Stori newyddion

Dathlu wrth i 17 o enillwyr Gwobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn gael eu cyhoeddi heddiw yng Nghymru

Llongyfarchiadau i바카라 사이트™r 17 sefydliad yng Nghymru 바카라 사이트“ ymhlith mwy na 300 yn genedlaethol 바카라 사이트“ sydd wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2025.

Mae cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle yn cael eu cydnabod heddiw gyda Gwobr Arian fawreddog ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bydd yr 17 enillydd o Gymru yn cael eu gwahodd i dderbyn eu gwobr mewn seremoni arbennig yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 17 Gorffennaf, lle byddant yn cael eu hanrhydeddu gyda Salíwt Ynnau Frenhinol.

Llongyfarchiadau i:

  • Active4Blood
  • Andy Swan Driver Services Ltd
  • Bulldogs Boxing and Community Activities
  • Cobra Life Martial Arts Ltd
  • Tîm Meddygol Digwyddiadau - Saltney Ltd
  • Henry Williams and Son (Roads) Ltd
  • Platts Group
  • Riverside Retreat Veterans Camp CIC
  • Shadow Response Security & Medical Ltd
  • Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru
  • Business in Focus Limited
  • IG Doors Limited
  • MPH Construction
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • R&M Williams Limited
  • V3 Group (UK) Ltd
  • Coleg Penybont

Dywedodd yr Uwchfrigadydd Jamie Gordon, Prif Weithredwr Cyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid:

Mae바카라 사이트™r enillwyr Gwobr Arian hyn yn gynghreiriaid dibynadwy i Amddiffyn. Nid dim ond siarad gwag yw eu cefnogaeth - maen nhw바카라 사이트™n dangos eu cefnogaeth, bob dydd, trwy bolisïau hyblyg, eiriolaeth weladwy, ac ymrwymiad hirdymor i바카라 사이트™r rhai sy바카라 사이트™n gwasanaethu. Mae hyn yn golygu mwy na bwriadau da; mae바카라 사이트™n golygu cefnogaeth ymarferol a pharhaus sy바카라 사이트™n cryfhau ein gwytnwch cenedlaethol.  Mae바카라 사이트™n braf iawn eu bod wedi cael eu cydnabod am bopeth maen nhw바카라 사이트™n ei wneud i바카라 사이트™n Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr a Chadetiaid.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Prosiect Cyn-filwyr, Bulldogs Boxing and Community Activities:

Mae Bulldogs BCA yn falch dros ben ac yn teimlo ei bod hi바카라 사이트™n anrhydedd fawr cael y Wobr Arian fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae바카라 사이트™r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a바카라 사이트™u teuluoedd.

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymdrechion i ddarparu cyfleoedd, dealltwriaeth a chefnogaeth ymarferol wedi cael eu cydnabod ar lefel mor fawreddog. Mae바카라 사이트™r wobr hon nid yn unig yn tynnu sylw at y gwerthoedd sydd wrth wraidd Bulldogs BCA ond hefyd yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i hyrwyddo바카라 사이트™r rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad a pharch.

Er mwyn ennill Gwobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o바카라 사이트™u polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu yn ymwybodol o바카라 사이트™u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl Amddiffyn ar gyfer Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Oedolion sy바카라 사이트™n Wirfoddolwyr gyda Lluoedd Cadetiaid a phriod a phartneriaid y rhai sy바카라 사이트™n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, mae cyflogwyr yn cefnogi personél Amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae gan y cynllun dair lefel, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau sy바카라 사이트™n addo, arddangos ac eirioli cefnogaeth i bersonél Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Mr Craig Middle, DRM y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru:

Mae ennill gwobr Arian ERS wedi bod yn daith i바카라 사이트™n holl enillwyr haeddiannol. Mae바카라 사이트™r daith hon wedi cynnwys archwilio바카라 사이트™r hyn y gall pob agwedd ar y gymuned Amddiffyn ei wneud i바카라 사이트™w timau. Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr eleni, edrychwn ymlaen at ddathlu gyda nhw yn bersonol fis nesaf.

Ddarganfod mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a sut gall eich busnes elwa ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog:

Cyswllt:

Craig Middle, Rheolwr Perthynas Amddiffyn (DRM) De Cymru

Tony Fish, Rheolwr Perthynas Amddiffyn (DRM) Gogledd Cymru

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2025