Galwad ar arbenigwyr diwydiant i ymuno â grwpiau cynghori allweddol PecynUK
Mae PecynUK yn gwahodd arbenigwyr o'r diwydiant i ymuno â grwpiau ymgynghorol allweddol.

Mae PecynUK, y gweinyddwr sydd newydd ei benodi ar gyfer y cynllun pEPR, wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o바카라 사이트r gadwyn werth pecynwaith i바카라 사이트w arwain yn ei waith.
Bydd y berthynas waith agos yma yn cael ei chefnogi gan gyngor arbenigol gan y pedwar bwrdd cynghori canlynol:
- Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchadwyedd
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd
- Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad
Bydd argymhellion y grwpiau yma yn chwarae rhan ganolog i arwain PecynUK wrth iddo dyfu a datblygu.
Bydd y pedwar grŵp cynghori gwirfoddol yma yn rhoi cyngor arbenigol ac argymhellion i dîm arweinwyr PecynUK. Fydd y grwpiau ddim yn gwneud penderfyniadau, ond yn ffynhonnell gwybodaeth a phrofiad dibynadwy sy바카라 사이트n cynnwys aelodau a fydd â thoreth o arbenigedd gweithredol ac arbenigedd polisi o amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a바카라 사이트r sector preifat.
Datganiad o ddiddordeb i ymuno â Phwyllgorau Cynghori PecynUK nawr yn agored
Rydyn ni바카라 사이트n falch o gyhoeddi ein bod bellach yn croesawu Datganiadau o Ddiddordeb i ymuno â바카라 사이트r tri grŵp cynghori canlynol:
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchadwyedd
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd
- Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad
Bydd pymtheg swydd ar gael ar bob un o바카라 사이트r grwpiau cynghori hyn, yn amodol ar broses ymgeisio gystadleuol deg ac agored.
Bydd ceisiadau yn cau ar 24 Mawrth 2025. Bydd profiad amlwg yn y sector yn hanfodol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael isod.
Manylion pellach ar bob grŵp cynghori
Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchu (RAM TAC)
Bydd y RAM TAC yn darparu cyngor technegol ar gynaliadwyedd pecynwaith gan helpu PecynUK i ddarparu fersiynau olynol o바카라 사이트r RAM a fydd yn adlewyrchu ailgylchadwyedd ac yn ystyried gwahanol seiliau asesu. Byddan nhw바카라 사이트n sicrhau bod y cyngor y mae Gweinyddwr y Cynllun yn ei gael ynghylch ailgylchadwyedd pecynwaith a nodweddion amgylcheddol eraill yn gyfredol ac yn adlewyrchu tueddiadau ac arloesiadau.
Bydd RAM TAC Gweinyddwr y Cynllun hefyd yn asesu ymholiadau technegol dethol a materion sy바카라 사이트n ymwneud â deunyddiau pecynwaith ac yn cynghori Gweinyddwr y Cynllun ar ganlyniad eu hasesiad technegol.
Bydd y RAM TAC yn cyfarfod bob chwarter.
Y Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlon ac Effeithiol (E&E TAC)
Bydd yr E&E TAC yn bwyllgor technegol annibynnol sy바카라 사이트n deall arferion gorau awdurdodau lleol a rheoli gwastraff o bob rhan o바카라 사이트r Deyrnas Unedig a thrwy ddefnyddio바카라 사이트u harbenigedd byddan nhw바카라 사이트n gwneud argymhellion i PecynUK ar sut i gefnogi Awdurdodau Lleol sy바카라 사이트n gweithredu mewn ystod o wahanol sefyllfaoedd.
Bydd y pwyllgor yn darparu cyngor, arweiniad ac argymhellion arbenigol ar sail tystiolaeth dda i Bwyllgor Gwaith Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo), ond nid yw바카라 사이트n gorff sy바카라 사이트n gwneud penderfyniadau.
Bydd yr E&E TAC yn cyfarfod bob chwarter.
Y Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad (CBCAG)
Bydd y CBCAG yn dwyn ynghyd arbenigedd y gadwyn werth, cynrychiolaeth o바카라 사이트r pedair gwlad a gwybodaeth am newid ymddygiad er mwyn llywio a darparu cyngor arbenigol i Bwyllgor Gweithredol PecynUK ar strategaethau effeithiol ar gyfer cyfathrebu a newid ymddygiad.
Bydd y CBCAG yn cyfarfod bob chwarter.
Byddwn yn rhannu cyfleoedd i ymuno â바카라 사이트r SASG yn ddiweddarach yng ngwanwyn 2025.
Sut i wneud cais
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y pecynnau ymgeisio yma:
I wneud cais am unrhyw un o바카라 사이트r swyddi gwirfoddol hyn, dylid dychwelyd eich CV a바카라 사이트ch datganiad ategol i PackUK.governance@defra.gov.uk erbyn canol dydd ar 24 Mawrth 2025, gan nodi pa grŵp cynghori yr hoffech ymuno ag ef yn y maes pwnc.
Mae hefyd yn ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno바카라 사이트r canlynol:
- Ffurflen Gwybodaeth Amrywiaeth a Gwrthdaro Buddiannau
- CV heb fod yn fwy na dwy ochr o A4 yn amlinellu, cymwysterau proffesiynol a hanes cyflogaeth
- Datganiad ategol sy바카라 사이트n dangos sut rydych chi바카라 사이트n bodloni바카라 사이트r meini prawf hanfodol, gan roi enghreifftiau penodol (uchafswm o 500 gair).
Anfonwch unrhyw ymholiadau at packuk.governance@defra.gov.uk.