ar gyfer twbercwlosis buchol (bTB), sef y cyntaf o바카라 사이트™u math yn y byd, wedi dechrau yn Lloegr.

Os bydd y treialon maes yn llwyddiannus, bydd ffermwyr a milfeddygon gam yn nes at allu brechu eu hanifeiliaid rhag y clefyd, gan helpu i achub miloedd o wartheg a fyddai바카라 사이트™n cael eu difa bob blwyddyn fel arall er mwyn atal bTB rhag lledaenu i fuchesi eraill. Bydd y prawf croen a gaiff ei ddarparu gyda바카라 사이트™r brechlyn hefyd yn ddatblygiad pwysig iawn drwy alluogi milfeddygon i ganfod gwartheg sydd wedi cael eu brechu a바카라 사이트™r rhai sydd wedi바카라 사이트™u heintio â바카라 사이트™r clefyd 바카라 사이트“ nid yw hyn wedi bod yn bosibl hyd yma.

bTB yw바카라 사이트™r her anoddaf a mwyaf anhydrin i iechyd anifeiliaid rydym yn ei hwynebu heddiw, ac mae바카라 사이트™n costio tua £100 miliwn i drethdalwyr bob blwyddyn. Bu바카라 사이트™n rhaid lladd dros 36,000 o wartheg yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn mynd i바카라 사이트™r afael â바카라 사이트™r clefyd, ac mae바카라 사이트™r DU ar flaen y gad yn y gwaith o ddatblygu brechlyn i wartheg, gyda바카라 사이트™r nod o바카라 사이트™i gyflwyno erbyn 2025.

Ym mis Rhagfyr, dyfarnodd APHA 바카라 사이트“ sydd â mwy na 500 o staff sy바카라 사이트™n rhan o바카라 사이트™r gwaith o fynd i바카라 사이트™r afael â바카라 사이트™r clefyd 바카라 사이트“ i gynnal treialon maes clinigol ar wartheg yn sgil mwy nag 20 mlynedd o waith ymchwil arloesol a gynhaliwyd gan yr asiantaeth.

Mae fferm â statws heb bTB yn Swydd Hertford wedi dechrau ar gam cyntaf y treialon hyn i ganfod pa mor ddiogel a chywir yw prawf croen DIVA, a bydd mwy o fuchesi ledled Cymru a Lloegr yn ymuno yn y treialon yn ystod y misoedd nesaf.

Os bydd y treialon hyn yn llwyddiannus, caiff yr astudiaeth ei hehangu wedyn i gynnwys rhagor o ffermydd yng Nghymru a Lloegr fel rhan o바카라 사이트™r ail gam er mwyn profi brechlyn BCG i wartheg a phrawf croen DIVA gyda바카라 사이트™i gilydd.

Drwy hyn, bydd yn bosibl i ni gasglu digon o dystiolaeth i ategu cais am Awdurdodiad Marchnad (MA) i바카라 사이트™r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i ddefnyddio바카라 사이트™r brechlyn a바카라 사이트™r prawf yn y DU.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a바카라 사이트™r Alban:

Twbercwlosis Buchol yw un o바카라 사이트™r heriau anoddaf ym maes clefydau anifeiliaid rydym yn eu hwynebu heddiw. Fodd bynnag, bydd llawer o ffermwyr y mae바카라 사이트™r clefyd hwn wedi cael effaith fawr arnynt yn croesawu바카라 사이트™r newyddion bod y treialon maes arloesol hyn bellach wedi dechrau, am eu bod yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrechion i gyflwyno brechlyn effeithiol i wartheg erbyn 2025.

Os bydd y treialon hyn yn llwyddiannus, gallai바카라 사이트™r prosiect hwn, sef y cyntaf o바카라 사이트™i fath yn y byd, arwain at ddefnyddio brechlyn bTB i wartheg a phrawf croen DIVA am y tro cyntaf, a bydd yn hollbwysig er mwyn mynd i바카라 사이트™r afael â바카라 사이트™r clefyd ofnadwy hwn sy바카라 사이트™n effeithio ar lawer o wledydd ledled y byd.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen i frechu gwartheg rhag bTB ar gael ar ac ar wefan .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2021